Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd pobl weithiau’n rhoi asedau mewn ymddiriedolaeth er mwyn i’w plentyn, sydd hefyd yn ddibriod, gael budd ohonynt. Gelwir y sawl sy’n rhoi’r asedau yn yr ymddiriedolaeth yn ‘setlwr’. Gelwir yr ymddiriedolaethau hyn yn ‘ymddiriedolaethau rhieni i blant’. Caiff incwm o’r ymddiriedolaeth ei drethu fel incwm y setlwr.
Ystyr ‘setlwr’ yw rhywun sy’n ‘gwneud setliad’. Bydd yn gwneud hyn drwy roi asedau megis arian, tir neu adeiladau, mewn ymddiriedolaeth. Gelwir y broses hon yn ‘setlo eiddo’. Gall setlwyr wneud hyn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy roi’r arian i rywun arall sefydlu’r ymddiriedolaeth. Fel rheol, byddant yn rhoi asedau mewn ymddiriedolaeth pan gaiff yr ymddiriedolaeth ei chreu, ond gallant wneud hynny yn nes ymlaen hefyd.
Gydag ymddiriedolaeth rhieni i blant, mae ‘plentyn perthnasol’ (plentyn dan 18 oed nad yw erioed wedi priodi nac wedi bod mewn partneriaeth sifil) y setlwr yn gallu cael budd o ymddiriedolaeth. Yn yr achos hwn, mae’n rhaid i’r setlwr fod yn un o rieni’r plentyn.
Nid yw ymddiriedolaethau rhieni i blant yn fath o ymddiriedolaeth yn ei hawl ei hun – byddant yn dod dan un o’r mathau canlynol:
Gydag ymddiriedolaethau rhieni i blant, tybir bod yr incwm y mae’r plentyn yn ei gael o’r ymddiriedolaeth yn incwm y setlwr at ddibenion Treth Incwm. Dim ond i ymddiriedolaethau lle gall plentyn perthnasol gael budd, a bod y setlwr ac unrhyw briod neu bartner sifil wedi'u heithrio, y mae’r rheol hon yn berthnasol. Os nad yw’r setlwr (a'i briod neu ei bartner sifil) wedi’u heithrio, y rheolau ar gyfer ymddiriedolaethau buddiant i’r setlwr sy’n berthnasol. Mae'r gyfradd Dreth Incwm sy’n weithredol yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth.
Os yw’r incwm sy’n deillio o bob rhodd gan riant i blentyn yn llai na £100, ni fydd incwm ymddiriedolaeth y plentyn yn cael ei gyfrif fel incwm y setlwr at ddibenion Treth Incwm.
Gyda'r rheolau lle mae incwm y plentyn yn cael ei drin fel incwm y setlwr, y setlwr sy'n gyfrifol am yr holl Dreth Incwm sy'n ddyledus.
Gan fod gofyn i’r ymddiriedolwyr dalu treth ar yr incwm, gall y setlwr osod y Dreth Incwm a delir gan yr ymddiriedolwr yn erbyn faint o dreth maent i fod i’w thalu. Mewn rhai achosion, efallai y bydd mwy o dreth i’w thalu, ac mewn achosion eraill efallai y bydd ad-daliad yn ddyledus. Dim ond i’r setlwr y mae’r dreth a delir gan ymddiriedolwyr ar gael, nid y plentyn.
Rhaid cynnwys manylion y Dreth Incwm a delir gan yr ymddiriedolwyr ar ffurflen dreth bersonol y setlwr. Bob blwyddyn, efallai y bydd angen i’r setlwr lenwi ffurflen SA107 Ymddiriedolaethau ac ati – tudalennau atodol ynghylch yr ymddiriedolaeth ar gyfer y brif Ffurflen Dreth SA100. Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y Dreth Incwm y mae'r ymddiriedolwyr wedi'i thalu ar ran y setlwr.
Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth. Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol, a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’, y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth.
Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 ac ar ôl hynny, bydd yr ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf y mae angen ei thalu ar enillion a wneir dros swm eithriedig blynyddol yr ymddiriedolwyr.
Mae’n bosib y bydd Treth Etifeddu yn ddyledus:
Weithiau, bydd Treth Etifeddu yn defnyddio terminoleg wahanol ar gyfer ymddiriedolaethau. Mae’n bosib i ymddiriedolaethau rhieni i blant ddod o dan yr hyn a elwir yn ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs