Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cronfeydd treth a chymorth gyda chyfrifiadau

Bydd cronfeydd treth yn helpu ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau disgresiwn (discretionary trusts) i weld faint o Dreth Incwm ymddiriedolaeth a dalwyd. Mae gofyn i ymddiriedolwyr fonitro hyn gan fod taliadau i fuddiolwyr yn cael eu trethu ar y ‘gyfradd ymddiriedolaeth’.

Cronfeydd treth: y cefndir

Mae cronfeydd treth yn berthnasol i ymddiriedolaethau disgresiwn. Gyda’r ymddiriedolaethau hyn, yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu holl drethi’r ymddiriedolaeth, ac maent yn meddu ar yr hawl i ‘ddewis’ beth i’w wneud ag incwm yr ymddiriedolaeth, a chyfalaf yr ymddiriedolaeth hefyd o bryd i’w gilydd.

Pan fydd ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau disgresiwn yn gwneud taliad incwm yn ôl disgresiwn, caiff ei drin yn nwylo'r buddiolwr fel pe bai Treth Incwm eisoes wedi cael ei thalu ar y gyfradd ar gyfer ymddiriedolaethau (50 y cant ar hyn o bryd). Mae hyn yn golygu y gallai’r buddiolwr hawlio rhywfaint neu’r cyfan o’r dreth yn ôl os nad yw’n talu treth, neu os yw’n talu treth ar 20 neu 40 y cant.

Oherwydd hyn, pan fydd ymddiriedolwyr yn gwneud taliad incwm, rhaid iddynt wneud yn siŵr eu bod wedi talu digon o Dreth Incwm (p’un ai a yw hynny yn y flwyddyn gyfredol neu mewn blynyddoedd a fu) ar gyfer y 50 y cant o ‘gredyd treth’ (treth sy’n cael ei chyfrif fel treth wedi'i thynnu) sy'n dod gyda'r taliad incwm.

Mae’r gronfa dreth yn cadw cofnod o’r Dreth Incwm y bydd yr ymddiriedolwyr yn ei thalu. Os nad yw’r credyd treth ar daliadau incwm dilynol i fuddiolwyr yn ddigon ar gyfer y swm treth sydd yn y gronfa dreth, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr dalu'r gwahaniaeth drwy'r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.

Sut mae’r gronfa dreth yn gweithio

Mae’r gronfa dreth yn gofnod y mae angen i ymddiriedolwyr ei gadw er mwyn dangos y gwahaniaeth rhwng y canlynol ar ddiwedd blwyddyn dreth benodol:

  • cyfanswm y Dreth Incwm sy’n mynd i’r gronfa dreth y flwyddyn honno, ac unrhyw swm a ddygwyd ymlaen i’r gronfa dreth o flynyddoedd a fu
  • cyfanswm gwerth y credydau treth o 50 y cant sydd ynghlwm wrth daliadau incwm i fuddiolwyr yn y flwyddyn honno

Pan fydd yr ymddiriedolwyr yn talu treth ar y cyfraddau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau, bydd y gronfa dreth yn cynyddu yn ôl faint o dreth a dalwyd. Gall hyn amrywio o 20 i 50 y cant.

Pan fydd yr ymddiriedolwyr yn talu incwm i'r buddiolwyr, bydd y swm yn y gronfa dreth yn gostwng yn ôl gwerth y 50 y cant o gredyd treth sydd ynghlwm wrth bob taliad.

Y ‘gronfa dreth’ ei hun yw’r hyn sy’n weddill ar ddiwedd y flwyddyn dreth lle mae’r ymddiriedolwyr wedi talu’r dreth – ac eithrio unrhyw gredydau treth difidendau na ellir eu had-dalu – ar ôl didynnu’r 50 y cant o gredydau treth ar unrhyw daliadau i fuddiolwyr. Bydd yr hyn sy’n weddill yn cael ei drosglwyddo i’r flwyddyn dreth nesaf, a gellir ei osod yn erbyn taliadau bryd hynny.

Sut gall diffygion treth ddigwydd

Gellir cael diffyg pan fydd swm y credydau treth ar daliadau i fuddiolwyr yn uwch na'r swm sydd ar gael yn y gronfa dreth.

Gallai’r sefyllfa hon godi am y rhesymau canlynol:

  • mae rhywfaint o’r incwm y mae’r ymddiriedolwyr yn ei gael yn dod dan y ‘band cyfradd safonol’ ac yn cael ei drethu ar y cyfraddau is, sef 10 y cant ar gyfer difidendau ac 20 y cant ar gyfer incwm arall – dim ond yr incwm a drethir ar 20 y cant sy’n mynd i’r gronfa
  • bydd rhywfaint o’r incwm y mae’r ymddiriedolwyr yn ei gael yn dod o ddifidendau ac yn cael ei drethu ar 42.5 y cant – ni ellir ad-dalu 10 y cant o hwn, felly bydd 32.5 y cant yn mynd i’r gronfa dreth

Defnyddio’r cyfrifiannell i helpu i atal diffygion treth

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell cronfeydd treth Cyllid a Thollau EM i wneud y canlynol:

  • gweld diffyg posib yn y gronfa dreth (a’i atal) wrth drefnu i ddosbarthu incwm
  • nodi amcangyfrifon er mwyn cyfrifo beth yw uchafswm yr incwm y gallwch ei ddosbarthu i fuddiolwyr dros y flwyddyn dreth heb orfod wynebu diffyg treth
  • cyfrifo sut i wneud y defnydd gorau posib o’r gronfa dreth os yw ymddiriedolaeth yn dod i ben yng nghanol blwyddyn

Pryd fydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo eich cronfa dreth

Os byddwch chi’n ffeilio eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau (SA900) erbyn 31 Hydref, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM gyfrifo eich treth. Pan fyddant yn gwneud hyn, byddant hefyd yn cyfrifo'r hyn sy'n weddill neu'r diffyg yn eich cronfa dreth ar gyfer y flwyddyn ganlynol, yn seiliedig ar y canlynol:

  • yr wybodaeth a ddarparwyd yng nghwestiwn 14 (rhestr o daliadau incwm a wnaed i fuddiolwyr yn ystod y flwyddyn dreth)
  • y swm o'r gronfa dreth na chafodd ei ddefnyddio ac a drosglwyddwyd o'r flwyddyn dreth flaenorol

Maent yn cynnwys yr hyn sy'n weddill neu'r diffyg yn y gronfa dreth ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf yn eich cyfrifiad treth.

Os byddwch chi’n dewis cyfrifo eich treth eich hun, dim ond os bydd Cyllid a Thollau EM yn adolygu eich ffurflen dreth i wneud yn siŵr ei bod yn gywir y byddant yn edrych ar y gronfa dreth. Felly mae'n bwysig eich bod yn deall y gronfa dreth ac yn cael y ffigurau'n gywir, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi'n talu gormod o dreth neu ddim yn talu digon yn anfwriadol.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU