Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r canllaw hwn yn ateb cwestiynau cyffredin am roddion ar ffurflenni Dychwelyd Gwybodaeth am Stadau Treth Etifeddu IHT205 a C5.
‘Gwerth trethadwy’ rhodd yw gwerth y rhodd ar ôl i chi ddidynnu unrhyw eithriadau megis am:
Er enghraifft, os rhoddodd yr ymadawedig un rhodd ariannol o £7,000 i rywun, gwerth trethadwy’r rhodd honno yw £4,000. Dyma’r cyfanswm ar ôl didynnu’r eithriad Treth Etifeddu blynyddol o £3,000.
Gallwch ddwyn ymlaen eithriad heb ei ddefnyddio hefyd o’r flwyddyn dreth flaenorol os yw eithriad yr ymadawedig yn y flwyddyn bresennol wedi’i ddefnyddio i gyd.
Ar stad wedi’i heithrio ble nad oes dim Treth Etifeddu i’w thalu, gall y frawddeg ‘gwerth trethadwy’ fod yn ddryslyd. Er bod rhaid i chi roi gwerth trethadwy pob rhodd ar y ffurflen, fel arfer, ni fydd rhaid talu Treth Etifeddu ar y rhoddion hynny.
‘Trosglwyddiad penodol’ yw rhodd lwyr (nid i ymddiriedolaeth) a roddwyd gan yr ymadawedig yn ystod ei oes. Fe’i gelwir hefyd yn ‘rhodd oes’ neu’n ‘drosglwyddiad oes’. Rhaid iddo fod yn un o’r canlynol:
Trosglwyddiadau penodol yw’r rhan fwyaf o roddion.
Fodd bynnag, petai’r ymadawedig wedi rhoi, er enghraifft, cyfranddaliadau heb eu rhestru i rywun, ni fyddai hyn yn drosglwyddiad penodol, felly ni fyddai’r stad yn stad eithriedig – hyd yn oed petaent wedi rhoi’r rhodd i rywun eithriedig. Yn yr achos hwn, byddai’n rhaid i chi lenwi cyfrif Treth Etifeddiant llawn – ffurflen IHT400 – hyd yn oed os yw’n annhebygol bod Treth Etifeddu yn ddyledus gan y stad.
Bydd y cwestiwn hwn yn berthnasol os mae’r ymadawedig wedi rhoi, dyweder, ei gartref neu ei gar i rywun arall ond wedi parhau i elwa ohono. Er enghraifft, os rhoddodd ei gartref i’w blant ond ei fod wedi parhau i fyw yno heb dalu rhent marchnad llawn. Câi hyn ei hystyried yn ‘rhodd gan gadw budd’ ac felly ni fyddai’r stad yn stad eithriedig.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs