Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau: gwybodaeth sylfaenol

Mae’r rheolau ynghylch Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau yn debyg i’r rheolau ar gyfer unigolion. Ond ceir mân wahaniaethau. Mae’r arweiniad hwn yn darparu gwybodaeth gyffredinol ac yn dangos i chi ble gallwch gael rhagor o gymorth.

Cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf

Dyma’r camau ar gyfer cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf:

  1. cyfrifo’r elw neu'r golled ar bob eitem y byddwch yn ei gwerthu, yn ei throsglwyddo neu’n ei gwaredu mewn ffordd arall, gan dynnu unrhyw gostau a ganiateir a gostyngiadau
  2. tynnu cyfanswm y colledion a ganiateir o gyfanswm yr enillion – er mwyn cyfrifo swm y golled neu’r elw net.
  3. tynnu unrhyw golledion y mae’r ymddiriedolaeth wedi’u gwneud a ddygwyd ymlaen o flwyddyn flaenorol
  4. tynnu swm eithriedig blynyddol yr ymddiriedolwyr

Ceir rhagor o wybodaeth am y pedwar cam hwn mewn trefn isod.

Darllenwch ragor am gyfrifo Treth Enillion Cyfalaf yn y canllawiau ar gyfer ffurflen SA905 'Trust and Estate Capital Gains'.

Costau a ganiateir

Gall ymddiriedolwyr ddidynnu rhai costau pan fyddant yn cyfrifo enillion cyfalaf yr ymddiriedolaeth. Dyma'r costau mwyaf cyffredin:

  • cost gwella eiddo neu dir er mwyn codi ei werth pan gaiff ei werthu neu ei drosglwyddo - megis cost adeiladu ystafell haul
  • costau prynu a throsglwyddo neu werthu’r eitem – megis prisio eiddo cyn ei werthu neu dalu ffioedd cyfreithiwr neu frocer stoc

Mae’r mathau o gostau a ganiateir yn dibynnu ar y math o ased.

Gallwch ddarllen rhagor am gostau a ganiateir ar dudalen 11 o’r nodiadau sy’n cyd-fynd â ffurflen SA905.

Rhyddhad

Mae modd cael sawl math o ryddhad y gallai ymddiriedolwyr eu defnyddio i leihau Treth Enillion Cyfalaf yr ymddiriedolaeth.

Rhyddhad Daliol

Mae Rhyddhad Daliol yn galluogi ymddiriedolwyr i drosglwyddo asedau i fuddiolwyr – neu i ymddiriedolwyr eraill mewn rhai amgylchiadau – heb dalu Treth Enillion Cyfalaf. Fel rheol, bydd y derbynnydd yn talu’r dreth pan fydd yn gwerthu neu'n trosglwyddo'r ased.

Mae’r rheolau ar gyfer Rhyddhad Daliol yn bur gymhleth ac yn amrywio gan ddibynnu ar beth sy’n cael ei drosglwyddo. Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Taflen Gymorth 295 ‘Relief for Gifts and Similar Transactions’ yn cynnwys ffurflen ar y diwedd i chi wneud hawliad.

Rhyddhad Preswylfan Breifat

Mae’r rhyddhad hwn yn eithrio pobl rhag Treth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu neu’n trosglwyddo’u prif gartref. I ymddiriedolwyr, mae'n berthnasol i unrhyw eiddo – gan gynnwys hyd at hanner hectar o dir – sy’n eiddo i’r ymddiriedolwyr. Mae’n rhaid i’r eiddo hefyd fod yn brif breswylfan i rywun sydd â’r hawl i’w feddiannu yn unol â thelerau’r ymddiriedolaeth.

Dylai ymddiriedolwyr sy’n trosglwyddo neu’n gwaredu eiddo o’r fath lenwi ffurflen SA905, tudalennau atodol enillion cyfalaf Ymddiriedolaethau ac Ystadau, er mwyn hawlio'r rhyddhad hwn.

Rhyddhad Entrepreneuriaid

Mae Rhyddhad Entrepreneuriaid yn gadael i unigolion hawlio gostyngiad treth ar enillion cyfalaf hyd at gyfyngiad oes pan fyddant yn gwneud y canlynol:

  • gwerthu busnes naill ai’n rhannol neu i gyd
  • gwaredu asedau pan fydd busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu
  • gwerthu cyfranddaliadau yn eu cwmni personol os ydynt yn swyddog (fel rheolwr gyfarwyddwr) neu’n weithiwr

Gall ymddiriedolwyr hawlio’r rhyddhad hwn pan fydd ymddiriedolaeth yn gwerthu neu’n trosglwyddo:

  • y cyfranddaliadau yng nghwmni personol buddiolwr – ond dim ond os yw’r buddiolwr yn un o swyddogion neu weithwyr y cwmni
  • asedau a ddefnyddiwyd ym musnes y buddiolwr – ond dim ond os nad yw'r busnes yn gweithredu rhagor a bod yr ased wedi cael ei ddefnyddio am o leiaf flwyddyn o'r tair blynedd diwethaf cyn i'r busnes roi'r gorau i weithredu

Mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr a’r buddiolwr wneud hawliad ar y cyd. Mae gan bob buddiolwr terfyn o £10 miliwn. Bydd y cyfyngiad hwn yn gostwng yn ôl unrhyw Ryddhad Entrepreneuriaid y mae'r buddiolwr wedi'i hawlio wrth werthu neu drosglwyddo'i asedau ei hun. Os yw’r ymddiriedolwyr yn hawlio rhyddhad bydd yn gostwng y cyfyngiad oes sydd ar gael i’r buddiolwr ar gyfer unrhyw hawliadau yn y dyfodol pan fydd yn gwerthu neu’n trosglwyddo’i asedau ei hun.

Colledion a ganiateir

Yn ogystal â thalu treth ar enillion, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gyfrifo unrhyw golledion sy’n deillio o werthu neu drosglwyddo asedau. Mae’n rhaid iddynt osod y rhain yn erbyn yr enillion trethadwy. Os bydd y colledion mewn unrhyw flwyddyn dreth yn uwch na’r enillion yn y flwyddyn honno, cânt eu trosglwyddo i’r flwyddyn nesaf a’u tynnu o’r enillion yn y flwyddyn honno.

Mae gan ymddiriedolaethau lwfans enillion cyfalaf di-dreth blynyddol – y ‘swm eithriedig blynyddol’. Os bydd y colledion a ddygwyd ymlaen yn gostwng enillion cyfalaf y flwyddyn i'r lefel hon, bydd unrhyw beth sydd ar ôl yn cael ei drosglwyddo i’r flwyddyn nesaf. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y swm eithriedig blynyddol yn yr adran isod.

Enghraifft

Yn 2008-09 mae gan ymddiriedolaeth £12,000 o enillion cyfalaf a £15,000 o golledion a ganiateir. Mae’r ymddiriedolwyr yn tynnu’r colledion o’r enillion, gan adael dim enillion trethadwy ar gyfer y flwyddyn. Nid oes Treth Enillion Cyfalaf i’w thalu ac mae colledion nas defnyddiwyd o £3,000 i’w trosglwyddo i flwyddyn 2009-10.

Yn 2009-10, mae enillion yr ymddiriedolaeth yn £7,000 ac nid oes ganddi golledion. Dim ond £1,950 o golledion y flwyddyn flaenorol y mae’r ymddiriedolaeth yn ei ddefnyddio i leihau’r enillion er mwyn cyrraedd y swm eithriedig blynyddol – £5,050 ar gyfer 2009-10. Mae ganddynt £1,050 o golledion heb eu defnyddio ar ôl i'w drosglwyddo i 2010-11.

Cofnodi colledion a ganiateir

Rydych chi’n cofnodi colledion, gan gynnwys y rheini sydd wedi cael eu trosglwyddo o flynyddoedd blaenorol, ar ffurflen SA905 'Trust and Estate Capital Gains'.

Y swm eithriedig blynyddol

Mae’r swm eithriedig blynyddol yn gadael i unigolion ac ymddiriedolwyr wneud rhywfaint o enillion cyfalaf heb orfod talu treth.

Ar gyfer y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr, y swm eithriedig blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13 yw £5,300. Eithriad i hyn yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd i fuddiolwr anabl. Yn yr achosion hyn, mae’r eithriad blynyddol yn £10,600 - yr un fath ag i unigolion.

Os yw’r sawl a greodd yr ymddiriedolaeth – y setlwr – yn sefydlu mwy nag un ymddiriedolaeth breswyl yn y DU mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr rannu’r swm eithriedig blynyddol â nifer yr ymddiriedolaethau. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolaethau polisïau yswiriant. Os oes ganddynt fwy na phump, bydd swm eithriedig o £1,060 yn berthnasol i bob un. Dim ond ar ymddiriedolaethau a sefydlwyd ar ôl 7 Mehefin 1978 y mae hyn yn effeithio, oni bai ei bod yn ymddiriedolaeth i fuddiolwr anabl, lle mae'n berthnasol i ymddiriedolaethau a sefydlwyd ar ôl 9 Mawrth 1981.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU