Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth Etifeddu ar asedau sy'n cael eu trosglwyddo o ymddiriedolaeth

Pan fydd asedau – megis arian, tir neu adeiladau – yn gadael ymddiriedolaeth, mae’n bosib y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu. Mae’r canllaw hwn yn egluro pryd y mae angen i chi dalu ffi gadael, a sut mae cyfrifo’r ffi eich hun.

Ffi gadael y Dreth Etifeddu

Bydd yn rhaid talu hyd at chwech y cant o Dreth Etifeddu ar asedau – megis arian, tir neu adeiladau – a gaiff eu trosglwyddo o ymddiriedolaeth. Gelwir hyn yn ‘ffi gadael’, ac fe'i codir bob tro y bydd ‘eiddo perthnasol’ yn cael ei drosglwyddo. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am eiddo perthnasol.

Beth mae trosglwyddiad o ymddiriedolaeth yn ei olygu?

Gall trosglwyddiad o ymddiriedolaeth ddigwydd:

  • pan fydd yr ymddiriedolaeth yn dod i ben
  • pan gaiff rhai o’r asedau yn yr ymddiriedolaeth eu dosbarthu i’r buddiolwyr
  • pan fydd gan fuddiolwr ‘hawl absoliwt’ i gael budd o ased
  • pan fydd ased yn dod yn rhan o ‘ymddiriedolaeth arbennig’ (er enghraifft, ymddiriedolaeth elusennol neu ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl) ac na fydd yn ‘eiddo perthnasol’ mwyach
  • pan fydd yr ymddiriedolwyr yn ymwneud â thrafodyn anfasnachol sy’n lleihau gwerth y gronfa ymddiriedolaeth

Gallwch gael gwybod rhagor am sut mae Treth Etifeddu yn berthnasol i ymddiriedolaethau eiddo perthnasol drwy ddilyn y ddolen isod.

Pan na chodir ffi gadael y Dreth Etifeddu

Dan rai amgylchiadau, ni chodir ffi gadael y Dreth Etifeddu – bydd yr amgylchiadau hyn yn berthnasol hyd yn oed pan fo’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘eiddo perthnasol’. Er enghraifft, ni chodir ffi gadael:

  • pan fydd ymddiriedolwyr yn talu am gostau neu dreuliau a ddeilliodd o asedau sy’n eiddo perthnasol
  • ar rai taliadau cyfalaf i'r buddiolwr pan fydd Treth Etifeddu'n ddyledus
  • pan fydd yr ased yn cael ei drosglwyddo o’r ymddiriedolaeth o fewn tri mis i sefydlu ymddiriedolaeth, neu o fewn tri mis ar ôl taliad deg mlynedd
  • pan fydd asedau yn ‘eiddo eithriedig’ – mae gan asedau tramor y statws hwn os yw’r setlwr yn byw dramor yn barhaol

Cyfrifo ffi gadael y Dreth Etifeddu

Mae’r cyfrifiadau ar gyfer ffi gadael y Dreth Etifeddu yn gymhleth. Cyn cychwyn, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • gwerth yr holl asedau a drosglwyddwyd i’r ymddiriedolaeth dan sylw – cyn unrhyw ryddhad treth – wedi’u prisio ar y dyddiadiau y cawsant eu trosglwyddo (gallwch gael gwybod rhagor am ryddhad treth drwy ddilyn y ddolen isod)
  • gwerth yr holl drosglwyddiadau eraill i ymddiriedolaethau eraill a wnaed gan y setlwr ar y diwrnod y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth dan sylw, wedi'u prisio ar y dyddiad y cawsant eu hychwanegu
  • gwerth yr holl drosglwyddiadau eraill y mae’n rhaid talu Treth Etifeddu arnynt a wnaed gan y setlwr yn ystod y saith mlynedd cyn i’r ymddiriedolaeth dan sylw gael ei sefydlu, wedi'u prisio ar ddyddiad y trosglwyddiad

Ar ôl cael yr wybodaeth hon, bydd cyfrifiad gwahanol a fydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • a yw’r trosglwyddiad o’r ymddiriedolaeth yn digwydd yn ystod deg mlynedd cyntaf oes yr ymddiriedolaeth
  • a yw’r trosglwyddiad o’r ymddiriedolaeth yn digwydd ar ôl y deg mlynedd cyntaf
  • a yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ar gyfer person 18–25 oed

Gallwch ddarllen rhagor am sut mae Treth Etifeddu yn berthnasol i ymddiriedolaethau ar gyfer pobl 18-25 oed drwy ddilyn y ddolen isod.

Cyfrifo'r ffi gadael eich hun

Mae angen i chi lenwi ffurflen IHT100 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’ er mwyn dweud wrth Gyllid a Thollau EM pryd mae Treth Etifeddu yn ddyledus ar ymddiriedolaeth. Os hoffech wneud y cyfrifiadau eich hun, bydd angen i chi roi eich ffigurau yn Adran G ac Adran H y ffurflen. Bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen ddigwyddiadau 100c ar gyfer pob trosglwyddiad o’r ymddiriedolaeth.

Gallwch lwytho taflen waith a chanllawiau i’ch helpu i gyfrifo faint o Dreth Etifeddu y bydd angen i chi ei thalu ar y canlynol:

  • trosglwyddiadau i ymddiriedolaeth
  • trosglwyddiadau o ymddiriedolaeth
  • bob deg mlynedd ar ôl sefydlu ymddiriedolaeth

I gyfrifo’r ffi gadael, bydd angen i chi ddefnyddio adran B ffurflen IHT100WS – taflen waith Treth Etifeddu. Gall adran B canllaw IHT113 'How to fill in form IHT100WS' rhoi rhagor o help i chi wrth lenwi'r adran hon ar y daflen waith.

Cael Cyllid a Thollau EM i wneud y cyfrifiad ar eich rhan

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gyfrifo’r ffi gadael ar eich rhan, llenwch ffurflen IHT100 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’, gan adael adrannau G a H yn wag. Bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen ddigwyddiadau 100c ar gyfer pob trosglwyddiad o’r ymddiriedolaeth. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen i Gyllid a Thollau EM yn brydlon er mwyn iddynt allu gwneud y cyfrifiad – fel arall, efallai y codir dirwy arnoch.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU