Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae rhai ymddiriedolaethau ar gyfer plant a phobl anabl yn cael manteision treth, sy’n golygu eu bod yn talu llai o dreth o bosib. Gelwir yr ymddiriedolaethau hyn yn ymddiriedolaethau ar gyfer ‘buddiolwyr agored i niwed’. Mae’r canllaw hwn yn egluro sut mae’r ymddiriedolaethau hyn yn gweithio, y manteision treth, sut mae eu hawlio a ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth.
Mae buddiolwr yn golygu unrhyw un sy’n cael budd o ymddiriedolaeth. Mae ‘buddiolwr agored i niwed’ naill ai:
Os caiff ymddiriedolaeth ei sefydlu ar gyfer buddiolwr agored i niwed, gall yr ymddiriedolwyr hawlio manteision ar gyfer Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf os yw’n ‘ymddiriedolaeth gymwys’. Ni all fod yn ymddiriedolaeth gymwys os yw'r sawl a'i sefydlodd yn gallu cael rhywfaint o fudd o'r ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, gall fod yn ymddiriedolaeth gymwys o ran Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd 2008-09 ymlaen.
Yn yr ymddiriedolaethau hyn, mae'n rhaid i’r asedau – megis arian, tir neu adeiladau – gael eu defnyddio er budd person anabl yn unig. Rhaid bod gan y person anabl hawl i gael yr holl incwm. Fel arall, ni ellir defnyddio unrhyw gyfran o'r incwm er budd neb arall.
Fel arfer, caiff yr ymddiriedolaethau hyn eu sefydlu:
Mae'r rheolau diffyg ewyllys yn wahanol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Os caiff ymddiriedolaeth ei sefydlu yna ar gyfer plant sydd wedi colli rhiant, ac nad oes ewyllys, fel arfer caiff ei thrin fel ‘ymddiriedolaeth hawl absoliwt (bare trust)’ at ddibenion treth.
Os oes buddiolwyr eraill nad ydynt yn agored i niwed, rhaid i’r asedau a’r incwm ar gyfer y buddiolwr agored i niwed:
Dim ond y rhan honno o'r ymddiriedolaeth fydd yn cael manteision treth.
I hawlio manteision treth, bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr lenwi ffurflen VPE1 (Vulnerable Person Election) a’i hanfon i Gyllid a Thollau EM. Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan yr ymddiriedolwyr a'r buddiolwr agored i niwed – neu rywun sydd â hawl gyfreithiol i lofnodi ar ran y buddiolwr.
Mae’n rhaid i'r ymddiriedolwyr roi manylion yr holl asedau ac incwm yn yr ymddiriedolaeth gymwys, gan gynnwys unrhyw beth nad yw ond yn cael ei ddefnyddio’n rhannol ar gyfer y buddiolwr agored i niwed.
Bydd yn rhaid iddynt hefyd ddangos sut mae incwm yr ymddiriedolaeth yn cael ei rannu.
Ni all fod yn ymddiriedolaeth gymwys os yw'r sawl a'i sefydlodd yn gallu cael rhywfaint o fudd o'r ymddiriedolaeth.
Rhaid llenwi ffurflen VPE1 ar wahân ar gyfer pob buddiolwr.
Bydd hyn yn dod i rym o’r dyddiad a roddwch ar y ffurflen VPE1. Rhaid i chi wneud y cais ddim hwyrach na 12 mis ar ôl 31 Ionawr ar ôl y flwyddyn dreth pan hoffech i hyn ddod i rym. Felly, os hoffech i hyn ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2011, bydd yn rhaid i chi anfon ffurflen VPE1 i Gyllid a Thollau EM erbyn 31 Ionawr 2014.
Bydd unrhyw incwm neu enillion cyn y dyddiad y bydd hynny’n dod i rym yn cael eu trethu dan y rheolau arferol ar gyfer ymddiriedolaethau – hyd yn oed os bydd yn dod i rym yn ystod yr un flwyddyn dreth.
Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os bydd y person agored i niwed yn marw neu os nad yw’n agored i niwed mwyach. Ni fydd modd cael y manteision treth ar ôl y dyddiad hwn.
Pan fydd gan ymddiriedolaeth fuddiolwr agored i niwed, mae gan yr ymddiriedolwyr hawl i gael didyniad treth yn erbyn y swm y byddent yn ei dalu fel arall. Cyfrifir hyn yn y ffordd ganlynol:
Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth.
Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol, a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’, y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth. Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus.
Telir y Dreth Enillion Cyfalaf gan yr ymddiriedolwyr. Gallant hawlio rhyddhad treth, sy’n cael ei gyfrifo mewn ffordd debyg i’r Rhyddhad Treth Incwm:
Nid yw’r fantais arbennig hon ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol yn y flwyddyn dreth pan fydd y buddiolwr yn marw.
Mae ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr agored i niwed yn cael manteision arbennig o ran Treth Etifeddu os ydynt yn ‘ymddiriedolaethau cymwys’ o safbwynt Treth Etifeddu.
Mae ymddiriedolaeth gymwys ar gyfer person anabl yn golygu:
Sefydlir ymddiriedolaeth gymwys pan fydd plentyn yn colli rhiant, a bydd y plentyn yn cael yr holl incwm a chyfalaf pan fydd yn troi'n 18 oed (neu cyn hynny).
Bydd asedau a drosglwyddir i ymddiriedolaeth gymwys ar gyfer person anabl yn cael eu trin fel ‘trosglwyddiad y gellid ei eithrio’ – mae hyn yn golygu na fydd rhaid talu Treth Etifeddu os bydd y sawl a wnaeth y trosglwyddiad yn dal yn fyw saith mlynedd ar ôl y dyddiad trosglwyddo.
Ni thelir Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau a wneir o unrhyw fath o ymddiriedolaeth gymwys i’r buddiolwr agored i niwed. Fodd bynnag, pan fydd y buddiolwr yn marw, caiff unrhyw asedau a gedwir yn yr ymddiriedolaeth ar ei ran eu trin fel rhan o’r ystâd, ac efallai y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu.
Does dim taliadau deg mlynedd ar gyfer Treth Etifeddu ar ymddiriedolaethau sydd â buddiolwyr agored i niwed.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs