Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

At ddibenion Treth Incwm, mae ymddiriedolaeth ‘buddiant mewn meddiant’ yn golygu ymddiriedolaeth lle mae gan y buddiolwr hawl i gael incwm yr ymddiriedolaeth fel y caiff ei ennill. Yma cewch wybod sut mae'r ymddiriedolaethau hyn yn gweithio, gan gynnwys y goblygiadau o ran Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddu.

Beth yw ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant?

O safbwynt Treth Incwm, mae ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant (interest in possession trust) yn golygu ymddiriedolaeth lle mae gan fuddiolwr hawl awtomatig ac uniongyrchol i gael incwm yr ymddiriedolaeth ar ôl didynnu treuliau. Rhaid i’r ymddiriedolwr (yr unigolyn sy’n rhedeg yr ymddiriedolaeth) roi'r holl incwm y bydd yr ymddiriedolaeth yn ei gael, llai treuliau ymddiriedolwyr, i'r buddiolwr.

Yn aml, ni fydd gan y buddiolwr sy’n cael yr incwm (y ‘buddiolwr incwm’) unrhyw hawl dros y cyfalaf sydd mewn ymddiriedolaeth o’r fath. Fel arfer, bydd y cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i fuddiolwr arall neu i fuddiolwyr yn y dyfodol. Mae’n bosib y bydd gan yr ymddiriedolwyr y pŵer i dalu cyfalaf i fuddiolwr er mai dim ond hawl i gael incwm sydd gan y buddiolwr hwnnw. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar delerau’r ymddiriedolaeth.

Enghraifft

Mae Stanley yn briod â Kathleen. Ar ôl iddo farw, bydd ewyllys Stanley yn creu ymddiriedolaeth a bydd y cyfranddaliadau a oedd yn berchen iddo i gyd yn cael eu cadw yn yr ymddiriedolaeth honno. Mae’r difidendau (incwm) a gaiff eu hennill ar y cyfranddaliadau i gael eu talu i Kathleen am weddill ei hoes. Pan fydd hi’n marw, bydd y cyfranddaliadau yn mynd i’r plant.

Kathleen yw'r buddiolwr incwm. Mae ganddi ‘fuddiant mewn meddiant’ yn yr ymddiriedolaeth oherwydd bod ganddi hawl i’r incwm difidend o asedau’r ymddiriedolaeth am weddill ei hoes. Nid oes gan Kathleen hawl i’r cyfalaf. Pan fydd hi’n marw bydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben, a bydd yr holl gyfalaf (y cyfranddaliadau) yn mynd i’r plant.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant a Threth Incwm

Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am ddatgan a thalu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth. Byddant yn gwneud hyn ar Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau bob blwyddyn.

Ceir gwahanol gyfraddau yn dibynnu ar y math o incwm – fel y gwelir yn y tabl isod.

Math o incwm

Cyfradd Treth Incwm – blwyddyn dreth 2012-13

Rhent, masnachu a chynilion

20% (cyfradd sylfaenol)

Difidendau’r DU (megis incwm sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau)

10% (cyfradd gyffredinol ar gyfer difidendau)


Fel arfer, ni fydd ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant yn cael eu trethu ar y cyfraddau treth arbennig sy’n berthnasol i ymddiriedolaethau lle nad oes buddiant mewn meddiant. Fodd bynnag, caiff rhai eitemau sy’n eitemau cyfalaf yn ôl y gyfraith ymddiriedolaethau eu trin fel incwm at ddibenion treth pan fydd ymddiriedolaethau yn eu cael. Gan ddibynnu ar y math o eitem, maent naill ai yn cael eu trethu ar y gyfradd ymddiriedolaeth sy'n 50 y cant, neu ar y gyfradd ymddiriedolaeth ar gyfer difidendau sy’n 42.5 y cant.

Mae hon yn elfen gymhleth ym maes treth ymddiriedolaethau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eitemau cyfalaf sy’n cael eu trin fel incwm yn arweiniad technegol Cyllid a Thollau EM – Trusts, Settlements and Estates Manual – gweler y ddolen isod.

Mae rheolau treth arbennig yn berthnasol i ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant lle mae’r buddiolwyr yn anabl, neu’n blant sydd wedi colli rhiant. Dilynwch y ddolen isod at yr arweiniad ynghylch pobl agored i niwed er mwyn cael gwybod rhagor.

Treth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth. Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth. Gelwir y lwfans hwn yn ‘swm eithriedig blynyddol’.

Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus.

Ni chaiff buddiolwyr eu trethu ar unrhyw enillion sy’n deillio o ymddiriedolaeth, ac ni fyddant yn cael credyd ar gyfer unrhyw dreth a delir gan yr ymddiriedolwyr.

Treth Etifeddu ar ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Mae’n bosib y bydd ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant hefyd yn cynnwys yr hawl i fwynhau ased nad yw’n cynhyrchu incwm, er enghraifft, yr hawl i fyw mewn tŷ.

Mae’n bosib y bydd Treth Etifeddu yn ddyledus:

  • pan gaiff asedau eu rhoi mewn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant
  • pan fydd deg mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant, a phob deg mlynedd ar ôl hynny
  • pan fydd asedau yn cael eu cymryd o’r ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant neu os bydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben

Weithiau, bydd Treth Etifeddu yn defnyddio terminoleg wahanol ar gyfer ymddiriedolaethau. Mae’n bosib i ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant ddod o dan yr hyn a elwir yn ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU