Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifoldebau treth ymddiriedolwyr

Mae gan ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am reoli ymddiriedolaeth gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod treth yn cael ei datgan a’i thalu’n briodol. Os ydych chi’n ymddiriedolwr gallwch gael help proffesiynol, ond chi sy’n dal yn bennaf gyfrifol. Mae prif gyfrifoldebau ymddiriedolwr o ran treth wedi'u hegluro isod.

Mathau o ymddiriedolaethau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr

Mae faint o gyfrifoldebau a fydd gan ymddiriedolwyr yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth. Er enghraifft, mae ymddiriedolwr ‘ymddiriedolaeth disgresiwn’ (discretionary trust) yn gyfrifol am benderfynu pryd ddylid gwneud taliadau i fuddiolwyr. Mae ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddatgan a bod yn atebol am dreth ar fuddsoddiadau ymddiriedolaeth.

Mewn ymddiriedolaeth hawl absoliwt (bare trust), efallai na fydd gan yr ymddiriedolwr lawer o ddyletswyddau. Ar yr amod eu bod yn ddigon hen, y buddiolwyr fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio incwm a chyfalaf yr ymddiriedolaeth, a nhw fydd yn gyfrifol am ddatgan a didynnu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Efallai fod y sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth – y setlwr – wedi rhoi cyfarwyddiadau ei bod yn rhaid i’r ymddiriedolwyr gyflawni gwahanol swyddogaethau. Efallai y bydd y rhain wedi’u cynnwys yn y ‘ddogfen ymddiriedolaeth’, sy’n amlinellu telerau’r ymddiriedolaeth. Mae gan ymddiriedolwyr ddyletswydd gyfreithiol i weithredu’n unol â’r cyfarwyddiadau hyn.

Os oes mwy nag un ymddiriedolwr

Pan fo mwy nag un ymddiriedolwr, fel arfer byddwch yn trefnu i un person – sef y ‘prif ymddiriedolwr gweithredol’ – ddelio â Chyllid a Thollau EM.

Wrth weithredu, mae’r prif ymddiriedolwr gweithredol yn cynrychioli’r holl ymddiriedolwyr, felly:

  • os bydd yn delio â phopeth yn briodol, ystyrir bod yr holl ymddiriedolwyr wedi cyflawni eu dyletswyddau treth
  • os na fydd yn cyflawni dyletswyddau’r ymddiriedolwyr, ystyrir bod yr holl ymddiriedolwyr wedi methu cyflawni eu dyletswyddau

Mae holl ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth yn gyfrifol ar y cyd am unrhyw dreth sy’n ddyledus, nid dim ond cyfran o’r dreth. O ganlyniad, gall Cyllid a Thollau EM adennill unrhyw dreth neu log ar dreth gan unrhyw ymddiriedolwr os na fydd y prif ymddiriedolwr gweithredol yn talu neu os bydd yn hwyr yn talu. Hefyd, gall unrhyw ymddiriedolwr fod yn atebol am gosbau ariannol neu daliadau ychwanegol a fydd yn codi yn ystod y cyfnod pan oedd yn ymddiriedolwr.

Dyletswyddau ymddiriedolwyr o ran Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf

Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw incwm neu enillion yn cael eu datgan ac y telir treth.

Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM bod treth yn ddyledus

Os ydych chi’n ymddiriedolwyr a heb gael Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM pan fydd:

  • ymddiriedolaeth newydd, a fydd yn derbyn incwm neu’n gwneud enillion cyfalaf trethadwy, wedi cael ei sefydlu
  • ymddiriedolaeth nad yw wedi bod yn derbyn incwm, nac yn gwneud enillion cyfalaf trethadwy, yn dechrau gwneud hynny

Cadw cofnod o incwm ac enillion trethadwy’r ymddiriedolaeth

Bydd angen i ymddiriedolwyr gadw cofnod o incwm a chostau'r ymddiriedolaeth. Bydd angen y cofnodion hyn arnoch i lenwi'r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.

Llenwi a dychwelyd unrhyw ffurflen dreth

Os byddwch chi’n cael ffurflen dreth neu hysbysiad gan Gyllid a Thollau EM i ffeilio ffurflen dreth, bydd rhaid i chi naill ai lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd neu gyflwyno’r ffurflen ar-lein. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad yw’ch ymddiriedolaeth wedi derbyn unrhyw incwm nac wedi gwneud unrhyw enillion y flwyddyn honno.

Mae’n bwysig meddwl a oes gwir angen i Gyllid a Thollau EM gael gwybod am eich ymddiriedolaeth. Er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch chi’n llenwi ffurflen dreth yn ddiangen, mae’n well aros nes bydd eich ymddiriedolaeth yn derbyn incwm neu wedi gwneud unrhyw enillion cyfalaf trethadwy.

Mae’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau hefyd yn un o’r prif ffyrdd i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am newidiadau a digwyddiadau sy’n effeithio ar statws yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, asedau newydd sydd wedi’u trosglwyddo i’r ymddiriedolaeth, newidiadau yng nghyfeiriadau’r ymddiriedolwyr, neu’r ymddiriedolaeth yn dod i ben.

Talu’r dreth sy’n ddyledus ar incwm neu enillion trethadwy’r ymddiriedolaeth

Ar gyfer y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau, cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw gwneud yn siŵr bod yr holl dreth yn cael ei thalu’n brydlon.

Isod cewch wybod rhagor am ddyddiadau cau, cosbau ariannol a sut mae talu.

Darparu gwybodaeth i fuddiolwyr

Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw darparu datganiad i fuddiolwyr sy’n cael taliadau dewisol pan fyddant yn gofyn am hynny, gan ddangos faint o incwm y maent wedi’i gael mewn blwyddyn dreth. Dylai’r datganiad ddangos hefyd faint o dreth a dalwyd ar yr incwm hwnnw. Gallwch lwytho ffurflen R185 (Trust Income) i wneud hyn. Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio’r ffurflen hon hefyd i roi gwybod i fuddiolwyr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant am yr hyn sy'n ddyledus iddynt.

Os yw’n ymddiriedolaeth buddiant i’r setlwr, gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio ffurflen R185 (Settlor) i roi gwybod i’r setlwr faint o incwm y mae’n rhaid talu treth arno a faint o dreth sydd eisoes wedi cael ei thalu ar ran y setlwr.

Dyletswyddau ymddiriedolwyr o ran Treth Etifeddu

At ddibenion Treth Etifeddu, ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am ‘ddigwyddiad trethadwy’ mewn ymddiriedolaeth. Gall digwyddiad trethadwy gynnwys:

  • pan fydd deg mlynedd arall wedi mynd heibio ers sefydlu ymddiriedolaeth
  • pan fydd asedau yn cael eu trosglwyddo o ymddiriedolaeth

Defnyddiwch ffurflen IHT100 Cyfrif Treth Etifeddu i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am ddigwyddiad trethadwy ac i dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Cael help proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth

Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau, felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth. Ond cofiwch fod gan yr ymddiriedolwr gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd dros faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni at rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm ar ymddiriedolaethau, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion ar ffurflen IHT100.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU