Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae ymddiriedolaethau yn ffordd o ofalu am asedau (arian, buddsoddiadau, tir neu adeiladau) ar gyfer pobl. Yma cewch wybod pam mae pobl yn sefydlu ymddiriedolaethau, a phwy sy'n ymwneud â'r gwaith o'u sefydlu ac sy’n gyfrifol amdanynt.
Trefniant cyfreithiol yw ymddiriedolaeth, lle pennir un neu ragor o ‘ymddiriedolwyr’ i fod â chyfrifoldeb cyfreithiol dros dal asedau. Mae’r asedau – megis tir, arian, adeiladau, cyfranddaliadau neu hyd yn oed hen greiriau – yn cael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth er budd un neu ragor o ‘fuddiolwyr’.
Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am reoli’r ymddiriedolaeth ac am wneud yn siŵr y gwireddir dymuniadau'r sawl sydd wedi rhoi’r asedau mewn ymddiriedolaeth (y ‘setlwr’). Fel rheol, bydd dymuniadau’r setlwr ar gyfer yr ymddiriedolaeth wedi’u hysgrifennu yn ei ewyllys neu wedi’u hamlinellu mewn dogfen gyfreithiol, sef y ‘ddogfen ymddiriedolaeth’.
Gellir sefydlu ymddiriedolaethau am amryw o resymau, er enghraifft:
Ceir sawl math o ymddiriedolaethau teulu yn y DU, ac mae pob math o ymddiriedolaeth yn cael ei drethu’n wahanol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen ar gyfer mathau o ymddiriedolaethau teulu yn y DU a'u goblygiadau treth.
Ceir mathau eraill o ymddiriedolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â theulu. Caiff y rhain eu sefydlu am amryw o resymau. Er enghraifft i weithredu fel elusen, neu fel ffordd i gyflogwyr greu cynllun pensiwn ar gyfer eu staff. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod ar gyfer Ymddiriedolaethau treftadaeth, elusennol neu sy’n gysylltiedig â busnes.
Mae ‘eiddo ymddiriedolaeth’ yn derm a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio’r asedau a roddwyd mewn ymddiriedolaeth. Gall gynnwys:
Caiff yr arian a’r buddsoddiadau a roddir mewn ymddiriedolaeth hefyd eu galw'n ‘gyllid’ neu ‘gyfalaf’ yr ymddiriedolaeth. Gall y cyfalaf neu’r cyllid hwn gynhyrchu incwm, megis llog ar gynilion neu ddifidend ar gyfranddaliadau. Gall y tir a’r adeiladau gynhyrchu incwm rhent. Gellir gwerthu asedau hefyd i sicrhau enillion ar gyfer yr ymddiriedolaeth. Mae sut y bydd yr incwm yn cael ei drethu yn dibynnu ar y math o incwm a’r math o ymddiriedolaeth.
Setlwr yw’r sawl sydd wedi rhoi’r asedau yn yr ymddiriedolaeth. Gelwir yr asedau hyn yn ‘eiddo setlo’. Fel rheol, caiff asedau eu rhoi yn yr ymddiriedolaeth pan gaiff yr ymddiriedolaeth ei chreu, ond gellir eu hychwanegu yn nes ymlaen hefyd. Y setlwr sy’n penderfynu sut y dylai’r asedau yn yr ymddiriedolaeth, ac unrhyw incwm y bydd yr ymddiriedolaeth yn ei derbyn, gael eu defnyddio. Gan amlaf, mae hyn wedi’i nodi yn y ddogfen ymddiriedolaeth.
Mewn rhai ymddiriedolaethau, gall y setlwr hefyd gael budd o’r asedau y mae wedi’u rhoi yn yr ymddiriedolaeth. Gelwir y mathau hyn o ymddiriedolaethau yn ymddiriedolaethau ‘budd i’r setlwr’, ac mae ganddynt eu rheolau treth eu hunain.
Yr ymddiriedolwyr yw perchnogion cyfreithiol yr asedau a roddir mewn ymddiriedolaeth. Dyma yw eu rôl:
Gall yr ymddiriedolaeth barhau hyd yn oed os bydd yr ymddiriedolwyr yn newid. Fodd bynnag, rhaid cael o leiaf un ymddiriedolwr. Yn aml, bydd o leiaf dau ymddiriedolwr. Efallai y bydd un ymddiriedolwr yn weithiwr proffesiynol sy’n gyfarwydd ag ymddiriedolaethau – er enghraifft cyfreithiwr – a’r llall yn aelod o’r teulu neu'n berthynas o bosib.
Mae buddiolwr yn golygu unrhyw un sy'n cael budd o'r asedau a roddwyd yn yr ymddiriedolaeth. Gellir cael un buddiolwr neu ragor, megis y teulu cyfan neu grŵp diffiniedig o bobl. Efallai y bydd pob buddiolwr yn cael budd o’r ymddiriedolaeth mewn ffordd wahanol.
Er enghraifft, efallai y bydd buddiolwr yn cael budd o'r canlynol:
Os ydych chi’n fuddiolwr, efallai ei bod yn rhaid i chi dalu treth ychwanegol neu fod gennych chi hawl i hawlio rhywfaint yn ôl, gan ddibynnu ar eich incwm cyffredinol.
At ddibenion treth, delir â phob ymddiriedolaeth yr un fath ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Er hynny, mae cyfraith yr Alban ynghylch ymddiriedolaethau a’r termau a ddefnyddir yng nghyswllt ymddiriedolaethau yn yr Alban yn wahanol i gyfreithiau Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau felly mae'n bosib y byddwch am gael help twrnai neu gynghorydd treth. Ond cofiwch fod gan yr ymddiriedolwr gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd dros faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni i rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.
Os hoffech i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion Treth Etifeddu bydd angen i chi roi eu manylion ar ffurflen IHT100.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs