Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Didyniadau a rhyddhad Treth Incwm ar gyfer ymddiriedolaethau

Gellir lleihau Treth Incwm rhai ymddiriedolwyr a buddiolwyr mewn nifer o ffyrdd. Mae’r arweiniad hwn yn ymdrin â’r prif fathau o gynlluniau rhyddhad treth a didyniadau treth sydd ar gael yng nghyd-destun incwm ymddiriedolaethau. Mae’n egluro sut mae ystyried y rhain wrth gyfrifo’r Dreth Incwm sy’n ddyledus – a ble i gael rhagor o wybodaeth.

Y costau sy'n gysylltiedig â rheoli ymddiriedolaethau

Weithiau, mae’n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn gorfod talu costau pan fyddant yn cyflawni eu dyletswyddau. Gelwir y costau hyn yn ‘gostau rheoli ymddiriedolaethau’, a gallant leihau’r canlynol:

  • y swm sy’n cael ei drethu ar y cyfraddau arbennig i ymddiriedolaethau ar gyfer ymddiriedolaethau cronni ac ymddiriedolaethau disgresiwn
  • incwm trethadwy’r buddiolwr mewn meddiant

Pa gostau sy’n cael mynd yn erbyn incwm?

Dim ond costau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag incwm yr ymddiriedolaeth sy’n cael eu caniatáu fel costau rheoli’r ymddiriedolaeth. Gallai’r rhain gynnwys costau:

  • paratoi ffurflen dreth ar gyfer yr incwm a dderbyniwyd (nid yw hyn yn cynnwys cost paratoi’r tudalennau enillion cyfalaf – rhaid eithrio’r rhain o'r costau a hawlir)
  • penderfynu pa fuddiolwyr i dalu iddynt, a'r swm
  • talu incwm i fuddiolwyr

Rhai enghreifftiau o’r costau sydd ddim yn cael eu caniatáu

Dyma rai enghreifftiau o'r costau sydd ddim yn cael eu caniatáu:

  • costau er budd yr ymddiriedolaeth i gyd – megis y rhan fwyaf o gostau cyfreithiol
  • cost cyngor am fuddsoddi neu am newid buddsoddiadau'r ymddiriedolaeth

Yn unol â’r gyfraith ar gyfer ymddiriedolaethau, mae’r costau uchod yn berthnasol i gyfalaf ymddiriedolaethau nid i incwm ymddiriedolaethau.

Nid yw costau ar gyfer pethau fel masnachu neu redeg busnes yn cyfrif fel costau rheoli ymddiriedolaethau. Caiff costau busnes ymddiriedolaethau eu didynnu o'r elw y mae'n ei wneud wrth fasnachu, yn union fel unrhyw fusnes arall – edrychwch ar yr adran isod ar ddidyniadau eraill.

Un camddealltwriaeth sy’n digwydd o bryd i’w gilydd yw bod taliadau ymddiriedolaethau i fuddiolwyr yn cyfrif fel costau rheoli. Nid yw hyn yn wir.

Defnyddiwch y ddolen isod i Dudalen Gymorth 392 sy’n sôn am gostau rheoli ymddiriedolaethau – mae’n esbonio pa gostau sy’n gymwys a pha gostau sydd ddim yn gymwys.

Rheolau didynnu costau ar gyfer ymddiriedolaethau cronni neu ymddiriedolaethau disgresiwn

Gydag ymddiriedolaethau cronni neu ymddiriedolaethau disgresiwn, dim ond o'r incwm y mae'r ymddiriedolwyr yn ei gael sy'n cael ei drethu ar ‘gyfraddau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau’ y gellir didynnu’r costau a ganiateir. Mae hyn yn 42.5 y cant ar gyfer difidendau neu 50 y cant ar gyfer pob incwm arall.

Ni ellir didynnu costau o’r incwm sy’n deillio o unrhyw ran o’r ymddiriedolaeth sy’n cael ei thrin yn wahanol at ddibenion treth, er enghraifft, mewn ymddiriedolaeth gymysg lle mae rhan o'r ymddiriedolaeth yn cael ei thrin fel ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant.

Nid yw incwm sydd wedi cael ei ddefnyddio i dalu costau rheoli'r ymddiriedolaeth yn cael ei dalu ar y gyfradd arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau. Yn hytrach, mae'n cael ei drethu ar gyfraddau is.

Ar gyfer ymddiriedolaethau cronni neu ymddiriedolaethau disgresiwn, bydd costau’n cael eu hystyried yn y flwyddyn dreth maent yn codi.

Bydd costau rheoli’r ymddiriedolaeth yn cael eu hystyried cyn defnyddio’r ‘band cyfradd safonol’.

Dyma’r £1,000 cyntaf o incwm sy’n cael ei drethu ar gyfraddau is. Gallwch ddysgu mwy am y band cyfradd safonol drwy ddilyn y ddolen at ‘Treth ar wahanol fathau o incwm ymddiriedolaeth’ isod.

Didynnu costau ar gyfer ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Gydag ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant, ni ellir defnyddio costau ymddiriedolaethau a ganiateir i leihau incwm trethadwy’r ymddiriedolwyr. Yn hytrach, dylai'r ymddiriedolwyr eu hystyried wrth gyfrifo'r incwm sy'n ddyledus i'r buddiolwyr.

Bydd y costau’n cael eu hystyried yn y flwyddyn dreth lle maent yn codi.

Y drefn ar gyfer didynnu costau o wahanol fathau o incwm

Bydd costau rheoli ymddiriedolaethau yn cael eu didynnu o wahanol fath o incwm yn y drefn ganlynol:

  • yn gyntaf o incwm ar ffurf difidend, megis incwm stociau a chyfranddaliadau
  • yna o incwm nad yw ar ffurf difidend (rhent, masnach, cynilion)

Ble i gael gwybod mwy

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ymdrin â chostau rheoli ymddiriedolaethau yng nghanllawiau Cyllid a Thollau EM ar lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau. Mae’r nodiadau ar gyfer Cwestiwn 13 yn rhoi enghreifftiau sy’n dangos sut mae cyfrifo’r costau i’w didynnu ar gyfer y gwahanol fathau o ymddiriedolaethau.

Didyniadau eraill y gellir eu gwneud o incwm ymddiriedolaethau

Efallai y bydd modd i ymddiriedolwyr hawlio rhyddhad treth a lwfansau ar incwm ymddiriedolaeth sy’n deillio:

  • o fasnach neu bartneriaeth a gynhelir gan yr ymddiriedolwyr
  • o dir ac adeiladau yn y DU y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arnynt
  • o asedau tramor

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y lwfansau a’r cynlluniau rhyddhad treth hyn yn y canllawiau a'r tudalennau atodol perthnasol yn y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau:

  • Masnach Ystadau ac Ymddiriedolaethau
  • Partneriaethau Ystadau ac Ymddiriedolaethau
  • Eiddo Ystadau ac Ymddiriedolaethau yn y DU
  • Ystadau ac Ymddiriedolaethau Tramor

Ymddiriedolaethau sydd â buddiolwyr agored i niwed

Bydd rhai ymddiriedolaethau a sefydlir i helpu ‘buddiolwyr agored i niwed’ yn gymwys i gael manteision treth arbennig. Yn y cyd-destun hwn, byddai buddiolwr agored i niwed yn cynnwys un o’r canlynol:

  • unigolyn sydd ag anabledd corfforol neu feddyliol
  • plentyn dan 18 oed – ‘plentyn perthnasol’ – sydd wedi colli rhiant

Gall yr ymddiriedolwyr hawlio rhyddhad treth sy’n seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng faint fyddent yn gorfod ei dalu fel arfer, a faint fyddai’r buddiolwr agored i niwed wedi gorfod ei dalu pe bai incwm yr ymddiriedolaeth wedi codi’n uniongyrchol iddyn nhw fel unigolion.

Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am ymddiriedolaethau i bobl agored i niwed.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU