Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae ymddiriedolaethau cymysg yn gyfuniad o fwy nag un math o ymddiriedolaeth. At ddibenion treth, caiff gwahanol rannau o ymddiriedolaeth gymysg eu trin yn ôl y rheolau treth sy’n berthnasol i bob rhan o’r ymddiriedolaeth.
Mae ymddiriedolaeth gymysg yn golygu ymddiriedolaeth lle mae’r incwm yn drethadwy ar fwy nag un sail. Mae’n bosib mai’r rheswm am hyn yw y ceir gwahanol rannau pendant i’r gronfa ymddiriedolaeth o’r dechrau, er mwyn i’r incwm gael ei gadw mewn ymddiriedolaethau gwahanol bob amser. Fodd bynnag, efallai eu bod nhw hefyd o ganlyniad i newidiadau yn amgylchiadau’r buddiolwyr, fel y gwelir yn yr enghraifft ganlynol.
Enghraifft
Mae dau blentyn yn cael budd o ymddiriedolaeth cronni. Yn ôl telerau’r ddogfen ymddiriedolaeth, mae gan y buddiolwyr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth pan fyddant yn troi’n 18 oed. Mae Zoe yn troi’n 18 oed, ond dim ond 14 oed yw Sarah. Mae'r rhan o'r ymddiriedolaeth sydd o fudd i Zoe yn newid i fod yn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant, ac mae'r rhan sydd o fudd i Sarah yn dal yn ymddiriedolaeth cronni nes bydd hi’n 18 oed. Yn syml, pan fydd Zoe yn troi'n 18 oed, bydd yr ymddiriedolaeth yn newid i fod yn ymddiriedolaeth gymysg.
Mewn ymddiriedolaethau cymysg, bydd yr incwm ar gyfer pob rhan o’r ymddiriedolaeth yn cael ei drethu dan y rheolau sy’n berthnasol i’r math hwnnw o ymddiriedolaeth. Er enghraifft, bydd yr elfen buddiant mewn meddiant mewn ymddiriedolaeth yn cael ei threthu felly, a bydd yr elfen ddisgresiwn yn cael ei threthu fel ymddiriedolaeth disgresiwn. Mae hyn yn berthnasol i gyfrifoldebau treth yr ymddiriedolwyr a’r buddiolwyr.
Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth.
Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol, a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’, y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth. Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar enillion.
Ni chaiff buddiolwyr eu trethu ar enillion sydd wedi dod i ran yr ymddiriedolaeth, ac ni fyddant yn cael credyd ar gyfer unrhyw dreth a delir gan yr ymddiriedolwyr.
Ni chaiff gwahanol rannau ymddiriedolaeth o fewn ymddiriedolaeth gymysg eu trin ar wahân at ddibenion Treth Etifeddu. Yn yr un modd ag ymddiriedolaethau disgresiwn, ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant ac ymddiriedolaethau cronni, mae’n bosib y bydd rhaid talu Treth Etifeddu:
Weithiau, bydd Treth Etifeddu yn defnyddio terminoleg wahanol ar gyfer ymddiriedolaethau. Mae’n bosib i ymddiriedolaethau cymysg ddod o dan yr hyn a elwir yn ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs