Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn ogystal â chael incwm a rhannu budd i fuddiolwyr, mae'n bosib y bydd rhai digwyddiadau a newidiadau allweddol yn effeithio ar ymddiriedolaeth. Mae’n bosib y bydd yr ymddiriedolwyr yn newid, mae’n bosib y bydd yr asedau yn yr ymddiriedolaeth yn newid, neu mae’n bosib y bydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben. At ddibenion treth, mae angen i Gyllid a Thollau EM gael gwybod am y digwyddiadau a’r newidiadau hyn.
Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os caiff asedau megis arian, tir neu eiddo eu hychwanegu at ymddiriedolaeth sydd eisoes yn bodoli. Gallwch wneud hyn drwy ateb cwestiwn 12 ar y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau flynyddol – ffurflen SA900.
Bydd angen i chi ddarparu enw a chyfeiriad yr unigolyn a roddodd yr asedau yn yr ymddiriedolaeth, disgrifiad o’r asedau ac amcangyfrif o werth yr asedau.
I gael gwybod rhagor am lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, dilynwch y ddolen ar ddiwedd yr erthygl hon.
Mae’n bosib y bydd rhaid talu Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf hefyd wrth drosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth.
Fel arfer, yr unigolyn a fydd yn gyfrifol am dalu'r dreth hon fydd yr unigolyn sy'n rhoi'r asedau yn yr ymddiriedolaeth.
Ni fydd Cyllid a Thollau EM bellach yn rhoi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau bob pum mlynedd os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
Fodd bynnag, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn adolygu’r sefyllfa yn rheolaidd.
Pan fydd yr ymddiriedolaeth yn dechrau creu incwm – neu’n gwneud enillion cyfalaf trethadwy – bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM i ofyn am ffurflen dreth. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth lle mae'r ymddiriedolaeth yn dechrau creu incwm.
Os byddwch yn cael ffurflen dreth gan Gyllid a Thollau EM neu hysbysiad i ffeilio ffurflen dreth ar ôl ysgrifennu i ddweud nad yw'r ymddiriedolaeth bellach yn creu incwm, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen dreth o hyd. Fel arall, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Mae ar Gyllid a Thollau EM angen cael gwybod pan fydd manylion cyswllt ymddiriedolwyr yn newid. Nid yw hyn ddim ond yn berthnasol i'r prif ymddiriedolwr – y ‘prif ymddiriedolwr gweithredol’. Mae pob ymddiriedolwr yn gyfrifol am weithgareddau’r ymddiriedolaeth ar y cyd, ac mae ar Gyllid a Thollau EM angen y cofnodion diweddaraf ar gyfer pob un ohonynt. Felly, bydd angen rhoi gwybod iddynt am unrhyw ymddiriedolwr newydd, neu ymddiriedolwr sy'n ymddeol.
Os ydych chi’n ymddiriedolwr, byddai’n syniad da i chi ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i roi gwybod iddynt cyn gynted â phosib os bydd eich manylion cyswllt yn newid. Gallwch chi hefyd roi gwybod iddynt drwy ateb Cwestiwn 20 ar y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau. Bydd hyn yn cymryd mwy o amser, a bydd y ffurflen a'r datganiad cyfrif ddim ond yn cael eu hanfon i’r cyfeiriad post sydd gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer y prif ymddiriedolwr gweithredol neu ei gynrychiolydd proffesiynol.
Os bydd unrhyw rai o’r ymddiriedolwyr yn symud dramor, mae’n bosib y bydd yr ymddiriedolaeth yn mynd yn ymddiriedolaeth ‘ddibreswyl’. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi gysylltu ag Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM a rhoi gwybod iddynt fod yr amgylchiadau wedi newid.
Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau, felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth.
Ond cofiwch mai’r ymddiriedolwr sydd â chyfrifoldeb am faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni at rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm ar ymddiriedolaethau, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion ar ffurflen IHT100.
Os bydd ymddiriedolaeth yn peidio â bod neu’n cael ei dirwyn i ben, gallwch aros nes ddiwedd y flwyddyn dreth cyn rhoi gwybod i swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM. Yna, byddwch yn cael eich ffurflen dreth olaf.
Bydd yr holl ddyddiadau ar gyfer ffeilio’r ffurflen a gwneud taliad yn parhau i fod yr un fath.
Fodd bynnag, os byddwch am ddod â materion i ben yn gyflym, mae hynny’n bosib. I wneud hyn, rhaid i chi gael dyddiad penodol ar gyfer pryd y daeth yr ymddiriedolaeth i ben. Pan fydd y dyddiad hwn gennych chi, rhaid i chi wneud y canlynol:
Bydd gofyn i chi:
Os caiff asedau’r ymddiriedolaeth eu dosbarthu cyn i unrhyw dreth ddyledus gael ei thalu, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth honno gyda'ch arian eich hun.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs