Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rydych chi’n llenwi ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad fel rhan o’r broses profiant (neu gadarnhad) i ddangos bod ystad yn ‘ystad eithriedig’. Golyga hyn nad oes angen cyfrif Treth Etifeddu llawn arni. Ceir sawl fersiwn o’r ffurflen. Mae’r canllaw hwn yn ateb cwestiynau cyffredin ynglŷn â ffurflenni IHT205 a C5.
Mae’r ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad yn dangos i Gyllid a Thollau EM bod yr ystad yr ydych yn delio â hi yn ystad eithriedig. Os nad yw’n ystad eithriedig, bydd y ffurflen yn dweud wrthych am lenwi cyfrif Treth Etifeddu llawn yn lle – ffurflen IHT400.
Fel arfer, os nad oes Treth Etifeddu i’w thalu ar ystad, bydd yn ystad eithriedig. Ond nid yw hyn yn wir bob tro.
Mae ystad fel arfer yn ystad eithriedig os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
Fodd bynnag, mae rheolau eraill y mae’n rhaid i chi eu hystyried hefyd. Gweler yr adran isod ynglŷn â phryd na ddylech chi ddefnyddio’r ffurflen.
Mae rhai rheolau sy’n golygu na all ystad fod yn ystad eithriedig, hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddu’n ddyledus ganddi. Yn yr achosion hyn, dylech lenwi ffurflen cyfrif Treth Etifeddu llawn – IHT400.
Mae sawl math a fersiwn o’r ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad i'w cael. Mae’r un y dylech ei defnyddio yn dibynnu gan fwyaf ar lle'r oedd y sawl a fu farw yn byw, a'r dyddiad y bu farw.
Y ffurflenni a ddefnyddir amlaf yw:
Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn defnyddio'r fersiwn gywir o’r ffurflen ar sail y dyddiad y bu’r unigolyn farw.
Mae pob ysgutor neu gynrychiolydd personol yn llofnodi’r ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad, gan y byddant oll yn cael eu henwi ar y grant profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).
Os ydych chi yng Nghymru neu yn Lloegr, dylech anfon y ffurflen IHT205 i'ch Cofrestrfa Brofiant agosaf. Bydd hefyd angen i chi gynnwys ffurflen PA1 Cais am Brofiant, yr ewyllys wreiddiol, y dystysgrif farwolaeth a ffi’r profiant.
Mae’r broses ychydig yn wahanol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.
Prif ddiben y ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad yw cadarnhau bod yr ystad yn ystad eithriedig.
Bydd gan y rhan fwyaf o bobl ystad eithriedig sy'n golygu y bydd angen i chi lenwi'r ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad IHT205 (neu C5 ar gyfer yr Alban). Byddwch hefyd yn ateb ‘na’ i’r rhan fwyaf o gwestiynau ar y ffurflen, neu bydd y cwestiynau ddim yn berthnasol i'r sawl a fu farw.
Efallai y bydd angen egluro rhai cwestiynau a’r derminoleg ar ffurflenni IHT205 a C5 i bobl sydd ddim yn arbenigwyr. Dilynwch y ddolen isod i gael crynodebau o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch rhoddion, ymddiriedolaethau, polisïau yswiriant, pensiynau, eithriadau ac asedau.
Mae canllawiau llawn ar gyfer y ffurflenni IHT205 a C5 hefyd ar gael i'w llwytho o'r dolenni isod.
Efallai y byddai o gymorth i chi drafod llenwi’r ffurflenni â’ch twrnai. Ceir dolenni at sefydliadau proffesiynol isod, ond ni fydd pawb wedi’i gofrestru gyda nhw.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs