Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddiriedolaethau dibreswyl

Mae'r rheolau treth ar gyfer ymddiriedolaethau dibreswyl yn gymhleth iawn. Bydd y cyflwyniad hwn yn eich helpu i ddeall y rheolau sylfaenol ar gyfer ymddiriedolwyr, setlwyr a buddiolwyr ymddiriedolaethau dibreswyl, ac yn rhoi gwybod i chi ymhle gallwch gael gwybodaeth fanylach.

Diffiniad o dermau allweddol

Er mwyn deall ymddiriedolaethau dibreswyl byddai’n ddefnyddiol egluro rhai termau:

  • ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ymddiriedolaethau, rhywun sy’n dal a rheoli'r ymddiriedolaeth ac yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn â’r asedau (megis arian, tir neu adeiladau) yn yr ymddiriedolaeth yw ‘ymddiriedolwr’
  • y ‘setlwr’ sy’n rhoi asedau yn yr ymddiriedolaeth
  • y ‘buddiolwr’ sy’n gallu cael incwm neu gyfalaf o'r ymddiriedolaeth
  • mae ‘domisil’ fel arfer yn cyfeirio at y wlad neu'r awdurdodaeth gyfreithiol (talaith, er enghraifft) lle mae rhywun yn bwriadu byw yn barhaol – dim ond un lle all fod yn ddomisil i chi ar unrhyw adeg

Mae ‘preswylio’ yn fater cymhleth – dylech edrych ar yr arweiniad isod er mwyn cael diffiniad llawn.
I gael eglurhad manwl ynghylch beth yw ‘domisil’ a ‘phreswylfa’ unigolion, dylech ddarllen yr arweiniad technegol yn llyfryn Cyllid a Thollau EM HMRC6 – Residence, Domicile and the Remittance Basis.

Beth mae ‘ymddiriedolaethau dibreswyl’ yn ei olygu

Mae ymddiriedolaethau dibreswyl fel arfer yn rhai:

  • lle nad yw’r un o’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth
  • lle mai dim ond rhai o’r ymddiriedolwyr sy’n preswylio yn y DU ac nid oedd setlwr yr ymddiriedolaeth yn ‘preswylio’, yn ‘preswylio’n arferol’ neu’n ‘ddomisil’ yn y DU pan sefydlwyd yr ymddiriedolaeth neu pan ychwanegwyd arian

I gael rhagor o ddiffiniadau manwl ynglŷn ag ymddiriedolaethau dibreswyl, dilynwch y ddolen isod.

Gyda phwy y dylech gysylltu os ydych yn sefydlu ymddiriedolaeth ddibreswyl

Os ydych chi’n sefydlu ymddiriedolaeth ac yn credu ei bod yn ddibreswyl o bosib, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM a llenwi ffurflenni 41G (Ymddiriedolaeth) ac INT25.

Bydd ffurflen 41G (Ymddiriedolaeth) yn gofyn i chi roi enw’r ymddiriedolaeth, gwybodaeth am yr ymddiriedolwyr a manylion yr asedau yn yr ymddiriedolaeth.

Bydd ffurflen INT25 yn gofyn i chi am wybodaeth fanylach ynglŷn â’r canlynol:

  • newidiadau yn ymwneud â’r ymddiriedolaeth
  • yr asedau yn yr ymddiriedolaeth
  • perchnogaeth ar gyfranddaliadau
  • y setlwr
  • y buddiolwyr
  • y gyfraith sy’n rheoli’r ymddiriedolaeth
  • pa ffurflenni y bydd eu hangen ar yr ymddiriedolwyr

Gallwch gysylltu ag Ymddiriedolaethau Cyllid a Thollau EM er mwyn trafod materion yn ymwneud â threth dramor neu ymddiriedolaethau dibreswyl.

Ymddiriedolaethau dibreswyl a Threth Incwm

Mae'r rheolau treth ar gyfer ymddiriedolaethau dibreswyl yn gymhleth iawn.

Dim ond cyflwyniad sylfaenol y mae’r arweiniad hwn yn ei roi. Er bod rheolau cyffredinol sy’n berthnasol i bob ymddiriedolaeth ddibreswyl, mae pob ymddiriedolaeth yn wahanol ac yn cael ei thrin yn wahanol yn dibynnu ar:

  • a yw’n ymddiriedolaeth disgresiwn neu’n ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant
  • statws preswylio’r setlwyr neu’r buddiolwyr

Gallwch ddod o hyd i arweiniad ynghylch preswylio drwy ddilyn y ddolen isod, neu gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Ymddiriedolaethau i gael rhagor o gymorth.

Fodd bynnag, byddai'n well i chi gael cyngor proffesiynol ynghylch ymddiriedolaethau dibreswyl – gweler yr adran isod ‘Cael cymorth proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth’.

Arweiniad ar gyfer ymddiriedolwyr

Nid yw ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau dibreswyl yn talu treth y DU ar incwm y byddant yn ei gael o dramor. Ar gyfer y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau disgresiwn ac ymddiriedolaethau cronni, bydd ymddiriedolwyr yn talu treth ar:

  • y gyfradd safonol ar y £1,000 cyntaf o incwm trethadwy (dilynwch y ddolen isod at yr arweiniad ynghylch ymddiriedolaethau disgresiwn/cronni i gael gwybod rhagor am y band treth cyfradd safonol)
  • 42.5 y cant ar incwm difidend sy’n deillio o stociau a chyfranddaliadau
  • 50 y cant ar log o’r DU (gan gynnwys gwarantau ‘di-dreth i breswylwyr dramor’) os yw buddiolwr - neu rywun a allai fod yn fuddiolwr - yn preswylio yn y DU
  • 50 y cant ar yr holl incwm arall nad yw’n incwm difidend a gaiff ei ennill yn y DU

Ar gyfer ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant, rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu treth ar:

  • y gyfradd ddifidend gyffredinol (10 y cant) ar incwm difidend yr ymddiriedolaeth
  • y gyfradd sylfaenol (20 y cant) ar bob math arall o incwm

Dylai ymddiriedolwyr dibreswyl ddefnyddio ffurflen SA900 - Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau - i ddatgan unrhyw incwm sy’n deillio o’r DU sy’n ddyledus gan ymddiriedolaeth ddibreswyl. Lle bo hynny’n briodol, mae’n bosib y bydd hefyd angen iddynt lenwi ffurflen SA906 – tudalennau atodol ar gyfer ymddiriedolaethau ac ystadau dibreswyl.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfraddau treth ar gyfer y mathau hyn o ymddiriedolaethau drwy ddilyn y dolenni isod.

Arweiniad ar gyfer setlwyr

Os mai chi yw'r setlwr ac y gallwch chi - neu’ch partner priod neu bartner sifil - gael budd o incwm neu gyfalaf ymddiriedolaeth ddibreswyl, bydd rhaid i chi dalu treth ar incwm yr ymddiriedolaeth fel petai'n incwm i chi.

Ni chaiff incwm yr ymddiriedolaeth ei drin fel petai’n incwm i chi os na allwch chi (neu’ch partner priod neu bartner sifil) gael budd ohono. Fodd bynnag, os yw eich plant yn fuddiolwyr a’r ymddiriedolaeth yn gwneud unrhyw daliadau i’ch plant chi sy’n ddi-briod a dan 18 oed, bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm hefyd fel petai’r taliad i’r plentyn yn incwm i chi. Cewch ragor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod at Ymddiriedolaethau rhieni i blant.

Gallwch hawlio gostyngiad ar gyfer treth ar incwm a dalwyd i’ch plant di-briod dan 18 oed os yw’r ymddiriedolwyr yn ddibreswyl. Rhoddir y gostyngiad hwn dan Gonsesiwn Statudol Ychwanegol, ESC A93 – cewch wybod rhagor drwy ddilyn y ddolen isod.

Arweiniad ar gyfer buddiolwyr

Os ydych chi’n fuddiolwr ymddiriedolaeth ddibreswyl ac yn preswylio yn y DU, mae’n bosib y bydd rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesu a thudalennau atodol SA107. Mae’r canllawiau ar gyfer y tudalennau hyn yn rhoi manylion ynglŷn â sut dylech eu llenwi.

Os ydych chi’n preswylio yn y DU ac yn cael incwm o ymddiriedolaeth disgresiwn ddibreswyl, gallwch gael rhywfaint o ostyngiad treth os yw’r ymddiriedolwyr eisoes wedi talu treth ar yr incwm. Rhoddir y gostyngiad hwn gan Gonsesiwn Statudol Ychwanegol, ESC B18 – gweler isod am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi’n fuddiolwr dibreswyl ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant ddibreswyl, dim ond incwm yn deillio o’r DU y bydd angen i chi ei gynnwys ar eich ffurflen dreth.

Ymddiriedolaethau dibreswyl a Threth Enillion Cyfalaf

Treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis cyfranddaliadau, tir neu adeiladau yw Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaeth dalu Treth Enillion Cyfalaf os caiff asedau eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd neu eu cyfnewid (os ceir gwared arnynt) a’u bod wedi cynyddu mewn gwerth ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth. Dim ond os bydd gwerth yr asedau wedi cynyddu dros lwfans penodol a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’ y bydd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r dreth.

Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus.

Os bydd ymddiriedolwyr dibreswyl yn cymryd lle ymddiriedolwyr sy’n preswylio yn y DU, bydd rhaid iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf ar enillion a wnaed ar yr asedau gan ymddiriedolwyr y DU hyd at y pwynt lle mae’r ymddiriedolwyr yn newid. Y rheswm am hyn yw bod yr ymddiriedolaeth yn cael ei thrin fel ei bod yn gwerthu ac yn ail-brynu’r asedau am eu pris ar y farchnad pan fydd y newid yn digwydd.

Fel arall, ni fydd ymddiriedolwyr dibreswyl yn talu Treth Enillion Cyfalaf y DU. Yn hytrach, efallai bydd rhaid i’r setlwr neu’r buddiolwyr dalu treth ar enillion a wnaed gan yr ymddiriedolwyr dibreswyl.

Ymddiriedolaethau dibreswyl a Threth Etifeddu

Mae’n bosib y bydd rhaid i ymddiriedolaethau, gan gynnwys ymddiriedolaethau dibreswyl, dalu Treth Etifeddu ar asedau yn yr ymddiriedolaeth. Dim ond ar asedau wedi'u lleoli y tu allan i'r DU y bydd rhaid i ymddiriedolaethau dibreswyl ei thalu, a hynny os oedd y setlwr yn ddomisil (neu'n cael ei ystyried yn ddomisil) yn y DU pan roddwyd yr asedau yn yr ymddiriedolaeth.

Gan ddibynnu ar werth yr asedau yn yr ymddiriedolaeth, mae’n bosib y bydd Treth Etifeddu yn ddyledus:

  • pan roddir asedau yn yr ymddiriedolaeth
  • pan fydd deg mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r ymddiriedolaeth a phob deg mlynedd ar ôl hynny
  • pan fydd asedau yn cael eu cymryd o’r ymddiriedolaeth neu os bydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben

Nid yw’n gwneud gwahaniaeth a yw’r ymddiriedolwyr neu’r buddiolwyr yn preswylio yn y DU ai peidio.

Cael help proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth

Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau, felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth.

Ond cofiwch mai’r ymddiriedolwr sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni at rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion ar ffurflen IHT100.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU