Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i’r ffurflenni Treth Etifeddu a phrofiant cywir

Mae’r erthygl hon yn egluro’r ffurflenni mwyaf cyffredin ar gyfer y Dreth Etifeddu a phrofiant (neu gadarnhad). Mae’r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar werth yr ystad ac ar ble’r oedd yr ymadawedig yn byw adeg ei farwolaeth. Hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddu yn ddyledus gan yr ystad, mae ffurflenni Treth Etifeddu yn dal yn rhan o’r broses profiant.

Ffurflenni profiant (neu gadarnhad)

Mae’r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch ar gyfer profiant (neu gadarnhad) yn dibynnu ar ble’r oedd yr ymadawedig yn byw. Fe’u llenwir ar yr un pryd â’r ffurflenni Treth Etifeddu sy’n briodol ar gyfer eich amgylchiadau – gweler yr adrannau isod ar ‘Ffurflenni ar gyfer ystadau eithriedig’ a ‘Ffurflenni pan fydd Treth Etifeddu yn ddyledus’.

Os oedd yr ymadawedig yn byw yng Nghymru neu’n Lloegr fel arfer

Os oedd yr ymadawedig yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Dylai’r ysgutor drefnu apwyntiad gyda Gwasanaeth Llys Gogledd Iwerddon, a byddan nhw’n darparu’r ffurflenni profiant.

Cewch wybod mwy am ddelio ag ystâd rhywun sydd wedi marw yng Ngogledd Iwerddon gan wefan Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon - dilynwch y ddolen isod.

Ffurflenni ar gyfer ‘ystadau eithriedig’ – lle nad oes angen cyfrif Treth Etifeddu llawn

Mae’r rhan fwyaf o ystadau yn ystadau eithriedig. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddynt dalu unrhyw Dreth Etifeddu. (Ond, nid yw pob ystad lle nad oes angen talu Treth Etifeddu yn ystadau eithriedig.)

Os nad ydych yn siŵr a yw’r ystad yn ‘eithriedig’, gweler y ddolen isod ynghylch beth yw ystyr ystad eithriedig.

Mae angen ffurflen ‘Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad’ ar gyfer ystad eithriedig. Ceir fersiynau gwahanol o’r ffurflen, gan ddibynnu’n bennaf ar ble roedd yr ymadawedig yn byw a dyddiad eu marwolaeth. Edrychwch ar frig y dudalen gyntaf i wneud yn siŵr bod gennych y ffurflen gywir ar gyfer dyddiad y farwolaeth.

Os oedd yr ymadawedig yn byw yng Nghymru, yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon

Os oedd yr ymadawedig yn byw yn yr Alban

Mae’r ffurflen y bydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar werth ystad yr ymadawedig – gweler y dolenni isod.

Os oedd yr ymadawedig yn byw dramor (ond bod ganddo werth llai na £150,000 o asedau yn y DU)

Yn yr achos hwn, rhaid bod cartref parhaol yr ymadawedig dramor a’i asedau yn y DU yn llai na £150,000 ac yn cynnwys arian parod, cyfrifon banc a stociau a chyfranddaliadau rhestredig yn unig.

O ran asedau yng Nghymru, yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon:

Trosglwyddo trothwy Treth Etifeddu sydd heb ei ddefnyddio

Os caiff trothwy Treth Etifeddu sydd heb ei ddefnyddio ei drosglwyddo fel bod yr eiddo yn gallu fod yn gymwys ar gyfer eiddo eithriedig, bydd angen i chi hefyd gwblhau’r ffurflen gais IHT217 i drosglwyddo’r band cyfradd dim sydd heb ei ddefnyddio ar gyfer eiddo eithriedig.

Ffurflenni pan fydd Treth Etifeddu yn ddyledus – neu bod angen cyfrif llawn

Os oes Treth Etifeddu yn ddyledus ar yr ystad – neu os nad yw’n ystad eithriedig – bydd yn rhaid i chi lenwi cyfrif Treth Etifeddu llawn.

Y brif ffurflen y bydd ei hangen arnoch yw ffurflen Cyfrif Treth Etifeddu 1HT 400, ac unrhyw dudalennau atodol. Mae’r ffurflen hefyd wedi disodli ffurflen IHT 200, ac nid yw’n gwneud gwahaniaeth ymhle roedd yr ymadawedig yn byw.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT 421 Crynodeb Profiant hefyd (neu ffurflen Gadarnhad C1 yn yr Alban).

Y ffurflen ar gyfer talu Treth Etifeddu

Os oes gennych unrhyw Dreth Etifeddu i’w thalu, rhaid i chi hefyd wneud cais am slip talu a chyfeirnod Treth Etifeddu. Os ydych chi’n gwybod beth oedd rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig, gallwch wneud cais ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Os nad ydych yn gwybod beth oedd rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig – neu os nad oedd un ganddynt – gallwch ddefnyddio’r ddolen isod i lwytho ffurflen IHT 422 i wneud cais am gyfeirnod Treth Etifeddu drwy’r post.

Ffurflenni pan fydd Treth Etifeddu yn ddyledus ar ymddiriedolaeth

Mae’r brif ffurflen y mae ei hangen arnoch ar gyfer talu Treth Etifeddu ar ymddiriedolaeth – a elwir yn ‘ddigwyddiad y codir ffi amdano’ – yr un fath ym mhob gwlad.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, bydd angen ffurflen ‘digwyddiadau’ arnoch hefyd. Efallai y bydd angen un neu ragor o dudalennau atodol arnoch hefyd. Bydd y ddolen isod yn eich tywys i dudalen a fydd yn dweud wrthoch pa ffurflenni eraill y bydd eu hangen arnoch.

Ffurflen ar gyfer cywiro eich cyfrif Treth Etifeddu

Os byddwch yn ffeilio Cyfrif Treth Etifeddu a bod yr amgylchiadau’n ymwneud â’r asedau yn newid yn ddiweddarach, bydd angen i chi anfon gyflwyno ffurflen C4 Cywiro’r Cyfrif. Bydd hyn yn gadael i chi ddangos ymhle rydych wedi talu gormod neu heb dalu digon o Dreth Etifeddu. Bydd yn rhoi caniatâd i chi gyfrifo asedau:

  • a gafodd eu hepgor yn anfwriadol
  • sydd wedi newid mewn gwerth

Os oes arnoch angen Grant Cadarnhau ychwanegol ar gyfer asedau yn yr Alban, bydd angen i chi lenwi ffurflen C4(S) Cywiro’r Cyfrif/Rhestr Lawn.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth


Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU