Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth Etifeddu ac ymddiriedolaethau ar ôl marwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, gall y gwaith o reoli ei ystad gynnwys delio ag ymddiriedolaethau. Efallai fod y sawl a fu farw yn dymuno i’w asedau gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth ar ôl iddo farw. Neu efallai fod rhan o’i ystad eisoes wedi cael ei rhoi mewn ymddiriedolaeth. Mae’r canllaw hwn yn rhoi sylw i gyfrifoldebau'r cynrychiolwyr personol o ran Treth Etifeddu.

Delio ag ymddiriedolaeth pan fydd rhywun yn marw

Gall y gwaith o setlo ystad rhywun fod yn gymhleth. Bydd yn rhaid i un o ysgutorion neu weinyddwr ystad y sawl a fu farw – sef y ‘cynrychiolydd personol’ – ganfod beth yw cyfanswm gwerth yr ystad. Mae Treth Etifeddu yn ddyledus ar bopeth sy’n uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12). Gall fod yn fwy cymhleth pan fydd hyn yn cynnwys ymddiriedolaeth.

Pan fydd cynrychiolydd personol y sawl a fu farw yn ceisio canfod a oes Treth Etifeddu'n ddyledus, bydd angen iddo ddelio â’r ymddiriedolaeth mewn tair prif ffordd.

Pan fo’r sawl a fu farw yn fuddiolwr ymddiriedolaeth

Caiff rhai ymddiriedolaethau eu sefydlu er mwyn i’r buddiolwr fod yn berchen, neu gael hawl gyfreithiol, i’r incwm neu’r asedau yn yr ymddiriedolaeth. Bydd hyn yn effeithio ar yr hyn gaiff ei gynnwys yn ystad y buddiolwr ar ôl iddo farw.

Buddiolwr ymddiriedolaeth hawl absoliwt (bare trust)

Ystyr ymddiriedolaeth hawl absoliwt yw ymddiriedolaeth lle mae gan y buddiolwr hawl i’r incwm a’r asedau yn yr ymddiriedolaeth. Felly, pan fydd y buddiolwr yn marw, bydd yr incwm a’r asedau yn cael eu hystyried yn rhan o’i ystad. Bydd angen i’r cynrychiolydd personol ganfod a oes angen talu unrhyw Dreth Etifeddu a chynnwys buddiant y sawl a fu farw yn yr ymddiriedolaeth hawl absoliwt ar ffurflen IHT400 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’.

Buddiolwr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Ystyr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant yw ymddiriedolaeth lle mae gan y buddiolwr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth yn unig. Pan fydd yn marw, bydd gwerth y ‘buddiant mewn meddiant’ hwn yn cael ei ystyried yn rhan o’i ystad dan rai amgylchiadau. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys:

  • os cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu cyn 22 Mawrth 2006
  • os cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu ar ôl 22 Mawrth 2006 a’i bod naill ai'n ‘ymddiriedolaeth buddiant yn syth ar ôl marwolaeth’, ‘ymddiriedolaeth buddiant i berson anabl’ neu’n ’ymddiriedolaeth cyfresol trosiannol’

Os mai chi yw’r cynrychiolydd personol, bydd angen i chi gyfrifo gwerth ‘buddiant mewn meddiant’ ac ateb cwestiynau 45 a 75 ar ffurflen IHT400. Bydd angen i chi weithio gyda'r ymddiriedolwyr i gael yr wybodaeth hon. Dyletswydd yr ymddiriedolwyr yw llenwi ffurflen IHT100 Cyfrif Treth Etifeddu. Bydd yn rhaid llenwi'r ffurflen hon pan ddaw ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant i ben hefyd.

Pan fo’r sawl a fu farw wedi trosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth cyn iddo farw

Mae’n bosib y bu'n rhaid talu 20 y cant o Dreth Etifeddu pan gafodd yr asedau eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth. Gallwch ddarllen y rheolau drwy ddilyn y ddolen isod.

Os mai chi yw’r cynrychiolydd personol, bydd yn rhaid i chi ganfod a wnaeth y sawl a fu farw unrhyw drosglwyddiadau i ymddiriedolaeth yn ystod y saith mlynedd cyn iddo farw. Os oedd wedi gwneud unrhyw drosglwyddiadau a’i fod wedi talu Treth Etifeddu ar yr adeg honno, caiff y dreth ei hailgyfrifo ar 40 y cant a chaniateir credyd ar gyfer y dreth a delir pan gafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu. Bydd yn rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu’r dreth ychwanegol. Rhaid i chi ddangos hyn yng nghwestiwn 28 ar ffurflen IHT400.

Hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddu’n ddyledus ar y trosglwyddiad, efallai y bydd angen i chi ychwanegu ei werth at ystad y sawl a fu farw pan fyddwch chi’n cyfrifo’r gwerth at ddibenion Treth Etifeddu.

Pan gaiff ymddiriedolaeth ei sefydlu drwy ewyllys

Wrth wneud ewyllys, gall rhywun ofyn am i rywfaint o’i asedau – neu ei holl asedau – gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth ar ôl iddo farw. Gelwir ymddiriedolaeth a sefydlir dan yr amgylchiadau hyn yn ‘ymddiriedolaeth ewyllys’. Yna, bydd yn rhaid i’r cynrychiolydd personol wneud yn siŵr bod yr ymddiriedolaeth yn cael ei sefydlu'n briodol ac y telir bob treth ar yr asedau a roddir yn yr ymddiriedolaeth.

Ar ôl sefydlu’r ymddiriedolaeth, dyletswydd yr ymddiriedolwyr yw gwneud yn siŵr y telir Treth Etifeddu ar unrhyw drosglwyddiadau eraill i'r ymddiriedolaeth neu o’r ymddiriedolaeth. Byddant yn gwneud hyn drwy lenwi ffurflen IHT100 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU