Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae prisio rhoddion at ddibenion Treth Etifeddu

Mae Treth Etifeddu yn daladwy ar rai rhoddion - ond nid pob un - sy'n cael eu gwneud gan y sawl a fu farw, a dim ond os yw gwerth yr ystad dros drothwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 yn y flwyddyn dreth 2012-13). Bydd angen i chi feddwl am pryd y gwnaed y rhoddion ac a oeddynt wedi'u heithrio er mwyn cyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus.

Pa roddion y dylech eu cynnwys yn eich prisiad

Mae rhai rhoddion wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddu – yn enwedig rhoddion a wnaed dros saith mlynedd cyn marwolaeth y sawl a fu farw. Fodd bynnag, nid yw pob rhodd wedi’i heithrio.

Os na wnaeth y sawl a fu farw adael rhestr o bob rhodd a wnaeth cyn iddo farw, dylech chi wneud rhestr ohonynt a phenderfynu pa rai sydd wedi’u heithrio a pha rai nad ydynt wedi’u heithrio. Gallwch geisio gofyn i deulu a ffrindiau agos a ydynt yn gwybod am unrhyw roddion, neu edrych drwy waith papur neu ddatganiadau banc y mae’r sawl a fu farw wedi’u gadael.

Dylai’ch prisiad gynnwys:

  • unrhyw asedau – gan gynnwys arian parod – a roddwyd fel rhodd yn y saith mlynedd cyn y farwolaeth
  • unrhyw asedau a roddwyd fel rhodd gan y sawl a fu farw ar unrhyw adeg, ond yr oedd wedi cadw budd ynddynt – er enghraifft, tŷ a roddwyd ganddo ond yr oedd yn dal i fyw ynddo heb dalu rhent
  • rhoddion i ymddiriedolaethau - er y mae’n bosib y talwyd rhywfaint o Dreth Etifeddu ar y rhain pan gawsant eu gwneud

Sut mae cyfrifo gwerth rhoddion

Yn y rhan fwyaf o achosion, y gwerth y mae angen i chi ei gynnwys yw gwerth y rhodd pan gafodd ei gwneud. Fodd bynnag, os oedd gan y sawl a fu farw asedau yn werth mwy gyda'i gilydd nag ar wahân, a chyn iddo farw, ei fod wedi rhoi rhan o’i asedau fel rhodd, bydd colled yng ngwerth ystad y sawl a fu farw a fydd yn fwy na gwerth syml y rhodd. Mae Treth Etifeddu yn berthnasol i golled yng ngwerth ystad unigolyn. Yn y sefyllfaoedd hyn, y gwerth y dylech ei ddefnyddio yw cyfanswm gwerth yr asedau gyda’i gilydd, gan dynnu gwerth yr ased a gedwir.

Enghraifft un

Mae gan Sue set o ddau lun, a gyda’i gilydd maent yn werth £100,000. Mae’n rhoi un o’r lluniau i’w merch ddwy flynedd cyn iddi farw. Dim ond £30,000 yr un yw gwerth y lluniau ar wahân.

Wrth roi’r rhodd i’w merch, ystyrir bod ystad Sue wedi dioddef colled sy’n fwy na gwerth y rhodd. Felly, nid hanner gwerth gwreiddiol y ddau lun yw’r gwerth y mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio yn yr enghraifft hon, ond gwerth y golled i’r ystad, sef £70,000 (£100,000 tynnu £30,000, neu gyfanswm gwerth y ddau lun tynnu gwerth un llun).

Enghraifft dau

Mae Storey’s Publishing Ltd yn gwmni preifat a chanddo 10,000 o gyfranddaliadau. Mae Garry yn dal 6,000 ohonynt – sy’n golygu mai ef yw’r prif randdeiliad, gyda 60 y cant o’r cyfranddaliadau. Gan mai ef yw’r prif randdeiliad, mae ei gyfranddaliadau yn werth £100 yr un (£600,000).

Ychydig cyn iddo farw, rhoddodd Garry 2,000 o gyfranddaliadau i Michelle. Dim ond £75 yr un yw gwerth cyfranddaliadau sy’n cynrychioli llai na 50 y cant o’r cwmni. Felly, dim ond £300,000 yw gwerth y 4000 o gyfranddaliadau sydd ganddo ar ôl (4,000 x £75). Cyn iddo wneud y rhodd, roedd ystad Garry yn cynnwys cyfranddaliadau a oedd yn werth £600,000. Felly, mae'r rhodd yn cynrychioli colled o £300,000 i’w ystad.

Felly, nid £150,000 (2,000 o gyfranddaliadau yn werth £75 yr un) yw gwerth ei rodd at ddibenion Treth Etifeddu, ond £300,000 (£600,000 tynnu £300,000).

Os yw cyfanswm y rhoddion yn fwy na throthwy’r Dreth Etifeddu

Os yw cyfanswm gwerth y rhoddion a wnaed gan y sawl a fu farw yn fwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ym mlwyddyn dreth 2012-13), bydd treth yn daladwy ar yr holl roddion a wnaeth wthio’r cyfanswm dros y trothwy.
Mae rhoddion bob amser yn defnyddio trothwy’r Dreth Etifeddu yn gyntaf cyn gwerth unrhyw asedau neu eiddo arall a adawyd gan y sawl a fu farw.

I adnabod pa roddion y mae angen i chi dalu treth arnynt, dilynwch y camau canlynol:

Cam un: yn nhrefn dyddiad, rhestrwch bob rhodd a wnaeth y sawl a fu farw yn y saith mlynedd diwethaf nad ydynt wedi'u heithrio, gan ddechrau â'r un hynaf yn gyntaf

Cam dau: cadwch gofnod o gyfanswm cyfredol eu gwerth

Cam tri: pan fydd y cyfanswm cyfredol yn mynd dros y trothwy, bydd Treth Etifeddu yn daladwy ar y rhodd honno – neu'r rhan ohoni a wnaeth wthio'r cyfanswm dros y trothwy – a phob rhodd a wnaed ar ei hôl.

Enghraifft

Bu farw Masood ar 1 Mehefin 2008 pan oedd trothwy’r Dreth Etifeddu yn £312,000. Yn y saith mlynedd cyn iddo farw, gwnaeth y rhoddion canlynol (ar ôl didynnu’r rheini a oedd wedi’u heithrio).

Dyddiad

Gwerth y rhodd

Cyfanswm cyfredol

23 Awst 2001

£150,000

£150,000

12 Rhagfyr 2002

£100,000

£250,000

21 Gorffennaf 2003

£50,000

£300,000

15 Mawrth 2004

£15,000

£315,000

3 Mehefin 2007

£17,000

£332,000

6 Ionawr 2008

£10,000

£342,000

Pan ychwanegwyd rhodd Mawrth 2004, aeth y cyfanswm cyfredol dros y trothwy. Felly, mae Treth Etifeddu yn ddyledus ar y rhodd honno a phob rhodd ar ôl hynny.

Fodd bynnag, dim ond ar ran o'r rhodd o £15,000 a wnaed ym mis Mawrth 2004 y mae Treth Etifeddu yn ddyledus, sef y rhan a wnaeth wthio’r cyfanswm dros y trothwy. Felly, ar gyfer y rhodd honno, mae treth yn daladwy ar £3,000 (£315,000 o gyfanswm cyfredol - £312,000 o drothwy = £3,000 yn ormod dros y trothwy).

Gweithredu ‘Gostyngiad Meinhau’ (Taper Relief) ar roddion

Codir Treth Etifeddu ar gyfradd o 40 y cant. Ond, os bu farw unigolyn rhwng tair a saith mlynedd ar ôl gwneud rhodd, gallwch weithredu'r hyn a elwir yn 'Ostyngiad Meinhau' ar gyfanswm y Dreth Etifeddu sy'n ddyledus, er mwyn gostwng y swm sy'n daladwy.

Gostyngiadau Meinhau

Amser rhwng y dyddiad y gwnaed y rhodd a dyddiad y farwolaeth

Canran y gostyngiad meinhau i’w weithredu ar y dreth sy’n ddyledus

3 i 4 mlynedd

20%

4 i 5 mlynedd

40%

5 i 6 mlynedd

60%

6 i 7 mlynedd

80%

Enghraifft

Gwnaeth Joe rodd o £350,000 ar 15 Ionawr 2006. Bu farw ar 15 Ebrill 2009. Trothwy’r Dreth Etifeddu ar gyfer y flwyddyn y bu farw yw £325,000.

Dilynwch y camau isod i gyfrifo’r Dreth Etifeddu sy’n ddyledus:

Cam 1 – tynnwch swm y trothwy o werth y rhodd: £350,000 − £325,000 = £25,000. Felly mae Treth Etifeddu yn ddyledus ar £25,000.

Cam 2 – cyfrifwch y Dreth Etifeddu ar y gyfradd lawn o 40 y cant: £25,000 × 40 y cant = £10,000.

Cam 3 – gwnaed y rhodd o fewn tair i bedair blynedd cyn y farwolaeth. Felly, gellir gweithredu Gostyngiad Meinhau ar gyfradd o 20 y cant: £10,000 × 20 y cant = £2,000.

Cam 4 – tynnwch swm y Gostyngiad Meinhau o’r dreth sy’n ddyledus: £10,000 − £2,000 = £8,000.

Yn yr enghraifft hon, mae Gostyngiad Meinhau yn lleihau swm y dreth sy'n daladwy o £10,000 i £8,000.

Gostyngiad Meinhau ac ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’

Os ydych chi’n ail-gyfrifo’r dreth sy’n ddyledus ar asedau y gwnaeth y sawl a fu farw eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth eiddo perthnasol llai na saith mlynedd cyn iddo farw, a bod Gostyngiad Meinhau yn golygu y bydd y Dreth Etifeddu sy’n ddyledus pan fydd yn marw yn llai na'r dreth sydd eisoes wedi’i thalu, ni fydd Gostyngiad Meinhau yn berthnasol, ond ni fydd rhagor o dreth i'w thalu.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth rhywun

Allweddumynediad llywodraeth y DU