Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae prisio ystad rhywun sydd wedi marw – gwybodaeth sylfaenol

Pan fyddwch yn prisio ystad rhywun sydd wedi marw, mae’n rhaid i chi gynnwys yr eiddo, yr eiddo personol a’r arian a oedd yn eiddo iddynt adeg eu marwolaeth, yn ogystal â rhoddion penodol a roddasant hyd at saith mlynedd cyn eu marwolaeth. Rhaid i’ch prisiad adlewyrchu gwerth marchnad cyfredol yr ased adeg y farwolaeth.

Pan fydd yn rhaid i chi brisio ystad

Prisio ystad yr ymadawedig yw un o’r pethau cyntaf y dylech ei wneud os ydych chi’n gweithredu fel ysgutor neu gynrychiolydd personol yr ystad honno.

Fel arfer, ni allwch gael gafael ar asedau’r ystad nes byddwch wedi cael grant profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).

Mae angen i chi wybod beth yw gwerth yr ystad er mwyn llenwi’r ffurflenni cais am brofiant a dangos a oes Treth Etifeddu’n ddyledus ai peidio.

Asedau sy’n arfer cael eu cynnwys mewn ystad

Mae asedau yn golygu unrhyw beth sydd â gwerth, megis:

  • arian mewn cyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu neu gyfrif cynilo
  • tŷ a thir, gan gynnwys tir fferm
  • busnesau, neu asedau busnes, a oedd yn eiddo i’r ymadawedig (neu bartneriaeth fusnes yr oedd yr ymadawedig yn rhan ohoni)
  • buddsoddiadau megis stociau a chyfranddaliadau
  • eiddo personol, gan gynnwys gemwaith, hen greiriau a chasgliadau eraill
  • dodrefn, ffitiadau a gosodiadau mewn tŷ
  • cerbydau modur
  • pensiynau sy’n cynnwys taliad un swm adeg marwolaeth (yn hytrach na blwydd-dal parhaus i’r partner gweddw)
  • asedau mewn ymddiriedolaeth yr oedd yr ymadawedig yn cael budd ohonynt
  • taliadau o bolisïau yswiriant bywyd
  • asedau tramor, gan gynnwys cyfranddaliadau, eiddo neu gyfrifon banc tramor

Rhoddion

Rhaid i chi hefyd brisio’r canlynol i weld a ydynt wedi’u heithrio (ac os nad ydynt wedi’u heithrio, dylech eu cynnwys yn eich prisiad):

  • unrhyw asedau a roddwyd i ffwrdd yn ystod y saith mlynedd cyn y bu farw’r ymadawedig
  • unrhyw ased a roddodd yr ymadawedig i ffwrdd ar unrhyw adeg, ond yr oedd wedi cadw buddiant ynddo – er enghraifft, tŷ a roddodd i ffwrdd ond yr oedd yn dal i fyw ynddo heb dalu rhent

Eiddo cyfunol

Bydd angen i chi ganfod sut yr oedd yr ymadawedig yn berchen ar unrhyw eiddo neu asedau er mwyn cyfrifo gwerth cyfran yr ymadawedig.

Tir ac adeiladau

Mae’r holl dir neu adeiladau a oedd yn eiddo i’r ymadawedig yn rhan o’r ystad at ddibenion y Dreth Etifeddu. Os oedd yn byw heb dalu rhent mewn tŷ a oedd wedi’i adael mewn ymddiriedolaeth i rywun arall, bydd angen i chi gynnwys hyn hefyd wrth brisio’r ystad.

Stociau a chyfranddaliadau

Os oedd gan yr ymadawedig gyfranddaliadau neu fuddsoddiadau eraill a oedd wedi’u rhestru ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig neu os oes ganddo gyfranddaliadau mewn cwmni preifat, bydd angen i chi ddefnyddio’u gwerth ar y diwrnod y bu farw’r ymadawedig.

Ymddiriedolaethau

Os yw ystad yr ymadawedig yn cynnwys ymddiriedolaeth, bydd yn rhaid i chi ddilyn rheolau arbennig ar gyfer ei phrisio.

Dyledion a rhwymedigaethau’r ymadawedig

Mae dyledion a rhwymedigaethau yn golygu unrhyw filiau heb eu talu ac unrhyw beth arall a oedd yn ddyledus gan yr ymadawedig adeg ei farwolaeth, er enghraifft:

  • morgeisi heb eu talu
  • balans cerdyn credyd
  • gorddrafft banc
  • trethi personol heb eu talu, megis y Dreth Incwm
  • biliau’r cartref (e.e. trydan)
  • costau’r angladd

Camau allweddol wrth brisio ystad yr ymadawedig

Cam 1 – Cyfrifo cyfanswm gwerth yr asedau a’r rhoddion

Holwch beth oedd gwerth yr asedau ar y farchnad (pris gwerthu realistig) pan fu farw’r ymadawedig. Gallai hyn fod yn is na’r gwerth yswiriant.

Mae’n bosib y bydd angen i chi gynnal ymholiadau manylach er mwyn prisio rhai ystadau. Mae Cyllid a Thollau EM yn eich argymell yn gryf i chi ddefnyddio prisiwr proffesiynol i brisio ystadau ac adeiladau oherwydd gall fod yn ardal gymhleth. Bydd angen i chi dalu eu ffioedd, ond mae’n bosib y gallech hawlio rhain yn ôl gan yr ystad yn ddiweddarach.

Mae hyn yn cynnwys eitemau megis dodrefn, lluniau, paentiadau, llestri, teledu, cyfarpar clywedol a fideo, camerâu, gemwaith, ceir, carafanau, cychod, hen bethau a chasgliadau stampiau.

Cofiwch gynnwys unrhyw roddion (arian, eiddo neu asedau) gan yr ymadawedig nad oeddent wedi’u heithrio. Os nad ydych yn gwybod beth yw union werth unrhyw eitem a bod gwerth yr ystad yn debygol o fod yn llai na £200,000, gallwch ddefnyddio amcangyfrif, ond byddwch mor gywir â phosib.

Adiwch y rhain i gyd a chewch gyfanswm gwerth yr asedau a’r rhoddion.

Cam 2 – Didynnu unrhyw ddyledion

Dylech ddidynnu unrhyw beth a oedd yn ddyledus gan yr ymadawedig neu’r ystad o gyfanswm gwerth yr asedau ar y farchnad.

Cam 3 – Gwneud cofnod o’ch prisiad

Gwerth yr ystad yw gwerth yr holl asedau ar ôl didynnu’r dyledion. Mae’n syniad da rhestru’r holl asedau a dyledion. Cadwch gofnod o’r gwaith papur a ddefnyddiwyd i wneud prisiad, yn ogystal ag anfonebau neu dderbynebau ar gyfer treuliau. Bydd angen y rhain arnoch i lenwi’r ffurflenni Treth Etifeddu a phrofiant.

Cam 4 – Penderfynu a oes Treth Etifeddu yn ddyledus a pha ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi

Mae angen gwahanol ffurflenni arnoch, gan ddibynnu ar ble roedd yr ymadawedig yn byw ac a oes Treth Etifeddu yn ddyledus.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth rhywun

Allweddumynediad llywodraeth y DU