Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i brisio tir ac adeiladau ar gyfer Treth Etifeddu

Pan fydd rhywun yn marw, bydd unrhyw diroedd ac adeiladau yr oedd yn berchen arnynt - neu weithiau’n byw ynddynt heb dalu rhent – yn rhan o'i ystad at ddibenion Treth Etifeddu. Er mwyn gwneud yn siŵr y cewch brisiad cywir, dylech ddefnyddio prisiwr proffesiynol. Dylai’r prisiad adlewyrchu gwerth yr ased adeg y farwolaeth.

Mathau o eiddo i'w cynnwys yn eich prisiad

Wrth gyfrifo gwerth ystad rhywun, bydd angen i chi brisio unrhyw eiddo yr oedd yn berchen arno. Dyma enghreifftiau o’r mathau o adeiladau a thiroedd y gall fod angen i chi eu prisio:

  • ei gartref
  • unrhyw dŷ neu fflat arall sy’n eiddo iddo
  • ffermydd a thir fferm
  • eiddo busnes fel gwestai, siopau neu ffatrïoedd
  • tir ac adeiladau eraill – fel coetir, tir diffaith a garejis cloi
  • unrhyw hawliau sydd ynghlwm wrth dir, fel hawliau saethu neu bysgota

Defnyddio prisiwr proffesiynol

Mae priswyr eiddo a syrfewyr siartredig yn weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn prisio tir ac adeiladau ar gyfer ystadau.

Mae Cyllid a Thollau EM yn argymell yn gryf i chi ddefnyddio prisiwr proffesiynol er mwyn sicrhau bod y prisiad mor gywir â phosib.

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i’r prisiwr, ond efallai y gallwch hawlio'r ffi yn ôl gan yr ystad yn ddiweddarach.

Cael prisiad realistig ar gyfer gwerth yr eiddo ar y farchnad

Dylech ofyn i’r prisiwr ddarparu pris realistig ar gyfer gwerth yr eiddo ar y farchnad – gwerth ar ‘y farchnad agored’.

Wrth brisio'r eiddo, dylid ystyried unrhyw beth a allai gynyddu neu leihau gwerth yr eiddo, a dylech ofyn i'r prisiwr wneud hyn. Ceir mwy o wybodaeth yn yr adrannau isod.

Os cewch ystod o brisiadau gwahanol, gan amlaf mae'n well i chi ddefnyddio prisiad yng nghanol yr ystod.

Os oes angen atgyweirio’r eiddo

Os oes angen atgyweirio’r eiddo, dylai’r prisiwr ystyried lleihau'r prisiad er mwyn adlewyrchu hyn. Gallech ymchwilio i weld faint y byddai’r gwaith atgyweirio yn ei gostio.

Os oes rhywbeth yn gwneud yr eiddo’n fwy deniadol i brynwyr

Efallai fod gan yr eiddo nodwedd arbennig sy'n ei wneud yn ddeniadol iawn i brynwyr. Er enghraifft, gardd sy’n anghyffredin o fawr, neu fynediad at dir datblygu arall.

Os oes gan yr eiddo nodweddion sy’n ei wneud yn fwy deniadol i brynwyr, efallai y bydd gofyn cynyddu’r prisiad.

Gostyngiadau treth ar eiddo a ddefnyddir ar gyfer busnes

Mae gwahanol fathau o ostyngiadau ar gael ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Gan ddibynnu ar y math o eiddo a sut caiff ei ddefnyddio, efallai y bydd yn gymwys ar gyfer:

  • Gostyngiad ar Fusnesau
  • Gostyngiad ar Eiddo Amaethyddol
  • Gostyngiad ar Goetiroedd

Er enghraifft, os oedd y sawl a fu farw yn defnyddio rhywfaint o’r eiddo, neu’r eiddo i gyd, ar gyfer ei fusnes, efallai y bydd yn gymwys ar gyfer Gostyngiad ar Fusnesau. Gall hyn leihau faint o Dreth Etifeddu sy’n ddyledus.

Beth os byddwch yn tanbrisio’r eiddo?

Weithiau fe ddaw i’r amlwg cyn i chi wneud cais am brofiant (cadarnhad yn yr Alban) bod y prisiad yn anghywir.

Er enghraifft, os oedd yr eiddo werth £400,000 a chithau wedi cael sawl cynnig o £450,000, efallai fod y pris hwn yn fwy realistig o werth yr eiddo ar y farchnad.

Os ydych chi’n credu bod y prisiad gwreiddiol yn rhy isel, dylech ofyn i’r prisiwr ei ailystyried. Dylai ystyried hyd y cyfnod ers pan fu farw’r unigolyn, a beth sydd wedi digwydd i'r farchnad eiddo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Os yw’r eiddo wedi cael ei danbrisio, rhaid i chi ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i roi gwybod iddynt beth yw'r prisiad newydd.

Beth os byddwch yn gorbrisio’r eiddo?

Os byddwch yn gwerthu unrhyw diroedd neu adeiladau yn yr ystad o fewn pedair blynedd i’r diwrnod y bu’r unigolyn farw a hynny am lai o arian nag y taloch Dreth Etifeddu arno, gallech hawlio gostyngiad treth ar yr arian a gollwyd. I wneud hawliad, defnyddiwch ffurflen IHT38 Cais am ostyngiad – gwneud colled wrth werthu tir.

Os oedd y sawl a fu farw yn byw heb dalu rhent mewn eiddo a adawyd mewn ewyllys i rywun arall

Weithiau, efallai y bydd unigolyn yn byw heb dalu rhent mewn tŷ sydd wedi cael ei adael mewn ewyllys i rywun arall. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn gadael tŷ i’w ferch, ond yn gwneud trefniadau yn ei ewyllys i'w wraig fyw ynddo heb dalu rhent hyd ddiwedd ei hoes. Pan fydd ei wraig yn marw, caiff y tŷ ei drosglwyddo i'r ferch.

Pan ddigwydd hyn, caiff ei drin fel ymddiriedolaeth 'buddiant mewn meddiant' at ddibenion y Dreth Etifeddu, a bydd angen i chi gynnwys prisiad o'r eiddo wrth brisio ystad y sawl a fu farw (y wraig yn yr enghraifft uchod). Dylech ddefnyddio ei werth ar y farchnad pan fu’r unigolyn farw.

Er bod y prisiad yn rhan o ystad y sawl a fu farw, yr ymddiriedolwyr ddylai dalu unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus arno.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth rhywun

Allweddumynediad llywodraeth y DU