Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau i ymddiriedolaeth

Pan fydd asedau yn cael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth, mae’n bosib y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu. Mae faint y bydd yn rhaid ei dalu yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth a gwerth ei asedau, amseriad a gwerth y trosglwyddiad, ac a yw'r sawl a roddodd yr asedau yn yr ymddiriedolaeth yn dal i gael budd o'r rhodd.

Beth mae trosglwyddiad i ymddiriedolaeth yn ei olygu?

Gelwir y sawl sy’n rhoi’r asedau mewn ymddiriedolaeth yn ‘setlwr’. Gall y broses o drosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth gynnwys adeiladau, tir neu arian, a gall fod yn un o’r canlynol:

  • rhodd a wnaed yn ystod bywyd person
  • trosglwyddiad neu drafodyn sy’n lleihau gwerth ystad y setlwr (er enghraifft, os bydd ased yn cael ei werthu i ymddiriedolwyr am bris llai na'i werth ar y farchnad) – bydd y golled i ystad y person yn cael ei hystyried yn rhodd neu’n drosglwyddiad

Cyfrifo a oes Treth Etifeddu'n ddyledus

Ar gyfer y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau, mae Treth Etifeddu’n ddyledus pan fyddwch chi’n gwneud trosglwyddiadau y mae eu cyfanswm yn uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13). Gallwch gyfrifo hyn drwy adio gwerth unrhyw drosglwyddiadau (yn seiliedig ar werth y golled i ystad y setlwr) ac unrhyw roddion trethadwy a wnaed gan y setlwr yn ystod y saith mlynedd flaenorol. Mae’n rhaid talu Treth Etifeddu ar bopeth sy’n uwch na’r trothwy.

Os mai’r ymddiriedolwyr fydd yn talu, 20 y cant fydd y gyfradd dreth. Os mai’r setlwr fydd yn talu’r Dreth Etifeddu yn hytrach na’r ymddiriedolwr, mae hyn yn golygu mwy o golled i ystad y setlwr. Felly, bydd y swm treth sy’n ddyledus yn cynyddu. Mae’r cyfrifiadau hyn yn gymhleth.

Sut mae talu eich Treth Etifeddu

Os oes Treth Etifeddu yn ddyledus ar eich trosglwyddiad i ymddiriedolaeth, bydd angen i chi lenwi’r ffurflenni canlynol:

  • IHT100 – ‘Cyfrif Treth Etifeddu’
  • IHT100a – ‘Gifts and other transfers of value’

Marwolaeth o fewn saith mlynedd i'r trosglwyddiad

Os byddwch chi’n marw o fewn saith mlynedd i wneud trosglwyddiad i ymddiriedolaeth, bydd yn rhaid i’ch ystad dalu Treth Etifeddu ar y gyfradd lawn o 40 y cant. Bydd hyn yn hytrach nag 20 y cant, sef y gyfradd is sy’n daladwy pan wneir y taliad yn ystod eich oes.

Os felly, bydd yn rhaid i’ch cynrychiolydd personol – a fydd yn rheoli eich ystad ar ôl i chi farw – dalu 20 y cant arall o'ch ystad yn seiliedig ar werth y trosglwyddiad gwreiddiol.

Os nad oedd Treth Etifeddu’n ddyledus pan wnaethoch chi’r trosglwyddiad, bydd gwerth y trosglwyddiad yn cael ei ychwanegu at eich ystad wrth gyfrifo a oes Treth Etifeddu’n ddyledus.

Os ydych chi’n parhau i gael budd o rodd mewn ymddiriedolaeth

Os byddwch chi'n rhoi rhodd mewn unrhyw fath o ymddiriedolaeth ond yn parhau i gael budd o’r rhodd – er enghraifft, rydych wedi rhoi’ch tŷ yn rhodd ond yn dal i fyw ynddo – byddwch yn talu 20 y cant ar y trosglwyddiad, a bydd y rhodd yn dal i gyfrif fel rhan o’ch ystad. Gelwir y rhoddion hyn yn ‘rhoddion gyda budd amodol’ – gallwch gael gwybod rhagor drwy ddilyn y ddolen isod at ‘Trosglwyddo eich cartref i’ch plant’.

O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd rhaid gwneud dau daliad Treth Etifeddu ar ôl i chi farw:

  • taliad pan fyddwch chi’n trosglwyddo’r rhodd i ymddiriedolaeth
  • taliad i’ch ystad ar ôl i chi farw – oherwydd bydd yr ased yn dal i gael ei ystyried yn rhan o’ch ystad

I osgoi trethiant dwbl, dim ond y taliad uchaf o’r taliadau hyn fydd yn rhaid i chi ei dalu – mewn geiriau eraill, ni fydd yn rhaid i chi byth dalu mwy na 40 y cant o Dreth Etifeddu.

Rhoi rhodd mewn ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl

Does dim rhaid i chi dalu Treth Etifeddu yn syth os byddwch chi’n rhoi rhodd mewn ymddiriedolaeth ar gyfer rhywun anabl.

Ond cofiwch, efallai y bydd Treth Etifeddu yn dal yn ddyledus ar ôl i chi farw – gweler yr adrannau uchod.

Yn y canllaw isod, cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut mae Treth Etifeddu yn berthnasol i ymddiriedolaethau ar gyfer person anabl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU