Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Buddiolwyr: talu ac adhawlio treth ar ymddiriedolaethau

Fel buddiolwr ymddiriedolaeth, rhaid i chi ddatgan unrhyw incwm a gewch o’r ymddiriedolaeth, neu y mae gennych hawl i’w gael, ar eich ffurflen dreth bersonol. Os na fyddwch yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, efallai y bydd angen i chi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth. Gan ddibynnu ar gyfanswm eich incwm, mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu treth neu y gallwch hawlio treth yn ôl.

Pa fath o ymddiriedolaeth

Fel buddiolwr, mae’n bwysig deall pa fath o ymddiriedolaeth yw’r un dan sylw, gan fod y rheolau treth yn amrywio yn ôl y math o ymddiriedolaeth.

Gall Cyllid a Thollau EM roi arweiniad cyffredinol i chi, ond ni all ddweud wrthych pa fath o ymddiriedolaeth yw’r un dan sylw. Os ydych chi’n fuddiolwr ac yn ansicr ynglŷn â’r math o ymddiriedolaeth, gallwch ofyn i’r ymddiriedolwyr roi gwybod i chi.

Isod, ceir dadansoddiad o’r prif fathau o ymddiriedolaeth a’r gwahanol reolau treth ar gyfer buddiolwyr.

Ymddiriedolaethau syml (bare trusts)

Caiff incwm a chyfalaf mewn ymddiriedolaeth syml eu trin fel petaent yn perthyn i’r buddiolwyr yn hytrach nag i’r ymddiriedolwyr. Mae’r buddiolwyr yn llwyr gyfrifol am ddatgan a thalu treth arnynt. Os mai chi yw buddiolwr ymddiriedolaeth syml, mae’n bosib y bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw incwm neu enillion cyfalaf.

Gallwch wneud hyn ar ffurflen dreth Hunanasesu gan ddefnyddio ffurflen SA100, ac nid tudalennau ategol SA107 (Ymddiriedolaethau ac ati).

Ymddiriedolaethau budd mewn meddiant (interest in possession trusts)

Os mai chi yw buddiolwr incwm ymddiriedolaeth budd mewn meddiant, bydd gennych chi hawl i gael incwm yr ymddiriedolaeth ar ôl tynnu treuliau. Fodd bynnag, bydd yr ymddiriedolwyr fel arfer yn talu treth ar unrhyw incwm cyn i’r incwm hwnnw gael ei drosglwyddo i chi.

Dylai’r ymddiriedolwyr allu dangos i chi pa incwm mae’r ymddiriedolaeth wedi’i gael ar eich rhan. Un ffordd y gallant wneud hyn yw drwy roi ffurflen R185 (Incwm o Ymddiriedolaeth) wedi’i llenwi i chi sydd:

  • yn rhestru’r gwahanol ffynonellau o incwm
  • yn dangos faint o incwm a dderbyniwyd
  • yn dangos faint o dreth sydd wedi’i thalu ar yr incwm

Defnyddiwch y ffigurau oddi ar y ffurflen hon (Incwm o Ymddiriedolaeth) i lenwi tudalennau ategol SA107 (Ymddiriedolaethau ac ati), sef taflenni y byddwch yn eu cyflwyno gyda’r brif Ffurflen Dreth Hunanasesu SA100. Os nad yw’r ymddiriedolwr wedi rhoi ffurflen R185 (Incwm o Ymddiriedolaeth) wedi’i llenwi i chi, gallwch ofyn iddo am un.

Bydd incwm o ymddiriedolaeth budd mewn meddiant eisoes wedi’i drethu, felly os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd sylfaenol, ni fydd unrhyw dreth ychwanegol yn ddyledus gennych. Dim ond os bydd yr incwm a gewch gan ymddiriedolaeth budd mewn meddiant yn gwthio cyfanswm eich incwm blynyddol i fand treth cyfradd uwch y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth.

Os nad ydych chi’n talu treth, gallwch hawlio treth yn ôl drwy ddefnyddio Ffurflen Ad-dalu Treth R40.

Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd uwch, bydd rhaid i chi dalu treth ar y gwahaniaeth rhwng y dreth mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu a’r dreth mae’n rhaid i chi ei thalu gan eich bod yn talu treth ar y gyfradd uwch. Gallwch wneud hyn drwy lenwi tudalennau ategol ffurflen SA107 (Ymddiriedolaethau ac ati).

Gall ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau â budd mewn meddiant roi incwm i chi ‘drwy fandad’. Mae hyn yn golygu bod yr incwm (er enghraifft difidendau o gyfranddaliadau neu log o gyfrif banc) yn dod yn uniongyrchol atoch chi, yn hytrach na drwy’r ymddiriedolwyr. Dylid cofnodi incwm sy’n eich cyrraedd drwy fandad ar eich ffurflen dreth chi. Ni ddylai ymddiriedolwyr ei roi ar y Ffurflen Dreth ar gyfer Ymddiriedolaethau ac Ystadau.

Ymddiriedolaethau cronni neu ddewisiadol (accumulation or discretionary trusts)

Gyda’r ymddiriedolaethau hyn, gall ymddiriedolwyr un ai ‘gronni’ incwm (sef ei ychwanegu at gyfalaf yr ymddiriedolaeth) yn hytrach na’i dalu, a/neu dalu incwm yn ôl disgresiwn drwy benderfynu i ba fuddiolwr y bydd yr incwm yn cael ei dalu, a faint o incwm i’w dalu iddo.

Bydd unrhyw incwm y bydd yr ymddiriedolwyr yn ei roi i fuddiolwyr yn ôl disgresiwn yn cario ‘credyd treth’ o 50 y cant (blwyddyn dreth 2011-12). Mae hyn yn golygu y caiff ei drin fel ei fod eisoes wedi cael ei drethu ar 50 y cant.

Os ydych chi’n fuddiolwr incwm, dylai’r ymddiriedolwyr allu dangos i chi faint o incwm mae’r ymddiriedolaeth wedi’i dalu i chi drwy roi ffurflen R185 (Incwm o Ymddiriedolaeth) wedi’i llenwi i chi.

Defnyddiwch y ffigurau o’r ffurflen hon (Incwm o Ymddiriedolaeth) i lenwi’r tudalennau ategol ar gyfer ymddiriedolaethau – ffurflen SA107 (Ymddiriedolaethau ac ati) – ar eich ffurflen dreth.

Os nad yw eich ymddiriedolwr wedi rhoi ffurflen R185 (Incwm o Ymddiriedolaeth) wedi’i llenwi i chi, gallwch ofyn iddo am un.

Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd uwch, ni fydd rhagor o dreth i’w thalu. Mae hyn oherwydd bydd yr holl incwm a gewch o ymddiriedolaeth ddewisiadol/cronni yn cario credyd treth ar 50 y cant (blwyddyn dreth 2011-12).

Mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio treth yn ôl ar incwm rydych chi wedi’i gael gan yr ymddiriedolaeth os bydd unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:

  • nad ydych chi’n talu treth
  • rydych chi’n talu treth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant
  • rydych chi’n talu treth ar y gyfradd uwch o 40 y cant

Mae hyn oherwydd y bydd wedi cael ei drin fel ei fod eisoes wedi cael ei drethu ar y ‘gyfradd ymddiriedolaeth’ o 50 y cant. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen R40 Ffurflen Ad-dalu Treth. Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd sylfaenol dan Hunanasesiad, gallwch ddefnyddio tudalennau ategol ffurflen SA107 (Ymddiriedolaethau ac ati) i ddatgan eich incwm o ymddiriedolaeth a hawlio treth yn ôl. Gwneir ad-daliad ar ôl ystyried pob ffynhonnell o incwm, nid yr incwm o ymddiriedolaeth yn unig.

Ymddiriedolaethau budd i’r setlwr (settlor-interested trusts)

Bydd rheolau treth gwahanol yn berthnasol lle bydd yr unigolyn a sefydlodd yr ymddiriedolaeth – y setlwr – yn parhau i fod â budd yn yr ymddiriedolaeth. Gallwch ddarllen rhagor am ymddiriedolaethau budd i’r setlwr yn yr arweiniad isod.

Os mai ymddiriedolaeth ddewisiadol yw’r ymddiriedolaeth budd i’r setlwr – caiff taliadau a wneir i fuddiolwr nad yw’n setlwr eu trin fel eu bod wedi cael eu trethu ar 50 y cant (blwyddyn dreth 2011-12). Mae hyn yn golygu na fydd treth ychwanegol i’w thalu ar yr incwm hwn. Fodd bynnag, yn wahanol i daliadau a wneir gan fathau eraill o ymddiriedolaeth, ni ellir ad-dalu’r credyd treth i chi. Er na fydd incwm arall buddiolwr nad yw’n setlwr yn cael ei wthio i’r band treth cyfradd uwch, mae’n bosib y bydd incwm o ymddiriedolaeth â budd i’r setlwr yn effeithio ar ostyngiadau treth a budd-daliadau sy’n cael eu profi ar sail modd.

Ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf

Fel arfer, rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf pan gaiff ased sy’n cael ei ddal gan yr ymddiriedolaeth ei werthu neu ei roi i fuddiolwr.

Dyma’r ddau brif eithriad i hyn:

  • ymddiriedolaethau syml, lle bydd y buddiolwr yn talu Treth Enillion Cyfalaf
  • pan fydd ymddiriedolwyr yn gwneud cais am ‘Ryddhad Daliol’ (Hold-over Relief) er mwyn gohirio talu Treth Enillion Cyfalaf i’r unigolyn sy’n cael yr ased

Defnyddiwch y ddolen ‘Cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau’ i gael rhagor o wybodaeth am ‘Ryddhad Daliol’.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU