Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddiriedolaethau cronni neu ymddiriedolaethau disgresiwn

Ystyr ymddiriedolaeth disgresiwn (discretionary trust) yw ymddiriedolaeth lle mae gan ymddiriedolwyr ‘ddisgresiwn’ ynghylch sut mae defnyddio incwm yr ymddiriedolaeth ac, weithiau, y cyfalaf. Ystyr ymddiriedolaeth cronni yw ymddiriedolaeth lle mae gan yr ymddiriedolwyr y pŵer i ‘gronni’ incwm (ei ychwanegu at y cyfalaf). Gall ymddiriedolaeth roi’r pŵer i ymddiriedolwyr wneud y ddau beth.

Beth yw ymddiriedolaeth disgresiwn?

Mewn ymddiriedolaeth disgresiwn, yr ymddiriedolwyr yw perchnogion cyfreithiol unrhyw asedau - megis arian, tir neu adeiladau a roddir yn yr ymddiriedolaeth. Gelwir yr asedau hyn yn ‘eiddo ymddiriedolaeth’. Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am reoli’r ymddiriedolaeth er budd y buddiolwyr.

Mae gan yr ymddiriedolwyr ‘ddisgresiwn’ ynghylch sut mae defnyddio incwm yr ymddiriedolaeth. Efallai fod ganddynt ddisgresiwn hefyd ynghylch sut mae dosbarthu cyfalaf yr ymddiriedolaeth. Efallai y gall yr ymddiriedolwyr ‘gronni’ incwm hefyd – ei ychwanegu at y cyfalaf. Gweler yr adran isod ynghylch ymddiriedolaethau cronni.

Efallai y gall yr ymddiriedolwyr benderfynu:

  • faint o incwm a/neu gyfalaf a delir o’r ymddiriedolaeth, os o gwbl
  • pa fuddiolwr i wneud taliadau iddo
  • pa mor aml y gwneir y taliadau
  • pa amodau, os o gwbl, i’w gosod ar y rheini a fydd yn cael y taliadau

Weithiau, caiff ymddiriedolaethau disgresiwn eu sefydlu er mwyn neilltuo cyfalaf ar gyfer:

  • angen yn y dyfodol na wyddoch amdano eto o bosib, er enghraifft ŵyr neu wyres a fydd angen mwy o gymorth ariannol na buddiolwyr eraill rywbryd yn eu bywyd
  • buddiolwyr sydd efallai ddim yn gallu, neu ddim yn ddigon cyfrifol, i ddelio ag arian eu hunain

Dan delerau’r ddogfen sy’n creu’r ymddiriedolaeth, efallai y bydd yn rhaid i’r ymddiriedolwyr ddefnyddio’r incwm er budd buddiolwyr penodol mewn rhai sefyllfaoedd. Er hynny, efallai y bydd ganddynt ddisgresiwn o hyd ynghylch sut a phryd i dalu. Mae faint o ddisgresiwn a fydd gan yr ymddiriedolwyr yn dibynnu ar delerau’r ddogfen ymddiriedolaeth.

Enghraifft

Mae Mina’n rhoi arian mewn ymddiriedolaeth, ac yn bwriadu i’r arian gael ei gadw yno am ugain mlynedd er budd ei hwyrion deg mlwydd oed. Gall yr ymddiriedolwyr benderfynu sut mae buddsoddi neu ddefnyddio’r arian ac unrhyw log er budd yr wyrion. Felly, pan fydd y plant yn ifanc, efallai y bydd yr ymddiriedolwyr yn penderfynu defnyddio'r arian i dalu am wersi piano ar eu cyfer. Wrth iddynt fynd yn hŷn, efallai y bydd yr ymddiriedolwyr yn defnyddio’r arian i dalu tuag at briodas.

Ymddiriedolaethau cronni

Mewn ymddiriedolaeth cronni, gall yr ymddiriedolwyr gronni incwm o fewn yr ymddiriedolaeth, hynny yw, ei ychwanegu at gyfalaf yr ymddiriedolaeth. Byddant yn gwneud hyn yn aml nes bod y buddiolwr â hawl cyfreithiol i gael asedau’r ymddiriedolaeth (fel arian, tir neu adeiladau) neu’r incwm sy’n dod o’r asedau. Bydd incwm sydd wedi cael ei ‘gronni’ yn dod yn rhan o gyfalaf yr ymddiriedolaeth. Gall yr ymddiriedolwyr hefyd dalu incwm yn ôl eu disgresiwn.

Nid yw ymddiriedolaethau cronni yr un fath ag ‘ymddiriedolaethau cronni a chynhaliaeth’. Math o ymddiriedolaeth a oedd yn gymwys i gael triniaeth ffafriol ar gyfer Treth Etifeddu yw ymddiriedolaethau cronni a chynhaliaeth. Daeth y Ddeddf Cyllid 2006 â’r driniaeth hon i ben a gwnaeth darpariaethau er mwyn i’r ymddiriedolaethau cronni a chynhaliaeth ddod yn ‘ymddiriedolaethau rhwng 18 a 25’ neu er mwyn iddynt gael eu symud i’r ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’. Cewch wybod mwy ynghylch y mathau hyn o ymddiriedolaeth drwy ddilyn y ddolen isod.

Ymddiriedolaethau cronni neu ymddiriedolaethau disgresiwn a Threth Incwm

Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am ddatgan a thalu Treth Incwm ar incwm ymddiriedolaethau. Byddant yn gwneud hyn ar ffurflen SA900, sef y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau bob blwyddyn.

Mewn ymddiriedolaethau disgresiwn ac ymddiriedolaethau cronni, bydd incwm yn cael ei drethu ar gyfraddau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau, ar wahân i £1,000 cyntaf incwm ymddiriedolaeth, sef y ‘band cyfradd safonol’. Mae incwm sy’n dod o dan y band cyfradd safonol yn cael ei drethu ar gyfraddau is, gan ddibynnu ar natur yr incwm – fel y dangosir yn y tablau isod.

Fodd bynnag, os oes gan y setlwr fwy nag un ymddiriedolaeth, bydd y band safonol £1,000 yn cael ei rannu rhwng nifer yr ymddiriedolaethau sydd gan y setlwr. Os oes gan y setlwr fwy na phum ymddiriedolaeth, £200 yw’r band cyfradd safonol ar gyfer pob ymddiriedolaeth.

Hyd at £1000 o incwm ymddiriedolaeth

Math o incwm

Cyfradd dreth 2012-13

Rhent, masnachu a chynilion

20% (cyfradd sylfaenol)

Difidendau’r DU, megis incwm sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau

10% (cyfradd gyffredinol ar gyfer difidendau)

Dros £1000 o incwm ymddiriedolaeth

Math o incwm

Cyfradd dreth 2012-13

Difidendau a dosbarthiadau

42.5% (cyfradd ymddiriedolaeth ar gyfer difidendau)

Incwm arall

50% (cyfradd ymddiriedolaeth)

Mae rheolau arbennig yn berthnasol i ymddiriedolaethau sy’n cynnwys buddiolwyr agored i niwed – gweler yr adran isod ynghylch buddiolwyr agored i niwed.

Caiff rhai eitemau sy’n eitemau cyfalaf yn ôl cyfraith ymddiriedolaeth eu trin fel incwm at ddibenion treth. Maent yn cael eu trethu ar y gyfradd ymddiriedolaeth (50 y cant) neu ar y gyfradd ymddiriedolaeth ar gyfer difidendau (42.5 y cant), gan ddibynnu ar y math o eitem.

Mae hon yn elfen gymhleth ym maes treth ymddiriedolaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch eitemau cyfalaf sy’n cael eu trin fel incwm yn arweiniad technegol Cyllid a Thollau EM – Trusts, Settlements and Estates Manual.

Taliadau incwm dewisol i fuddiolwyr

Pan fydd ymddiriedolwyr yn gwneud taliad incwm dewisol, bydd yn rhaid talu credyd treth ar y gyfradd ymddiriedolaeth (50 y cant ar hyn o bryd). Mae hyn yn golygu y caiff ei thrin yn nwylo’r buddiolwyr fel petai Treth Incwm eisoes wedi cael ei thalu ar y gyfradd 50 y cant. Efallai y gallai’r buddiolwr hawlio rhywfaint neu’r cyfan o’r dreth yn ôl os nad yw’n talu treth, neu os yw’n talu treth ar y gyfradd 20 neu 40 y cant.

Mae angen i ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth disgresiwn – neu ymddiriedolaeth cronni lle mae ganddynt hefyd y pŵer i wneud taliadau dewisol – wneud yn siŵr eu bod wedi talu digon o dreth ar gyfer y credyd treth a roddir i'r buddiolwr. Byddant yn gwneud hwn drwy broses o’r enw ‘cronfa dreth’, sy'n cadw cofnod o’r holl daliadau incwm dewisol a wnaed gan yr ymddiriedolwyr, a'r dreth y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i daliadau i fuddiolwyr ymddiriedolaethau disgresiwn sy’n golygu buddiant i'r setlwr (settlor interested discretionary trusts). Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor.

Ymddiriedolaethau disgresiwn neu ymddiriedolaethau cronni a Threth Enillion Cyfalaf

Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth. Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’ y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth. Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus.

Ni chaiff buddiolwyr eu trethu ar unrhyw enillion ac ni fyddant yn cael credyd ar gyfer unrhyw dreth a delir gan yr ymddiriedolwyr.

Ymddiriedolaethau disgresiwn neu ymddiriedolaethau cronni a Threth Etifeddu

Mae’n bosib y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu:

  • os bydd asedau yn cael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth disgresiwn
  • os bydd deg mlynedd arall wedi mynd heibio ers sefydlu ymddiriedolaeth disgresiwn
  • os bydd asedau yn cael eu tynnu o ymddiriedolaeth disgresiwn neu os bydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben

Weithiau, bydd Treth Etifeddu yn defnyddio terminoleg wahanol ar gyfer ymddiriedolaethau. Gall ymddiriedolaethau disgresiwn ddod o dan yr hyn a elwir yn ymddiriedolaethau ‘eiddo perthnasol’.

Ymddiriedolaethau disgresiwn neu ymddiriedolaethau cronni sydd â buddiolwyr agored i niwed

Gellir defnyddio ymddiriedolaeth disgresiwn neu ymddiriedolaeth cronni i helpu ‘buddiolwr agored i niwed’. Mae buddiolwr agored i niwed yn golygu:

  • person sy’n anabl yn gorfforol neu'n feddyliol
  • plentyn dan 18 oed sydd wedi colli rhiant

Efallai y bydd ymddiriedolaeth a sefydlwyd er budd buddiolwr agored i niwed yn gymwys i gael manteision treth arbennig.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU