Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gydag ymddiriedolaethau hawl absoliwt (bare trusts), mae gan y buddiolwr (y sawl sy’n cael budd o’r ymddiriedolaeth) hawl absoliwt ac uniongyrchol i’r cyfalaf a’r incwm sydd yn yr ymddiriedolaeth. Bydd rhaid i fuddiolwyr dalu Treth Incwm ar incwm y bydd yr ymddiriedolaeth yn ei gael. Mae’n bosib y bydd rhaid iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddu hefyd.
Mae ymddiriedolaeth hawl absoliwt yn golygu ymddiriedolaeth lle mae gan y buddiolwr hawl absoliwt ac uniongyrchol i’r cyfalaf a’r incwm sydd yn yr ymddiriedolaeth. Weithiau gelwir ymddiriedolaethau hawl absoliwt yn ‘ymddiriedolaethau syml’.
Gall y sawl a fydd yn sefydlu ymddiriedolaeth hawl absoliwt fod yn sicr y bydd yr asedau a neilltuir (megis arian, tir neu adeiladau) yn mynd yn uniongyrchol i’r buddiolwyr sydd i fod i’w cael. Gelwir yr asedau hyn yn ‘eiddo ymddiriedolaeth’. Ar ôl sefydlu’r ymddiriedolaeth, ni ellir newid y buddiolwyr.
Bydd yr asedau yn cael eu cadw yn enw ymddiriedolwr - yr unigolyn sy’n rheoli'r ymddiriedolaeth ac yn gwneud penderfyniadau yn ei chylch. Fodd bynnag, nid oes gan yr ymddiriedolwr ddisgresiwn dros ba incwm neu gyfalaf i’w roi i’r buddiolwr neu’r buddiolwyr.
Caiff ymddiriedolaethau hawl absoliwt eu defnyddio’n aml i drosglwyddo asedau i blant. Yng Nghymru a Lloegr, bydd ymddiriedolwyr yn cadw’r asedau mewn ymddiriedolaeth nes bydd y buddiolwr yn 18 oed, neu’n 16 oed yn yr Alban. Pan fyddant yn cyrraedd yr oedran priodol, gall buddiolwyr fynnu bod yr ymddiriedolwyr yn trosglwyddo’r gronfa ymddiriedolaeth iddyn nhw.
Enghraifft
Yn ei ewyllys, mae Gary yn gadael rhywfaint o arian i'w chwaer, Juliet. Bydd yr arian yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth. Juliet yw’r buddiolwr, ac mae ganddi hawl i gael yr arian ac unrhyw incwm (megis llog) y bydd yn ei ennill. Mae ganddi hefyd hawl i gymryd unrhyw faint o’r arian unrhyw bryd.
Mae hon yn ymddiriedolaeth hawl absoliwt oherwydd bod gan Juliet hawl absoliwt i gael y cyfalaf (yr arian gwreiddiol a roddwyd yn yr ymddiriedolaeth) a’r incwm (unrhyw log a gaiff ei ennill).
Mae’n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn cael incwm sy’n deillio o fuddsoddiadau megis llog banc, incwm difidend o stociau a chyfranddaliadau neu incwm rhent o dir neu adeiladau. Rhaid i’r buddiolwr dalu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth.
Os mai chi yw’r buddiolwr a bod gennych hawl i gael unrhyw incwm o ymddiriedolaeth hawl absoliwt, dylech roi gwybod i’ch swyddfa dreth. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesu SA100, os nad ydych yn gwneud hynny eisoes. Y buddiolwr sy’n gyfrifol am y dreth hon, ond mae’n bosib y bydd yr ymddiriedolwr yn ei thalu drosoch.
Mae cymorth i lenwi eich ffurflen dreth Hunanasesu ar gael yn yr arweiniad isod.
Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth. Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth. Gelwir y lwfans hwn yn ‘swm eithriedig blynyddol’.
At ddibenion treth, bydd asedau ymddiriedolaeth hawl absoliwt yn cael eu trin fel petai'r buddiolwr yn dal asedau'r ymddiriedolaeth yn ei enw ei hun. Mewn ymddiriedolaeth hawl absoliwt, bydd y buddiolwr yn talu’r dreth fel petai’n berchen ar yr asedau’n uniongyrchol.
Os mai chi yw’r buddiolwr, rhaid i chi ddatgan unrhyw enillion trethadwy ar eich ffurflen dreth Hunanasesu bersonol.
Bydd Treth Etifeddu weithiau’n daladwy os bydd yr unigolyn a roddodd ased yn yr ymddiriedolaeth hawl absoliwt yn marw o fewn saith mlynedd ar ôl gwneud hynny. Gelwir hyn yn ‘drosglwyddiad y gellid ei eithrio’.
Y buddiolwr sy’n gyfrifol am y dreth hon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaethau a Threth Etifeddu drwy ddilyn y ddolen isod.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs