Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae prisio eiddo neu asedau ar y cyd at ddibenion Treth Etifeddu

Os oedd y sawl a fu farw yn berchen ar asedau neu eiddo ar y cyd â phobl eraill, bydd angen i chi gyfrifo gwerth ei gyfran ef. Fel arfer, byddwch yn cyfrifo’r gwerth ar sail y gyfran yr oedd yn berchen arni, ond weithiau mae rheolau gwahanol yn berthnasol.

Ffyrdd o fod yn berchen ar eiddo ac asedau

Ceir gwahanol ffyrdd cyfreithiol y byddai’r sawl a fu farw wedi gallu bod yn berchen ar eiddo neu asedau:

  • fel unig denant – roedd yn berchen arnynt 100 y cant
  • fel cyd-denant – roedd yn gydberchennog arnynt yn gyfartal ag un neu ragor o bobl a chaiff cyfran y sawl a fu farw ei throsglwyddo’n awtomatig i’r cydberchnogion eraill
  • fel tenantiaid ar y cyd – roedd yn berchen ar asedau neu eiddo gydag un neu ragor o bobl ond nid oes yn rhaid i bob cyfran fod yn gyfartal ac mae pob tenant yn rhydd i roi ei gyfran fel rhodd sut bynnag y bydd yn dymuno

Yn yr Alban, gelwir cyd-denantiaid yn gydberchnogion, a gelwir tenantiaid ar y cyd yn berchnogion ar y cyd. Fel arfer, caiff eiddo ac asedau y mae rhywun yn cyd-berchen neu’n berchen ar y cyd arnynt yn yr Alban eu trosglwyddo mewn ewyllys. Os nad oes ewyllys, cânt eu trosglwyddo drwy drefn blaenoriaeth perthynas agosaf caeth a ddiffinnir yn y ‘rheolau diewyllysedd’.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r telerau'r un fath ag ar gyfer Cymru a Lloegr, ond gall tenant ar y cyd hefyd gael ei alw'n 'gyd-etifedd'.

Prisio cyfrannau o dŷ neu dir sydd mewn cydberchnogaeth

Mae gwerth cyfran o dŷ neu dir mewn cydberchnogaeth yn dibynnu ar y canlynol:

  • maint y gyfran y mae’r unigolyn yn ei dal
  • pwy yw’r perchennog arall

Pan fyddwch yn prisio cyfran o dŷ neu dir sydd mewn cydberchnogaeth, bydd angen i chi gael gwybod beth yw gwerth marchnad yr eiddo cyfan. Yna, gallwch gyfrifo gwerth pob cyfran ar sail faint o’r eiddo yr oedd yr unigolyn yn berchen arno.

Os mai partner priod neu bartner sifil yw’r cydberchennog

Os oedd y sawl a fu farw yn gydberchennog ar dŷ neu dir gyda phartner priod neu bartner sifil, dylech ddefnyddio gwerth cyfran y sawl a fu farw yn eich prisiad.

Ni allwch leihau gwerth ei gyfran i adlewyrchu unrhyw drafferthion wrth werthu eiddo mewn cydberchnogaeth.

Os nad partner priod na phartner sifil y sawl a fu farw yw’r cydberchennog

Os yw'r eiddo mewn cydberchnogaeth â rhywun nad yw’n bartner priod na’n bartner sifil i’r sawl a fu farw, gallwch leihau gwerth cyfran y sawl a fu farw. I ddechrau, gallwch leihau 10 y cant ar werth y gyfran.

Bydd y lleihad hwn yn adlewyrchu’r canlynol:

  • trafferthion gwerthu cyfran o eiddo mewn cydberchnogaeth
  • y ffaith y gallai gwerth cyfran cydberchennog fod yn llai oherwydd bod gan y perchennog arall yr hawl i barhau i fyw yn yr eiddo

Er enghraifft, mae dwy chwaer, Jean a Muriel, yn byw gyda’i gilydd mewn tŷ y maent yn gydberchnogion arno yng Nghymru. Mae’r tŷ yn werth £500,000 pan mae Jean yn marw.

£500,000 ÷ 2 = £250,000

£250,000 - 10 y cant = £225,000.

Felly, cyfrifir bod cyfran Jean yn werth £225,000.

Mae’r rheolau yn yr Alban yn wahanol, oherwydd bod gan gydberchennog yr hawl i orfodi gwerthu a rhannu'r asedau neu'r eiddo ar y cyd ar ôl i gydberchennog arall farw.

I ddechrau, dylech dynnu £4,000 o werth yr eiddo cyfan cyn i chi gyfrifo gwerth cyfran y sawl a fu farw, yn hytrach na lleihau 10 y cant ar werth y gyfran. Mae’r swm hwn yn adlewyrchu'r costau cyfreithiol posib a fydd yn codi os bydd y cydberchennog yn cymryd y camau hyn.

Cofiwch mai dim ond rhywle i ddechrau yw’r gostyngiadau rydych yn eu defnyddio, ac efallai y bydd yn rhaid eu newid neu gytuno arnynt yn ddiweddarach â’r swyddfa brisio. Bydd y swyddfa brisio yn cysylltu yn uniongyrchol â chi os bydd am drafod prisiad.

Prisio asedau eraill mewn cydberchnogaeth

Cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu ar y cyd

Efallai fod y sawl a fu farw wedi rhoi'r holl arian i mewn i gyfrif banc, ac efallai bod y cyfrif dan fwy nag un enw o ran hwylustod. Yn yr achos hwnnw, yn eich prisiad, bydd angen i chi gynnwys yr holl arian a oedd yn y cyfrif ar y dyddiad y bu farw’r unigolyn.

Os rhoddodd rhywun arall rywfaint o’r arian yn y cyfrif, dim ond y swm a roddodd y sawl a fu farw fydd angen i chi ei gynnwys.

Polisïau yswiriant ar y cyd

Gyda pholisïau yswiriant ar y cyd, dim ond cyfran y sawl a fu farw y bydd angen i chi ei chynnwys, hyd yn oed os mai ‘polisi bywyd a goroeswr ar y cyd’ yw’r polisi. Mae cyfran y sawl a fu farw yn gyfwerth â hanner gwerth y polisi.

Dylai’r cwmni yswiriant allu amcangyfrif gwerth y polisi cyfan ar ddyddiad y farwolaeth. Felly, gallwch ddefnyddio'r swm hwnnw i gyfrifo gwerth cyfran y sawl a fu farw.

Asedau eraill

Os oedd y sawl a fu farw yn berchen ar unrhyw asedau eraill ar y cyd, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo’r gyfran o’r ased yr oedd yn berchen arni
  • cynnwys gwerth ei gyfran yn eich prisiad chi o’r ystad

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth rhywun

Allweddumynediad llywodraeth y DU