Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i ganfod gwerth stociau a chyfranddaliadau at ddibenion Treth Etifeddu

Os oes rhywun a oedd yn arfer bod yn berchen ar stociau a chyfranddaliadau wedi marw, mae'n bwysig canfod gwerth manwl y cyfranddaliadau hyn. Mae'r ffordd o ganfod eu gwerth yn dibynnu ar a ydynt yn gyfranddaliadau ‘rhestredig’ ynteu ‘heb eu rhestru’.

Sut i ganfod gwerth stociau a chyfranddaliadau ‘rhestredig’

Caiff stociau a chyfranddaliadau sy’n rhestredig ar Gyfnewidfa Stoc Llundain neu ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig arall, eu hadnabod fel stociau a chyfranddaliadau ‘rhestredig’.

Canfod eu gwerth eich hun

Gallwch ganfod gwerth stociau a chyfranddaliadau rhestredig drwy edrych ar dudalennau ariannol mewn papur newydd, drwy edrych ar wefan y papur newydd neu ar wefan fasnachol.

Defnyddiwch y pris cau ar y diwrnod y bu’r person farw. Gallwch ddod o hyd i'r pris hwn yn y papur newydd y diwrnod canlynol – mae prif lyfrgelloedd dinasoedd yn cadw copïau papur am dair blynedd a chopïau CD-ROM sy’n dyddio’n ôl i fis Mawrth 1982.

Defnyddio prisiwr proffesiynol

Os oedd gan y person gyfranddaliadau mewn amryw o gwmnïau, efallai y byddai’n haws cael prisiad proffesiynol gan rywun, megis brocer stoc. Byddant yn rhoi dyfynbris diwedd dydd ar gyfer pob un o'r cyfranddaliadau. Os oedd amrediad o brisiau cau, rhoddir y pris ar ffurf ystod – er enghraifft 1091c i 1101c.

Fel arfer, rhaid talu am brisiad proffesiynol. Gallwch ddod o hyd i frocer stoc ar wefan Cyfnewidfa Stoc Llundain – ond nid yw pob brocer stoc wedi ei restru yno.

Cyfrifo cyfanswm gwerth y cyfranddaliadau

Er mwyn canfod gwerth y cyfranddaliadau, lluoswch nifer y cyfranddaliadau gyda phris pob cyfranddaliad. Er enghraifft, os oedd y person a fu farw’n berchen ar 100 o gyfranddaliadau a’u gwerth oedd 1091c, gwerth y cyfranddaliadau yw £1,091.

Os yw pris y cyfranddaliadau’n newid yn ystod y dydd o fasnachu

Os rhoddir ystod o brisiau i chi dylech eu defnyddio i gyfrifo beth a elwir yn bris ‘chwarter y gwahaniaeth’, a’i ddefnyddio fel eich gwerth yn hytrach na’r pris cau.

Enghraifft

Pe byddai’r amrediad rhwng 1091c a 1101c ac mae gennych 1,000 o gyfranddaliadau, byddech yn dod o hyd i’r pris 'chwarter y gwahaniaeth' drwy ddilyn y camau canlynol:

Cam 1 – canfod y gwahaniaeth rhwng y pris uchaf a’r pris isaf: 1101c – 1091c = 10c

Cam 2 – canfod chwarter y gwahaniaeth rhwng y ddau bris: 10c × 0.25 = 2.5c

Cam 3 – adio chwarter y gwahaniaeth at y pris isaf: 1091c + 2.5c = 1093c

Felly’r pris ‘chwarter y gwahaniaeth’ yw 1093.5c a gwerth y 1,000 cyfranddaliad yw £10,935 (1,000 × 1093.5c).

Marciau’r Gyfnewidfa Stoc – canfod gwerth bonws neu ‘ddifidend’

Fel arfer, mae stociau a chyfranddaliadau yn talu ‘difidend’ i’w cyfranddalwyr unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Weithiau, yn lle talu difidend, ceir cynnydd yng ngwerth y cyfranddaliadau neu caiff y cyfranddaliwr fwy o gyfranddaliadau.

Os oedd bonws yn ddyledus pan fu farw’r person, bydd gan y cyfranddaliadau farc wrth ymyl y dyfynbrisiau fel 'xd', 'xc', 'xr', neu 'xe'. Wrth ymyl y marc bydd y pris neu’r ganran y mae angen i chi eu cynnwys yn eich prisiad.

Rydych yn canfod gwerth y bonws neu'r difidend, a fydd yn gynwysedig yn yr ystâd, drwy luosi nifer y cyfranddaliadau gyda’r ffigwr bonws i bob cyfranddaliad.

Os yw’r ffigwr wedi ei roi fel canran, rydych yn dod o hyd i’w werth drwy gymryd canran o werth nominal y cyfranddaliadau (gelwir weithiau’n werth enwol).

Enghraifft

Gwerth bonws o 3 y cant ar 400 cyfranddaliad gyda gwerth enwol o £1 fyddai £12 (£400 × 3 y cant = £12).

Dylech ddefnyddio’r pris ar ôl i Dreth Incwm gael ei thynnu ohono – y pris ‘net’. Mae papurau newydd a gwefannau’n rhoi’r pris ‘net’ ar gyfer cwmnïau’r DU, ond y pris ‘gros’ ar gyfer cwmnïau tramor.

Stociau a chyfranddaliadau sy’n cyfrifo llog yn ddyddiol

Mae rhai stociau a chyfranddaliadau yn cyfrifo llog yn ddyddiol ond caiff y taliadau eu gwneud unwaith neu ddwywaith flwyddyn yn unig. Bydd marc ‘im’ neu ‘ik’ gyferbyn â’r mathau hyn o stociau a chyfranddaliadau bob dydd. Yn yr achosion hyn bydd angen i chi ganfod eu gwerth drwy edrych ar y dyddiad y gwnaed y taliad diwethaf, hyd at y dyddiad y bu'r person farw.

Os yw’r dyddiad talu wedi ei ddatgan, bydd y marciau'n newid i 'im...x' neu 'ik...x'. Os bu farw’r peron ar ôl i’r taliad gael ei ddatgan ond cyn iddo gael ei wneud, dylid tynnu’r llog ‘net’ o’r dyddiad y bu’r person farw hyd at y dyddiad y gwnaed y taliad. Mae canfod gwerth y rhain yn gymhleth ac mae’n syniad da cael cymorth gan brisiwr proffesiynol.

Sut i ganfod gwerth ymddiriedolaethau buddsoddi drwy unedau

Nid yw papurau newydd yn dangos gwerth y difidendau sy'n ddyledus ar ymddiriedolaethau buddsoddi drwy unedau, felly bydd angen dod o hyd i'r gwerth gan reolwr y gronfa.

Os rhoddir dau bris, dylech ddefnyddio’r pris lleiaf fel gwerth yr ymddiriedolaeth unedol.

Sut i ganfod gwerth stociau a bondiau’r llywodraeth

Os oedd gan y person a fu farw stociau a bondiau yn llywodraeth y DU – megis stociau’r Llywodraeth neu Filiau Trysorlys – dylech gysylltu â Computershare yn Swyddfa Rheoli Dyled y DU i ofyn iddynt am brisiad.

Bydd angen iddynt weld copi o'r dystysgrif marwolaeth. Defnyddiwch y pris cau ar y diwrnod y bu’r person farw. Nid oes rhaid talu am brisiadau.

Sut i ganfod gwerth cyfranddaliadau a ddelir mewn ISA

Os oedd gan y person a fu farw gyfranddaliadau mewn Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) dylech ofyn i reolwr y gronfa ISA am brisiad. Dylech allu dod o hyd i fanylion cyswllt o waith papur y person a fu farw.

Defnyddiwch y pris cau ar y diwrnod y bu’r person farw. Os nad ydych yn gallu cael prisiad dylech restru’r cyfranddaliadau a’u prisio yn yr un ffordd â chyfranddaliadau eraill. Gallwch dynnu unrhyw ffioedd y rheolwr o’r gwerth.

Mae’r un fath yn wir ar gyfer Cynlluniau Ecwiti Personol (PEPs) a Chyfrifon Cynilo Arbennig Rhydd o Dreth (TESSAs).

Os oedd y gyfnewidfa stoc ar gau'r diwrnod y bu’r person farw

Os bu farw’r person ar ddiwrnod pan oedd y gyfnewidfa stoc ar gau, gallwch ddefnyddio’r pris cau ar un ai:

  • y diwrnod olaf yr oedd y gyfnewidfa stoc ar agor cyn i’r person farw
  • y diwrnod cyntaf yr oedd y gyfnewidfa stoc ar agor ar ôl i’r person farw

Er enghraifft os bu’r person farw ar ddydd Sul, ac roedd y pris cau yn llai ar ddydd Llun nag yr oedd ar y dydd Gwener cynt, gallwch ddefnyddio pris dydd Llun.

Sut i ganfod gwerth stociau a chyfranddaliadau ‘heb eu rhestru’

Cyfranddaliadau mewn cwmni preifat yw cyfranddaliadau heb eu rhestru. Nid ydynt wedi eu rhestru ar unrhyw gyfnewidfa stoc gydnabyddedig ac nid ydynt yn cael eu cynnig i'r cyhoedd. Mae nifer o fusnesau teuluol yn gwmnïau preifat.

Ni allwch ddefnyddio'r gwerth nominal ar gyfer eich prisiad oni bai ei fod yn adlewyrchu’n fanwl y gwerth ar y farchnad agored. Felly os yw gwerth nominal y cyfranddaliadau yn y cwmni yn £1, gwerth nominal 1,000 cyfranddaliad cyffredinol fyddai £1,000 – ond mae’n annhebygol mai hyn fyddai gwerth marchnad y cyfranddaliadau.

Gan nad oes marchnad agored weithredol ar gyfer y mwyafrif o gyfranddaliadau heb eu rhestru, dylech edrych ar yr wybodaeth sydd ar gael i gyfranddalwyr, megis cyfrifon y cwmni a statws perfformiad, ac ystyried y ffactorau canlynol i’ch helpu i bennu’r gwerth:

  • gwerth asedau’r cwmni
  • y cefndir economaidd pan fu’r person farw
  • maint y cyfranddaliadau a hawliau’r cyfranddaliwr
  • polisi difidend y cwmni

Fodd bynnag, efallai bydd rhaid i chi gysylltu ag ysgrifennydd neu gyfrifydd y cwmni er mwyn canfod gwerth marchnad y cyfranddaliadau heb eu rhestru.

Beth os ydych yn rhoi gwerth rhy isel i’ch stociau a chyfranddaliadau?

Weithiau fe ddaw i’r amlwg cyn i chi wneud cais am brofiant (cadarnhad yn yr Alban) bod eich prisiad yn anghywir.

Er enghraifft, rydych yn canfod mwy o dystysgrifau cyfranddaliadau nad oeddech wedi eu cynnwys yn y prisiad gwreiddiol.

Dan yr amgylchiadau hyn dylech gysylltu â’r Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu.

Beth os ydych yn rhoi gwerth rhy uchel i’ch stociau a chyfranddaliadau?

Os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau o fewn blwyddyn i’r diwrnod y bu’r person farw am lai o arian na’r gwerth y taloch Dreth Etifeddu arno, gallech wneud cais am gymorth am y golled. I wneud cais defnyddiwch ffurflen IHT35 Cais am gymorth – colled wrth werthu cyfranddaliadau.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth rhywun

Allweddumynediad llywodraeth y DU