Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddiriedolaethau treftadaeth, ymddiriedolaethau elusennol neu ymddiriedolaethau sy'n gysylltiedig â busnes

Ar wahân i ymddiriedolaethau teulu’r DU, ceir mathau eraill o ymddiriedolaethau y mae’n bosib y byddwch am gael gwybod amdanynt. Dyma restr o rai o’r ymddiriedolaethau mwyaf cyffredin, gyda dolenni’n arwain at ragor o wybodaeth am y goblygiadau treth.

Ymddiriedolaethau cwmnïau rheoli fflatiau neu gronfeydd ad-dalu

Mae nifer o denantiaid a pherchnogion fflatiau yn gwneud taliadau i gronfeydd er mwyn talu am gynnal a chadw'r eiddo – ac weithiau er mwyn cronni arian ar gyfer gwaith atgyweirio yn y dyfodol. Gelwir y cronfeydd hyn yn gronfeydd tâl gwasanaeth, ymddiriedolaethau cwmnïau rheoli fflatiau neu gronfeydd ad-dalu.

Bydd yr unigolyn sy'n cael yr arian yn ymgymryd â rôl yr ymddiriedolwr – gan gadw’r arian ac unrhyw incwm a fydd yn deillio ohono. Bydd rhaid i’r ymddiriedolwr dalu treth ar unrhyw incwm buddsoddi y bydd yn ei gael o’r arian hwn.

Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am faterion treth sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau ar gyfer cwmnïau rheoli fflatiau.

Ymddiriedolaethau buddiant i weithwyr

Gall cyflogwyr sefydlu cynlluniau er budd eu gweithwyr. Yn aml, caiff y cynlluniau hyn eu hariannu drwy ymddiriedolaeth. Ceir sawl gwahanol fath. Dyma’r prif fathau:

  • ymddiriedolaethau buddiant i weithwyr cyffredin – defnyddir cyfraniadau i ddarparu buddiannau cyffredin neu fonws, tâl salwch neu gostau meddygol, addysg neu hyfforddiant
  • cynlluniau buddiannau ymddeol a ariennir gan y cyflogwr (EFRBs) – lle mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniadau a'r ymddiriedolwyr yn talu buddiannau o’r ymddiriedolaeth pan fydd aelod yn ymddeol neu'n marw
  • ymddiriedolaethau cynlluniau rhannu i weithwyr – lle mae cwmnïau yn sefydlu cynllun rhannu drwy ymddiriedolaeth er mwyn prynu cyfranddaliadau er budd i’r gweithwyr

Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am faterion treth sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau buddiant i weithwyr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am faterion treth sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau buddiant i weithwyr yn arweiniad technegol Cyllid a Thollau EM – ‘Trusts, Settlements and Estates Manual’.

Cronfeydd cynnal treftadaeth

Mae’r rhain yn ymddiriedolaethau sydd wedi’u sefydlu er mwyn helpu i gynnal tir ac adeiladau hanesyddol a’u cynnwys. Os ydych chi’n ymddiriedolwr ar gronfa cynnal treftadaeth, a’ch bod am gael rhagor o wybodaeth am Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar y mathau hyn o ymddiriedolaethau, cysylltwch â’r Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau yn y cyfeiriad canlynol:

HMRC Trusts
1st Floor
Ferrers House
Castle Meadow Road
Nottingham
NG2 1BB

Ymddiriedolaethau elusennol

Math o ymddiriedolaeth a gaiff ei sefydlu ar gyfer achos neu bwrpas a fydd o fudd i grŵp mawr o bobl neu i gymdeithas yn gyffredinol, ac nid unigolion penodol, yw ymddiriedolaeth elusennol. Ystyrir bod ymddiriedolaeth o’r fath er budd i’r cyhoedd, ac felly mae’n gymwys i gael gostyngiadau treth na chaiff ymddiriedolaethau preifat mohonynt.

Ymddiriedolaethau buddsoddi ac ymddiriedolaethau unedol

Mae ymddiriedolaethau buddsoddi yn gwmnïau sy’n buddsoddi yng nghyfranddaliadau cwmnïau eraill. Bydd buddsoddwyr yn cyfuno eu harian er mwyn prynu nifer penodol o gyfranddaliadau y bydd yr ymddiriedolaeth yn eu cyflwyno pan gaiff ei lansio. Yna, caiff y cyfranddaliadau yn yr ymddiriedolaeth eu buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau gan reolwr cronfa proffesiynol. Ni chaiff ymddiriedolaeth buddsoddi ei hystyried yn ymddiriedolaeth.

Math arall o ‘fuddsoddi ar y cyd’ yw ymddiriedolaethau unedol. Bydd rheolwr cronfa yn prynu cyfranddaliadau mewn nifer o wahanol gwmnïau ac yn eu cyfuno mewn cronfa. Yna, byddwch chi yn prynu ‘unedau’ yn y gronfa. Caiff ymddiriedolaeth unedol ei hystyried yn ymddiriedolaeth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth a chanllawiau perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU