Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae prisio dyledion a rhwymedigaethau rhywun sydd wedi marw

Pan fyddwch yn prisio ystad rhywun, gallwch ddidynnu dyledion a rhwymedigaethau o gyfanswm ei werth. Gallwch ddidynnu unrhyw ddyledion y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol a oedd ganddo pan fu farw, megis biliau’r cartref a benthyciadau. Gallwch hefyd ddidynnu costau angladd.

Sut mae dod o hyd i fanylion dyledion a rhwymedigaethau'r sawl a fu farw

Dyledion yw unrhyw beth a oedd yn ddyledus gan y sawl a fu farw ar adeg ei farwolaeth. Mae rhwymedigaethau eraill yn cynnwys symiau yr oedd yn gyfrifol am eu talu, megis:

  • biliau’r cartref
  • biliau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau a gafodd, ond nad oedd wedi talu amdanynt eto

Bydd angen i chi edrych drwy holl waith papur y sawl a fu farw am bethau megis biliau a datganiadau. Efallai y bydd hefyd angen i chi gysylltu â sefydliadau megis cyflenwyr ynni neu’r cyngor lleol i ofyn a oes unrhyw arian yn ddyledus iddynt.

Edrychwch am unrhyw wasanaethau yr oedd y sawl a fu farw wedi’u defnyddio ond heb dalu amdanynt eto. Gallai’r dyledion hyn fod am bethau megis:

  • adeiladwyr
  • addurnwyr
  • twrneiod
  • cyfrifwyr

Mae’n syniad da rhestru’r holl ddyledion a rhwymedigaethau rydych yn dod ar eu traws. Ni ddylech gynnwys ffioedd proffesiynol y byddwch yn eu talu wrth ddelio â’r ystad - pethau megis ffioedd twrneiod a gwerthwyr tai. Ni allwch ddidynnu’r rhain o werth yr ystad, ond mae’n bosib y cewch eu hawlio yn ôl gan yr ystad yn nes ymlaen.

Mathau o ddyledion a rhwymedigaethau – cyfrifo’u gwerth

Morgeisi ac eiddo ar y cyd

Os oedd gan y sawl a fu farw forgais, neu os gwnaeth sicrhau benthyciad ar eiddo, bydd angen i chi ddidynnu cyfanswm y morgais o werth yr eiddo.

Os yw’r morgais neu’r benthyciad am fwy na gwerth yr eiddo, gallwch ddidynnu’r swm sy’n weddill o weddill yr ystad.

Mae nifer o gyplau yn cyd-berchen ar eiddo, a chanddynt forgais yn enw’r ddau ohonynt. Os mai dyma’r achos, dim ond cyfran y sawl a fu farw o’r morgais y dylech ei didynnu.

Os oes unrhyw arian yn cael ei dalu o bolisi diogelu morgais, bydd angen i chi gynnwys hwn at werth yr ystad.

Dyledion cardiau credyd a benthyciadau

Os oedd gan y sawl a fu farw unrhyw fenthyciadau, bydd angen i chi ddidynnu’r swm sydd yn dal yn ddyledus o werth yr ystad. Dylech wneud yr un fath â gorddrafft banc a balans cerdyn credyd sy’n weddill.

Os oes arian yn cael ei dalu o gynllun gwarchod taliadau, bydd angen i chi ychwanegu’r swm hwnnw at werth yr ystad.

Sieciau heb eu rhoi yn y banc

Mae’n bosib bod y sawl a fu farw wedi ysgrifennu sieciau nad ydynt wedi’u rhoi yn y banc eto.

Gallwch ddidynnu swm y sieciau hyn o werth yr ystad os ydynt am nwyddau neu wasanaethau a brynwyd gan yr unigolyn cyn iddo farw.

Os gwnaeth y sawl a fu farw ysgrifennu siec fel rhodd, ni allwch ddidynnu swm y siec fel rhwymedigaeth, ond ni ddylech gynnwys y rhodd chwaith. Mae’r rhodd yn cael ei thrin fel nad yw wedi’i gwneud.

Dyledion sy’n ddyledus i deulu a ffrindiau agos

Dim ond os gellir gorfodi dyled yn gyfreithiol y cewch ei didynnu o werth yr ystad.

Fel arfer, derbynnir y gellir gorfodi dyled sy'n ddyledus i aelod o'r teulu neu ffrind agos yn gyfreithiol, os yw un neu ragor o'r canlynol yn berthnasol:

  • gwnaeth y sawl a fu farw a’r benthyciwr drefniant ysgrifenedig neu ar lafar ynglŷn ag ad-dalu’r benthyciad pan fenthyciwyd yr arian
  • mae tystiolaeth bod y sawl a fu farw wedi bod yn gwneud ad-daliadau

Ceir rheolau gwahanol yn yr Alban. Er enghraifft, gallech ddefnyddio datganiad gan drydydd parti i ddangos y bod modd gorfodi benthyciad yn gyfreithiol.

Dyledion gamblo

Ni ellir gorfodi’r rhan fwyaf o ddyledion gamblo yn gyfreithiol, felly ni chewch eu didynnu o werth yr ystad.

Dim ond dyledion sy’n ddyledus am fet a wnaed drwy ‘gyfrifydd’ (totaliser) yn cael ei redeg gan y Bwrdd Rheoli Caeau Rasio a Betio y cewch eu didynnu.

Dyledion gwarant

Dyled ‘gwarant’ yw addewid i dalu dyled rhywun arall os na all ei dalu ei hun. Er enghraifft, efallai fod y sawl a fu farw wedi bod yn 'warantwr' i rywun arall i'w helpu i gael benthyciad.

Os nad oedd y benthyciad wedi’i ad-dalu pan fu farw'r unigolyn, efallai y byddwch yn gallu gwneud didyniad o werth yr ystad. Mae a allwch chi wneud didyniad, a faint allwch chi ei ddidynnu, yn dibynnu ar ba adnoddau sydd gan y benthyciwr. Os yw’r benthyciwr:

  • heb adnoddau ariannol, gallwch ddidynnu cyfanswm y benthyciad sy’n ddyledus
  • yn gallu ad-dalu rhan o’r benthyciad, gallwch ddidynnu’r swm na all ei ad-dalu
  • yn gallu ad-dalu'r benthyciad i gyd, ni allwch ddidynnu dim

Os byddwch yn gwneud didyniad, bydd rhaid i chi ei brisio fel rhodd ariannol.

Costau angladd

Gallwch ddidynnu costau angladd o werth yr ystad, yn ogystal â swm rhesymol ar gyfer costau galaru. Gall costau gynnwys swm rhesymol i dalu am y canlynol:

  • blodau
  • lluniaeth ar gyfer galarwyr
  • costau angenrheidiol a delir gan yr ysgutor neu’r gweinyddwr pan fydd yn trefnu’r angladd
  • carreg fedd

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth rhywun

Allweddumynediad llywodraeth y DU