Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth ar wahanol fath o incwm ymddiriedolaeth

Mae’n bosib bod gan wahanol fath o incwm ymddiriedolaeth wahanol gyfraddau treth. Mae’r arweiniad hwn yn edrych ar sut mae’r cyfraddau hyn yn amrywio yn unol â’r ddau brif fath o ymddiriedolaeth teulu yn y DU: ymddiriedolaeth cronni/ymddiriedolaeth disgresiwn (accumulation/discretionary), ac ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant. Ceir dolenni at reolau ar gyfer mathau eraill o ymddiriedolaethau hefyd.

Treth ar incwm ymddiriedolaethau cronni/disgresiwn

Mae ymddiriedolaethau lle gall yr ymddiriedolwyr gronni incwm a/neu ei dalu yn ôl eu disgresiwn yn cael eu trethu mewn ffordd benodol.

Mae'r gyfradd Treth Incwm y mae'n rhaid ei thalu yn dibynnu ar y math o incwm ac a yw'r incwm yn perthyn i'r ‘band cyfradd safonol’. May hyn yn berthnasol i’r £1,000 cyntaf o incwm neu’r ‘incwm tybiedig’. Gallwch gael gwybod rhagor am incwm tybiedig yn yr adran isod ‘Eitemau sy’n cael eu trethu fel incwm ar ymddiriedolaethau – incwm tybiedig’.

Cyfraddau treth ar y £1,000 cyntaf o incwm ymddiriedolaethau cronni/disgresiwn

Math o incwm

Cyfradd treth – blwyddyn dreth 2012-13

Incwm ar ffurf difidend (megis incwm sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau)

10% (‘cyfradd gyffredinol ar gyfer difidendau’)

Pob incwm arall (rhent, incwm busnes, cynilion)

20% (‘cyfradd sylfaenol’)

Cyfraddau treth ar incwm ymddiriedolaethau cronni/disgresiwn (dros £1,000)

Math o incwm

Cyfradd treth – blwyddyn dreth 2012-13

Incwm ar ffurf difidend (megis incwm sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau)

42.5% (‘cyfradd ymddiriedolaeth ar gyfer difidendau’)

Pob incwm arall (rhent, incwm busnes, cynilion)

50% (‘cyfradd ymddiriedolaeth’)

Sut mae’r band cyfradd safonol yn gweithio

Defnyddir y band cyfradd safonol yn y drefn ganlynol yn ôl y gwahanol fath o incwm:

  • yn gyntaf ar gyfer incwm nad yw’n incwm ar ffurf difidend (rhent, incwm busnes, cynilion)
  • yna'r incwm ar ffurf difidend – megis incwm sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau

Os yw'r sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth – y setlwr – wedi sefydlu mwy nag un ymddiriedolaeth, bydd y band treth safonol £1,000 yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng yr ymddiriedolaethau. Fodd bynnag, os yw'r setlwr wedi sefydlu mwy na pum ymddiriedolaeth, mae’r band treth safonol ar gyfer pob ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn £200.

Incwm difidend – effaith y band cyfradd safonol

Mae 10 y cant o gredyd treth ar gael o ddifidendau gan gwmnïau yn y DU a rhai cwmnïau nad ydynt wedi'u lleoli yn y DU, a gellir gosod y credyd treth hwnnw yn erbyn atebolrwydd treth y trethdalwr. Nid yw’r credyd hwn yn ad-daladwy.

Ar ôl cynnwys y 10 y cant o gredyd treth, ni fydd rhaid talu unrhyw dreth bellach ar unrhyw incwm difidend sy'n perthyn i'r band cyfradd safonol. Er hynny, bydd yn rhaid i'r ymddiriedolwr dalu 32.5 y cant o Dreth Incwm ar incwm difidend sy’n uwch na’r band cyfradd safonol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gredyd treth y DU ar ddifidendau gan gwmnïau nad ydynt wedi'u lleoli yn y DU ar dudalennau Nodiadau Tramor SA106 ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Treth ar incwm a dalwyd i fuddiolwyr o ymddiriedolaethau cronni/disgresiwn

Os telir incwm ymddiriedolaeth i fuddiolwr yn unol â disgresiwn yr ymddiriedolwyr, ystyrir bod yr incwm eisoes wedi cael ei drethu ar y gyfradd ymddiriedolaeth. 50 y cant yw’r gyfradd hon ar hyn o bryd.

Os nad yw’r ymddiriedolwyr wedi talu digon o dreth ar yr incwm, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu rhagor o dreth er mwyn iddo fod yn ddigon ar gyfer credyd treth y buddiolwr.

Os nad yw’r buddiolwr yn talu treth, neu os yw'n talu treth ar y gyfradd 20 neu 40 y cant, efallai y gall hawlio rhywfaint o'r dreth, neu'r dreth i gyd, yn ôl. Os yw’n talu treth ar y gyfradd 50 y cant, ni fydd rhaid iddo dalu rhagor o dreth ar incwm yr ymddiriedolaeth.

Bydd cronfeydd treth yn helpu ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau disgresiwn i weld faint o Dreth Incwm ymddiriedolaeth a dalwyd.

Treth ar incwm ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Mae ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant yn golygu bod gan y buddiolwyr hawl i holl incwm yr ymddiriedolaeth – ar ôl costau – fel y cynhyrchir yr incwm hwnnw. Ceir rheolau treth penodol ar gyfer yr ymddiriedolaeth hon, ac – at ddibenion Treth Incwm – fe'i gelwir weithiau yn ‘ymddiriedolaeth lle nad oes buddiant mewn meddiant’ (non-discretionary trust). Fel arfer, nid oes ‘band cyfradd safonol’ ar gyfer y math hwn o ymddiriedolaeth.

Pan fydd ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant yn derbyn incwm, bydd yn rhaid i'r ymddiriedolwyr dalu treth ar y cyfraddau canlynol.

Cyfraddau treth ar ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Math o incwm

Cyfradd dreth 2012-13

Incwm ar ffurf difidend (megis incwm sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau)

10% (‘cyfradd gyffredinol ar gyfer difidendau’)

Pob incwm arall (rhent, incwm busnes, cynilion)

20% (‘cyfradd sylfaenol’)

Fel arfer, ni fydd ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant yn cael eu trethu ar y cyfraddau treth arbennig sy’n berthnasol i ymddiriedolaethau lle nad oes buddiant mewn meddiant. 42.5 y cant ar gyfer difidendau a 50 y cant ar gyfer pob incwm arall yw’r cyfraddau hyn. Fodd bynnag, caiff rhai eitemau sy’n eitemau cyfalaf yn ôl cyfraith ymddiriedolaethau eu trin fel incwm at ddibenion treth pan fydd ymddiriedolaethau yn cael yr incwm.

Gan ddibynnu ar y math o eitem, maent naill ai yn cael eu trethu ar y gyfradd ymddiriedolaeth sy'n 50 y cant, neu ar y gyfradd ymddiriedolaeth ar gyfer difidendau sy’n 42.5 y cant.

Gallwch gael gwybod rhagor am hyn yn yr adran isod ‘Eitemau sy’n cael eu trethu fel incwm ar ymddiriedolaethau – incwm tybiedig’.

Treth ar incwm buddiolwyr sy’n deillio o ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Gall ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant ‘fandadu’ incwm i fuddiolwr. Mae hyn yn golygu bod yr incwm (er enghraifft difidendau o gyfranddaliadau neu log o gyfrif banc) yn mynd yn uniongyrchol i'r buddiolwr, nid drwy'r ymddiriedolwyr. Dylid nodi incwm wedi’i fandadu ar ffurflen dreth Hunanasesiad y buddiolwr. Nid yw ymddiriedolwyr yn nodi’r incwm hwn ar y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.

Pan nad yw'r incwm wedi’i fandadu a bod yr ymddiriedolwyr wedi cynnwys yr incwm ar y ffurflen ymddiriedolaeth ac wedi talu treth ar y cyfraddau a ddangosir yn yr adran uchod, bydd yr ymddiriedolwyr yn trosglwyddo’r incwm sy’n weddill ar ôl treuliau i’r buddiolwyr.

Ar ôl talu treth ar y cyfraddau a ddangosir uchod, bydd yr ymddiriedolwyr yn trosglwyddo’r incwm i’r buddiolwyr.
Os nad yw’r buddiolwr yn talu treth, efallai y gall hawlio rhywfaint o'r dreth, neu'r dreth i gyd, yn ôl – ar wahân i’r credyd treth o 10 y cant na ellir ei hawlio’n ôl ar ddifidendau.

Os yw’r buddiolwr yn talu treth ar y gyfradd 40 neu 50 y cant, bydd yn rhaid iddo dalu treth ychwanegol ar y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i dalu a’r hyn y maent yn rhwym i’w dalu fel trethdalwyr.

Eitemau sy’n cael eu trethu fel incwm ar ymddiriedolaethau – incwm tybiedig

Bydd rhai eitemau nad ydynt yn ymddangos fel incwm yn nwylo’r ymddiriedolwyr yn cael eu trethu fel incwm ar y cyfraddau treth ar gyfer ymddiriedolaethau cronni, ymddiriedolaethau disgresiwn neu ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant. Gelwir yr eitemau yn incwm tybiedig. Maent yn cynnwys:

  • enillion ar bolisïau yswiriant bywyd
  • elw a gronnwyd drwy gynllun incwm
  • premiymau prydles (cyfandaliadau a geir yn hytrach na rhent)

Gallwch gael rhagor o fanylion ar ffurflen SA950 o dudalen 16 ymlaen, sef yr arweiniad ar y ffurflen dreth ar gyfer ymddiriedolaethau ac ystadau.

Mae hon yn elfen gymhleth ym maes treth ymddiriedolaethau. Gallwch gael gwybod mwy yn arweiniad technegol Cyllid a Thollau EM – Trusts, Settlements and Estates Manual – gweler y ddolen isod.

Rheolau Treth Incwm ar gyfer mathau eraill o ymddiriedolaethau

Mae gan fathau eraill o ymddiriedolaethau reolau gwahanol ar gyfer treth ar eu hincwm. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod rhagor am bob un.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU