Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddiriedolaethau buddiant i'r setlwr

Os byddwch yn sefydlu ymddiriedolaeth y gallwch chi neu’ch priod/partner sifil gael budd ohoni, mae’n cyfrif fel ymddiriedolaeth ‘buddiant i’r setlwr’. Os byddwch yn gwneud hynny, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar unrhyw incwm y mae’r ymddiriedolaeth yn ei gael, hyd yn oed os nad yw'n cael ei dalu i chi na'ch priod/partner sifil.

Beth yw ystyr ‘setlwr’

Ystyr ‘setlwr’ yw rhywun sy’n ‘gwneud setliad’. Bydd yn gwneud hyn drwy roi asedau megis arian, tir neu adeiladau, mewn ymddiriedolaeth. Gelwir y broses hon yn ‘setlo eiddo’. Gall setlwyr wneud hyn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy roi’r arian i rywun arall sefydlu’r ymddiriedolaeth. Fel rheol, byddant yn rhoi asedau mewn ymddiriedolaeth pan gaiff yr ymddiriedolaeth ei chreu, ond gallant wneud hynny yn nes ymlaen hefyd.

Sut mae ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr yn gweithio

Os gall y setlwr neu ei briod neu ei bartner sifil gael budd o'r incwm neu'r enillion a ddaw o'r asedau mewn ymddiriedolaeth, caiff yr ymddiriedolaeth ei hystyried yn ymddiriedolaeth buddiant i'r setlwr.

Mae rheolau eraill yn berthnasol i ymddiriedolaethau nad ydynt yn ymddiriedolaeth buddiant i'r setlwr, ond lle gallai plentyn perthnasol y setlwr gael budd. Dilynwch y ddolen isod a darllen y canllaw ar ymddiriedolaethau rhieni i blant er mwyn cael gwybod rhagor.

Nid yw ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr yn fath o ymddiriedolaeth yn ei hawl ei hun – bydd yn cyfrif fel un o’r mathau canlynol o ymddiriedolaethau:

  • ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant – lle mae’r setlwr, partner priod y setlwr neu bartner sifil y setlwr yn meddu ar yr hawl i'r incwm i gyd
  • ymddiriedolaethau cronni – lle gall ymddiriedolwyr gadw ac ychwanegu incwm at gyfalaf ar ran y setlwr, partner priod y setlwr neu bartner sifil y setlwr
  • ymddiriedolaethau disgresiwn – lle gall ymddiriedolwyr wneud taliadau i'r setlwr, ei briod neu ei bartner sifil

Enghraifft o ymddiriedolaeth disgresiwn sy’n dwyn buddiant i’r setlwr

Mae gan Dave Green salwch ac nid yw’n gallu gweithio mwyach. Mae’n penderfynu sefydlu Ymddiriedolaeth Disgresiwn Dave Green er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddo arian ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhoi rhywfaint o’i arian yn yr ymddiriedolaeth. Mae hyn yn golygu ei fod yn setlwr, ond gall hefyd gael budd o’r ymddiriedolaeth, felly mae’n ‘cadw buddiant’, gan fod yr ymddiriedolwyr yn gallu gwneud taliadau iddo. O ganlyniad, gellir trethu Dave ar incwm yr ymddiriedolwyr – ceir rhagor o wybodaeth am hyn isod.

Ond os rhieni Dave fydd yn darparu’r arian ar gyfer yr ymddiriedolaeth yn hytrach na Dave, nhw yw’r setlwyr. Nid yw Dave yn setlwr ac nid yw’r ymddiriedolaeth yn cael ei hystyried yn ymddiriedolaeth buddiant i’r setlwr.

Ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr a Threth Incwm

Gydag ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr, y setlwr sy’n gyfrifol am yr holl Dreth Incwm sy’n ddyledus ar incwm yr ymddiriedolwyr, hyd yn oed incwm nad yw'n cael ei dalu i'r setlwr. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu treth gan eu bod yn cael yr incwm.

Bydd y gyfradd Treth Incwm y bydd yr ymddiriedolwyr yn ei thalu yn dibynnu ar y modd y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth. Os yw’n ymddiriedolaeth cronni neu’n ymddiriedolaeth disgresiwn, mae’n rhaid i’r cyfraddau ar gyfer y math hwnnw fod yn berthnasol. Os yw’n ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant, mae’n rhaid i’r cyfraddau ar gyfer y math hwnnw fod yn berthnasol.

Ymddiriedolaethau buddiant rhannol i'r setlwr

Gall ymddiriedolaethau hefyd ddwyn buddiant rhannol i'r setlwr. Gall ymddiriedolwyr gadw arian penodol yn yr ymddiriedolaeth, a bydd y setlwr (a’i briod neu ei bartner sifil) wedi’u heithrio rhag cael rhywfaint o’r arian hwn.

Gydag ymddiriedolaethau buddiant rhannol i’r setlwr, dim ond ar incwm sy’n dod o’r rhan o’r gronfa ymddiriedolaeth y gall ef, ei bartner priod neu’i bartner sifil gael budd ohono, y bydd y setlwr yn talu treth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfraddau Treth Incwm ar gyfer y mathau hyn o ymddiriedolaethau drwy ddilyn y dolenni isod.

Sut mae’r setlwr yn rhoi gwybod am Dreth Incwm ac yn ei thalu

Mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau a thalu treth ar yr holl incwm a gânt.

Ar gyfer pob blwyddyn y bydd angen i'r setlwr dalu treth ychwanegol, mae'n rhaid i'r setlwr lenwi ffurflen SA107 Ymddiriedolaethau ac ati – tudalennau atodol y brif Ffurflen Dreth SA100. Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y Dreth Incwm y mae’r Ymddiriedolwyr wedi’i thalu ar ran y setlwr. Os caiff y setlwr ffurflen dreth rhaid iddo ei llenwi a’i dychwelyd hyd yn oed os nad oes angen talu rhagor o dreth.

Gallai’r setlwr fod yn gymwys i gael ad-daliad treth (neu efallai y bydd yn rhaid iddo dalu mwy o dreth), gan ddibynnu ar lefel yr incwm trethadwy.

Ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr a Threth Enillion Cyfalaf

Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth.

Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol, a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’, y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2007-08 a chyn hynny, bydd y setlwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar unrhyw enillion y mae’r ymddiriedolaeth wedi’u gwneud. Bydd yr enillion hyn yn cael eu hychwanegu at unrhyw enillion eraill y setlwr o ran Treth Enillion Cyfalaf.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 ac ar ôl hynny, bydd yr ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar enillion a wnânt sydd dros swm eithriedig blynyddol yr ymddiriedolwyr.

Ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr a Threth Etifeddu

Efallai y bydd angen talu Treth Etifeddu:

  • pan roddir asedau mewn ymddiriedolaeth
  • pan fydd deg mlynedd arall wedi mynd heibio ers sefydlu ymddiriedolaeth
  • pan fydd asedau yn cael eu cymryd o ymddiriedolaeth neu os bydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben
  • pan fydd y setlwr yn marw

Weithiau bydd Treth Etifeddu yn defnyddio terminoleg wahanol ar gyfer ymddiriedolaethau. Gall ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr ddod o dan yr hyn a elwir yn ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU