Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pa ymddiriedolaethau sy’n talu Treth Etifeddu?

Bydd ymddiriedolaethau sy’n cynnwys ‘eiddo perthnasol’ yn talu Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau o’r ymddiriedolaeth a bob tro y bydd deg mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r ymddiriedolaeth. Mae’r canllaw hwn yn egluro’r rheolau Treth Etifeddu ar gyfer ymddiriedolaethau a chanddynt eiddo perthnasol, ac ar gyfer ymddiriedolaethau heb eiddo o'r fath.

Beth yw ‘eiddo perthnasol’?

Mae asedau megis arian, cyfranddaliadau, tai neu dir yn cael eu galw’n ‘eiddo perthnasol’.

Mae’r rhan fwyaf o eiddo sy’n cael ei roi mewn ymddiriedolaethau yn cyfrif fel eiddo perthnasol. Mae’n bosib y bydd angen talu Treth Etifeddu ar yr asedau mewn ymddiriedolaeth:

  • pan gânt eu trosglwyddo o ymddiriedolaeth (ffioedd gadael)
  • bob deg mlynedd

Yr unig eithriadau i’r rheol hon yw pan fydd yr ased:

  • mewn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant a chafodd ei rhoi yno cyn 22 Mawrth 2006
  • yn ddarostyngedig i ‘fuddiant cyfresol trosiannol’ a sefydlwyd rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Hydref 2008
  • yn cael ei roi mewn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant yn unol â thelerau’r ewyllys neu’r rheolau perthnasol os nad oes ewyllys wedi’i gwneud
  • yn cael ei neilltuo i unigolyn anabl
  • yn cael ei neilltuo i blentyn iau na 18 y mae o leiaf un o'i rieni wedi marw
  • yn cael ei roi mewn ymddiriedolaeth ar gyfer oedolyn ifanc 18-25 oed

Asedau a roddwyd mewn ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant cyn 22 Mawrth 2006

At ddibenion Treth Etifeddu, mae ymddiriedolaeth 'buddiant mewn meddiant' yn golygu bod gan fuddiolwr hawl i ddefnyddio'r asedau yn yr ymddiriedolaeth neu i gael unrhyw incwm ohoni. Nid yw asedau a roddwyd mewn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant cyn 22 Mawrth 2006 yn cyfrif fel eiddo perthnasol, felly nid oes angen talu Treth Etifeddu bob deg mlynedd.

Yn ystod oes yr ymddiriedolaeth, nid oes angen talu Treth Etifeddu ar yr amod bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau’n ‘fuddiant’ i’r buddiolwr.

Os yw’r ymddiriedolaeth hefyd yn cynnwys asedau a gyflwynwyd ar 22 Mawrth 2006 neu ar ôl hynny, mae’r asedau hynny’n eiddo perthnasol ac mae’n bosib y bydd angen talu Treth Etifeddu bob deg mlynedd.

Ymddiriedolaethau buddiant cyfresol trosiannol a Threth Etifeddu

Rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Hydref 2008, gallai buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo’u buddiant mewn meddiant i fuddiolwyr eraill – eu plant, er enghraifft – a chynnal y sefyllfa o ran Treth Etifeddu. Yr enw a roddwyd ar hyn oedd gwneud 'buddiant cyfresol trosiannol'. Nid oedd angen talu Treth Etifeddu ar yr asedau a oedd wedi cael eu symud i ymddiriedolaeth buddiant cyfresol trosiannol.

Gall y buddiolwyr newydd hefyd barhau i elwa o’r hen reolau Treth Etifeddu ar gyfer ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant. Mewn geiriau eraill, nid yw’r asedau’n cyfrif fel eiddo perthnasol. Mae hyn yn golygu nad oes taliadau bob deg mlynedd.

Ar yr amod bod yr asedau’n aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau'n 'fuddiant' i'r buddiolwr, ni fydd angen talu ffioedd gadael.

O 5 Hydref 2008 ymlaen, ni fydd buddiolwyr presennol ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant yn gallu trosglwyddo’u buddiant fel buddiant cyfresol trosiannol. Os bydd buddiant yn cael ei drosglwyddo ar ôl y dyddiad hwn, bydd asedau’r ymddiriedolaeth yn dod yn ‘eiddo perthnasol’ a bydd angen talu Treth Etifeddu o bosib bob deg mlynedd.

Buddiant yn syth ar ôl marwolaeth a Threth Etifeddu

Os yw buddiant mewn meddiant yn cael ei drosglwyddo i rywun gan fuddiolwr sydd wedi marw – naill ai drwy ewyllys y buddiolwr neu o ganlyniad i'r rheolau sy'n weithredol pan nad oes ewyllys – nid yw'r asedau'n cyfrif fel 'eiddo perthnasol'.

Bydd y buddiolwr yn parhau i gael ei drin yn unol â’r hen reolau ar gyfer ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant. Mae hyn yn golygu nad oes angen talu Treth Etifeddu bob deg mlynedd.

Ni fydd angen talu Treth Etifeddu os yw’r ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau’n ‘fuddiant’ i’r buddiolwr.

Ymddiriedolaethau ar gyfer plant sydd wedi colli rhiant a Threth Etifeddu

Pan fydd ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu ar gyfer plentyn dan 18 oed sydd wedi colli o leiaf un rhiant neu lys riant, ni fydd yr asedau yn yr ymddiriedolaeth yn cael eu hystyried yn eiddo perthnasol. Ni fydd angen gwneud taliadau bob deg mlynedd ac ni fydd ffioedd gadael yn berthnasol – ar yr amod:

  • bod yr asedau yn yr ymddiriedolaeth yn cael eu neilltuo er budd y plentyn sydd wedi colli rhiant
  • bod gan y buddiolwr yr hawl i gael yr asedau yn yr ymddiriedolaeth pan fydd yn 18 oed fan hwyraf

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed a Threth Etifeddu

Roedd Deddf Cyllid 2006 yn cyflwyno categori newydd, sef ‘ymddiriedolaethau ar gyfer person 18 - 25 oed’. Gellir sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer person ifanc sydd wedi colli o leiaf un rhiant fel ymddiriedolaeth i berson 18 - 25 oed.

Fel sy’n wir am ymddiriedolaethau i blant sydd wedi colli rhiant, nid yw'r taliadau bob deg mlynedd na'r ffioedd gadael Treth Etifeddu yn berthnasol ar gyfer ymddiriedolaeth i berson 18 - 25 oed. Fodd bynnag, dyma’r prif wahaniaethau:

  • mae’n rhaid i’r buddiolwr fod â’r hawl i’r asedau yn yr ymddiriedolaeth erbyn iddo fod yn 25 oed
  • yn ystod y cyfnod pan fo’r buddiolwr rhwng 18 a 25 oed, bydd ffioedd gadael y Dreth Etifeddu yn berthnasol – ni all y taliad deg mlynedd fod yn berthnasol gan na all yr ymddiriedolaeth fodoli am fwy na saith mlynedd

Ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr anabl a Threth Etifeddu

Nid yw ymddiriedolaeth sy’n cael ei sefydlu ar gyfer rhywun gydag anabledd meddyliol neu gorfforol yn ymddiriedolaeth eiddo perthnasol. Mae hyn yn golygu na fydd y taliad bob deg mlynedd yn berthnasol.

Ni fydd ffioedd gadael yn berthnasol os bydd yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau’n ‘fuddiant’ i’r buddiolwr.

Does dim rhaid i chi dalu Treth Etifeddu wrth drosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth ar gyfer unigolyn anabl ar yr amod bod yr unigolyn sy’n trosglwyddo yn byw am saith mlynedd ar ôl y trosglwyddiad. Gelwir trosglwyddiadau o’r fath yn ‘drosglwyddiad y gellid ei eithrio’.

Ymddiriedolaethau hawl absoliwt a Threth Etifeddu

Gydag ymddiriedolaeth hawl absoliwt (bare trust), mae gan y buddiolwr hawl absoliwt i incwm a chyfalaf yr ymddiriedolaeth, a hynny ar unwaith. Weithiau, gelwir ymddiriedolaethau hawl absoliwt yn ‘ymddiriedolaethau syml’. Gall rhywun sy'n sefydlu ymddiriedolaeth hawl absoliwt fod yn bendant y bydd yr asedau y mae’n eu neilltuo yn mynd yn syth i'r buddiolwyr. Pan fydd yr ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu, ni ellir newid y buddiolwyr.

Caiff cynnwys yr ymddiriedolaeth ei drin fel pe bai’n eiddo i’r buddiolwr, felly nid yw’n ‘eiddo perthnasol’, ac nid oes ffioedd gadael na thaliadau bob deg mlynedd.

Mae’n bosib y bydd trosglwyddiadau i ymddiriedolaeth hawl absoliwt wedi’u heithrio o'r Dreth Etifeddu, ar yr amod bod yr unigolyn sy'n trosglwyddo yn byw am saith mlynedd ar ôl y trosglwyddiad.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU