Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyflwyniad i ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf

Mae’r arweiniad hwn yn rhoi cyflwyniad i Dreth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau preswyl yn y DU. Mae’n rhoi sylw i sefyllfaoedd lle mae’n rhaid talu Treth Enillion Cyfalaf a sefyllfaoedd lle nad oes rhaid, ac mae'n egluro sut mae rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM bod y dreth hon yn ddyledus.

Beth yw Treth Enillion Cyfalaf?

Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau rydych chi’n berchen arnynt yw Treth Enillion Cyfalaf. Fel arfer, dim ond pan fyddwch yn gwerthu ased, yn ei roi i ffwrdd neu’n ‘cael gwared’ ar ased mewn unrhyw ffordd arall y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf, a hynny dim ond os yw wedi cynyddu mewn gwerth ers i chi ei gael. Dim ond pan fydd cyfanswm yr enillion trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth dros lefel benodol a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’ y byddwch yn talu Treth Enillion Cyfalaf.

Cyfradd Treth Enillion Cyfalaf a’r swm eithriedig blynyddol ar gyfer ymddiriedolwyr

Cyfradd y Dreth Enillion Cyfalaf i ymddiriedolwyr ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12 yw 28 y cant.

Y swm eithriedig (di-dreth) blynyddol yn 2012-13 ar gyfer y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yw £5,300. Mae ymddiriedolaethau sydd wedi'u sefydlu ar gyfer buddiolwr anabl yn eithriad. Yn yr achosion hyn, £10,600 yw’r swm eithriedig blynyddol – yr un fath â’r swm ar gyfer unigolion.

Mae’n bosib y gall ymddiriedolwyr leihau cyfradd y dreth hon os byddant yn gymwys i hawlio Rhyddhad Entrepreneuriaid.

Sefyllfaoedd lle gallai Treth Enillion Cyfalaf fod yn ddyledus

Mae gwahanol adegau pan fydd yn rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf, a bydd yr adegau hyn yn pennu pwy fydd yn talu.

Os caiff asedau eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth

Yn y sefyllfa hon, yr unigolyn a fydd yn trosglwyddo – y setlwr neu’r trosglwyddwr – fydd yn talu. Yr eithriad yw pan fydd y trosglwyddwr yn gwneud hawliad am Ryddhad Daliol. Yn yr achos hwn, bydd yr unigolyn a fydd yn cael yr ased yn talu Treth Enillion Cyfalaf pan fydd yn gwerthu neu’n trosglwyddo’r ased.

Os dosberthir asedau’r ymddiriedolaeth (os ‘ceir gwared’ arnynt)

Yn yr achos hwn, bydd y rheini sy’n gyfrifol am reoli'r ymddiriedolaeth – yr ymddiriedolwyr – fel arfer yn talu. Ymddiriedolaethau hawl absoliwt yw’r prif eithriad, lle mae gan y buddiolwr eisoes 'hawl absoliwt' i eiddo'r ymddiriedolaeth.

Os bydd ymddiriedolwyr yn rhoi’r gorau i breswylio yn y DU neu ddim yn atebol i dalu treth y DU mwyach

Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth asedau’r ymddiriedolaeth ar y farchnad yn union cyn i’w statws preswylio newid.

Os bydd buddiolwr yn cael ‘hawl absoliwt’ i rywfaint o’r asedau mewn ymddiriedolaeth, neu’r holl asedau

Bydd gan unigolyn ‘hawl absoliwt’ i ased mewn ymddiriedolaeth os oes ganddo’r hawl neilltuol i ddweud wrth yr ymddiriedolwyr sut mae delio â'r ased. Yn yr achos hwn, mae'n bosib i rywun gael hawl absoliwt am ei fod yn cyrraedd oedran penodol neu am fod yr ymddiriedolaeth yn dod i ben. Bydd yr ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth yr ased ar y farchnad ar y diwrnod y caiff y buddiolwr yr hawl.

Sefyllfaoedd lle nad oes rhaid talu Treth Enillion Cyfalaf

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n bosib i ased gael ei drosglwyddo i rywun arall heb i Dreth Enillion Cyfalaf fod yn daladwy.

Os oes rhywun yn marw ac yn gadael ei asedau i fuddiolwr neu ymddiriedolaeth

Pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael ei asedau i rywun arall, un ai mewn ymddiriedolaeth neu fel arall, nid oes rhaid talu Treth Enillion Cyfalaf. Os 'ceir gwared’ ar yr ased yn nes ymlaen, a bod gwerth yr ased wedi cynyddu ers dyddiad y farwolaeth, mae'n bosib y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus. Mae hyn yn berthnasol i ymddiriedolwyr a buddiolwyr sy'n etifeddu'r ased dan delerau ewyllys neu reolau etifeddu sy'n berthnasol yng Nghymru a Lloegr lle nad oes ewyllys.

Os oes rhywun yn marw a bod buddiant mewn meddiant yn dod i ben

Bydd hyn yn digwydd mewn ymddiriedolaethau 'buddiant mewn meddiant' – lle mae gan fuddiolwr hawl absoliwt ac uniongyrchol i incwm yn deillio o ased sy'n cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth. Fel arfer, ni fydd Treth Enillion Cyfalaf i'w thalu pan fydd y buddiolwr yn marw a'i fuddiant mewn meddiant yn dod i ben.

Cyfrifo faint o Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus

Cyfrifir Treth Enillion Cyfalaf am bob blwyddyn dreth (sy'n mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ddilynol). Caiff ei chodi ar gyfanswm eich enillion trethadwy, ar ôl ystyried:

  • costau a gostyngiadau perthnasol a all leihau neu ohirio enillion – dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth
  • colledion a ganiateir
  • swm eithriedig (di-dreth) blynyddol yr ymddiriedolwr

Caiff y swm sy’n weddill ei drethu ar y gyfradd gyfredol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf – 28 y cant ar gyfer ymddiriedolwyr.

Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am enillion cyfalaf a wnaed gan ymddiriedolaeth

Fel ymddiriedolwr, rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am asedau y mae'r ymddiriedolaeth yn cael gwared arnynt os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol mewn blwyddyn dreth:

  • mae gwerth yr asedau y cafwyd gwared arnynt o leiaf bedair gwaith dros y swm eithriedig blynyddol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf (£42,400) ac rydych wedi cael Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau
  • rydych chi’n atebol i dalu Treth Enillion Cyfalaf

Byddwch yn gwneud hyn drwy lenwi ffurflen SA905 ‘Trust and Estate Capital Gains' (tudalennau atodol Treth Enillion Cyfalaf y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau).

Gofyn i Gyllid a Thollau EM gyfrifo gwerth eich ased

Os ydych am i Gyllid a Thollau EM wirio eich prisiad chi o ased y mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf arno, gallwch ddefnyddio ffurflen CG34 – ‘Post-transaction valuation checks for capital gains’.

Os byddant yn cytuno â’ch prisiad, ni fyddant yn herio eich defnydd ohono yn eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU