Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhyddhad Treth Busnes, Coetiroedd, Treftadaeth ac Amaethyddol

Os ydych chi’n meddwl efallai y bydd eich ystad werth mwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13) pan fyddwch chi’n marw, mae ambell ffordd y gallwch leihau eich bil Treth Etifeddu.

Rhyddhad Treth Busnes

Mae Rhyddhad Treth Busnes yn eich galluogi i drosglwyddo rhai o’r asedau busnes yn eich ystad heb dalu Treth Etifeddu. Gallwch drosglwyddo’r asedau hyn a chithau'n dal yn fyw neu fel rhan o'ch ewyllys.

Gallwch hawlio gostyngiad ar gyfer eiddo ac adeiladau, neu ar gyfer asedau fel peiriannau neu gyfranddaliadau heb eu cofrestru. Gan ddibynnu ar y math o ased, byddant yn gymwys i gael gostyngiad o naill ai 50 neu 100 y cant.

Rhyddhad Treth Amaethyddol

Os ydych chi’n berchen ar eiddo amaethyddol a’i fod yn rhan o fferm weithredol, gallwch drosglwyddo rhywfaint o’ch eiddo yn eich ewyllys neu cyn i chi farw heb dalu Treth Etifeddu.

Gallwch hawlio gostyngiad ar gyfer eiddo fferm, megis tir fferm. Gallwch hefyd hawlio gostyngiad ar gyfer adeiladau fferm os yw maint yr adeiladau yn gymesur â maint y gwaith ffermio.

Nid oes gostyngiad ar gyfer offer fferm, ond efallai y byddant yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Busnes fel ased busnes.

Gan ddibynnu ar y math o eiddo, fel arfer bydd yn gymwys i gael gostyngiad o 100 y cant. Fodd bynnag, dim ond 50 y cant o ostyngiad y gellir ei hawlio fel arfer ar gyfer eiddo y dechreuwyd ei rentu cyn 1 Medi 1995.

Rhyddhad Treth Coetiroedd

Ar ôl i chi farw, gall buddiolwyr eich coetir ofyn am i werth y pren – ond nid y tir – gael ei hepgor o'ch ystad. Fodd bynnag, pan gaiff y pren ei werthu, efallai y bydd yn rhaid i’r buddiolwyr dalu Treth Etifeddu ar y gwerthiant oni bai fod modd cael gostyngiad ar y gwerthiant hefyd.

Os yw’r coetir yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Treth Amaethyddol, mae'n bosib na fydd modd i chi gael Rhyddhad Treth Coetiroedd, a dylech hawlio Rhyddhad Treth Amaethyddol yn hytrach na Rhyddhad Treth Coetiroedd.

Efallai y gallwch gael Rhyddhad Treth Busnes ar goetir sy’n gymwys fel ased busnes.

Rhyddhad ar gyfer asedau Treftadaeth Genedlaethol

Efallai y bydd rhai asedau yn gymwys ar gyfer gostyngiad ar Dreth Etifeddu dan rai amodau llym ac eithriadol iawn. Mae enghreifftiau o asedau a allai fod yn gymwys yn cynnwys:

  • adeiladau o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol pwysig
  • gwrthrychau sydd o ddiddordeb gwyddonol, hanesyddol neu gelfydd cenedlaethol

Mae’r amodau hyn yn cynnwys cytundeb i gynnal a diogelu’r asedau. Hefyd, rhaid iddynt fod ar gael i’r cyhoedd eu gweld.

Mae gwybodaeth ynghylch asedau sydd wedi’u heithrio rhag treth ar gael i’r cyhoedd eu gweld, yn cael ei chadw ar gronfa ddata (dilynwch y ddolen isod i weld asedau treftadaeth sydd wedi’u heithrio rhag treth).

Am ragor o wybodaeth am y gostyngiad gallwch gysylltu â Thîm Treftadaeth Chyllid a Thollau EM ar y rhif ffôn 0115 974 2514.

Os hoffech ysgrifennu atynt, y cyfeiriad yw:
Cyllid a Thollau EM/HM Revenue & Customs
Ferrers House, PO BOX 38
Castle Meadow Road
Nottingham
NG2 1BB

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU