Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lleihau eich bil Treth Etifeddiant drwy roi arian i elusen

Os yw eich ystad werth dros £325,000 pan fyddwch yn marw, gall Treth Etifeddiant fod yn ddyledus. O 6 Ebrill 2012, os byddwch yn gadael 10 y cant o'ch ystad i elusen, gall y dreth sy'n ddyledus fod ar y gyfradd is o 36 y cant yn hytrach na 40 y cant. Mae'r erthygl hon yn esbonio'r prif reolau.

Deall sut mae'r gyfradd ostyngol yn gweithio

Caiff unrhyw roddion a wnewch i elusen 'gymwysedig' - yn ystod eich bywyd neu yn eich ewyllys - eu heithrio o Dreth Etifeddiant.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol, mae'n rhaid i chi adael o leiaf 10 y cant o werth net eich ystad i elusen gymwysedig.

Gwerth net eich ystad yw swm yr holl asedau ar ôl didynnu unrhyw ôl-ddyledion, atebolrwydd, gostyngiad, eithriadau a'r band cyfradd sero.

Mae elusen gymwysedig yn sefydliad a gydnabyddir fel elusen at ddibenion treth gan Gyllid a Thollau EM (CThEM). Ar gyfer dibenion Treth Etifeddiaeth, mae Clwb Chwaraeon Amaturaidd Cymunedol hefyd yn cael ei drin fel elusen gymwysedig. Gallwch wirio hyn drwy ofyn i'r elusen gadarnhau bod ganddi rif cyfeirnod elusen CThEM. Mynnwch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.

Mae sawl ffordd y gallwch fod yn berchen ar asesu fel arian, tir neu adeiladau. Mae'r ffordd rydych yn berchen ar yr asedau a chyda phwy yn effeithio ar y ffordd y cânt eu trin wrth benderfynu a yw'r gyfradd dreth ostyngol yn berthnasol.

Er mwyn gweld faint y mae angen i chi ei adael i elusen er mwyn bod yn gymwys neu a all eich ystad dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol am fod rhodd elusennol wedi'i gadael mewn ewyllys, mae'n rhaid i chi weithio allan werth bob rhan wahanol o ystad. Gelwir y rhain yn 'gydrannau'. Mae'n bosibl y gall rhan o'ch ystad dalu Treth Etifeddiant ar 36 y cant ac un arall dalu treth ar y gyfradd lawn o 40 y cant.

Er mwyn gweithio allan a yw'r gyfradd ostyngol yn berthnasol, caiff eich ystad a'ch asedau eu torri lawr yn dair cydran fel a ganlyn:

  • asedau rydych yn berchen arnynt gyda rhywun arall sy'n trosglwyddo drwy 'oroesedd'.
  • asedau dan ymddiried
  • asedau rydych yn berchen arnynt yn gyfan gwbl neu fel tenantiaid yn gyffredin â rhywun arall

Mynnwch wybod mwy am gydrannau yn yr adran 'Asedau sy'n gymwys a ddim yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol' isod.

Uno cydrannau

Mae'n bosibl hefyd uno un neu fwy o'r cydrannau er mwyn cael y budd mwyaf o'r gyfradd ostyngol. Dilynwch y ddolen gyntaf isod i weld enghreifftiau. Mae Enghraifft 3 yn y canllaw hwn yn dangos sut mae hyn yn gweithio.

Gall asedau a elwir yn 'rhoddion ag amodau' hefyd fod yn gymwys i dalu treth ar y gyfradd ostyngol, ond dim ond os cânt eu huno ag un neu fwy o dair cydran yr ystad.

Newid ewyllys ar ôl marwolaeth

Os nad ydych wedi gadael asedau i elusen gymwysedig neu os na fydd y rhodd yn eich ewyllys yn bodloni'r prawf 10 y cant pan fyddwch farw, gall buddiolwyr eich ystad drefnu 'Offeryn Amrywio' i wneud neu gynyddu rhodd i elusen. Gall gwneud hynny olygu bod eich ystad wedyn yn gymwys i dalu Treth etifeddiant ar 36 y cant.

Mynnwch wybod mwy am newid ewyllys drwy ddilyn y ddolen isod.

Asedau sy'n gymwys a ddim yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol

Asedau ar y cyd sy'n trosglwyddo drwy oroesedd

Bydd unrhyw asedau rydych yn berchen arnynt ar y cyd ac yn gyfartal ag un neu fwy o bobl, lle y trosglwyddir eich cyfran yn awtomatig drwy 'oroesedd' i'r perchenogion eraill ar y cyd pan fyddwch farw, yn perthyn i'r gydran 'goroesedd'. Gall rheolau goroesedd fod yn wahanol mewn gwledydd eraill.

Os oes gennych gyfrif banc ar y cyd â rhywun arall ond chi sydd wedi rhoi'r holl arian ynddo, caiff y swm llawn - yn hytrach na hanner y swm - ei gynnwys wrth brisio eich ystad. Fodd bynnag, caiff ei gynnwys o hyd fel rhan o'r gydran goroesedd am fod yr arian yn trosglwyddo'n awtomatig i'r perchennog arall/perchenogion eraill.

Bydd asedau a drosglwyddir drwy oroesedd ond yn gymwys i dalu treth ar 36 y cant os cânt eu huno â chydran arall neu os cânt eu cynnwys mewn Offeryn Amrywio.

Os ydych yn berchen ar nifer o eitemau o eiddo ar y cyd â pherchenogion gwahanol ar y cyd, caiff yr holl asedau sy'n eiddo ar y cyd eu hychwanegu at ei gilydd i wneud y gydran 'goroesedd'. Dim ond os bydd y rhodd yn fwy na 10 y cant o'r cyfanswm hwn y bydd y gyfradd ostyngol yn berthnasol, felly efallai na fydd camau gan un perchennog yn ddigon i fod yn gymwys.

Asedau dan ymddiried

Os ydych yn fuddiolwr ar ymddiriedolaeth ac mae asedau'r ymddiriedolaeth yn rhan o'ch ystad pan fyddwch farw at ddibenion Treth Etifeddiant, yna bydd unrhyw asedau o'r fath yn perthyn i'r gydran 'eiddo setledig'.

Os ydych yn fuddiolwr ar fwy nag un ymddiriedolaeth ac mae Treth Etifeddiant yn ddyledus arnynt, mae'n rhaid i'r rhodd i elusen fod yn fwy na 10 y cant o gyfanswm gwerth bob un ohonynt yn y gydran hon er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad mewn treth.

Nid yw'n bosibl newid cyrchfan asedau ymddiriedolaeth drwy Offeryn Amrywio.

Asedau rydych yn berchen arnynt yn llwyr neu fel tenantiaid yn gyffredin

Yn y mwyafrif o achosion, yr asedau rydych yn berchen arnynt yn llwyr neu asedau ar y cyd rydych yn berchen arnynt fel tenantiaid yn gyffredin â rhywun arall yw'r asedau sy'n perthyn i'r gydran hon - y gydran gyffredin.

Asedau a elwir yn 'rhoddion ag amodau'

Os gwnewch unrhyw roddion cyn i chi farw a elwir yn 'rhoddion ag amodau', bydd yn rhaid talu Treth Etifeddiant arnynt. Ni fydd unrhyw asedau a elwir yn rhodd ag amod ar y budd yn gymwys i dalu treth ar 36 y cant. Bydd asedau yn y gydran hon ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol os cânt eu huno â chydran arall sy'n gymwys ar gyfer Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol.

Camau allweddol wrth weithio allan a yw'r ystad yn bodloni'r prawf 10 y cant

Mae'r camau isod yn esbonio sut rydych yn gweithio allan y cyfrifiad. Mae'r cyfrifiad hwn yn gymhleth a'r ffordd hawsaf o weithio allan a yw ystad yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar 36 y cant yw defnyddio'r cyfrifydd cyfradd ostyngol. Gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen ar ddiwedd yr adran hon.

Cam 1 - gweithio allan pa asedau sy'n rhan o bob cydran - cofiwch nad oes gan bob ystad bob un o'r tair cydran.

Cam 2 - ychwanegu'r asedau at ei gilydd ac yna didynnu unrhyw ddyledion, atebolrwydd, gostyngiad ac eithriadau sy'n berthnasol i bob cydran.

Cam 3 - dosrannu band cyfradd sero y Dreth Etifeddiant - gan gynnwys unrhyw fand cyfradd sero heb ei ddefnyddio y gellir ei drosglwyddo gan briod neu bartner sifil - rhwng nifer y cydrannau a ddefnyddir ac unrhyw asedau a elwir yn 'rhoddion ag amodau'.

Cam 4 - didynnu gwerth a ddosrennir y band cyfradd sero o bob cydran.

Cam 5 - ailychwanegu gwerth y rhodd i elusen - y canlyniad hwn yw 'swm y llinell sylfaen' ar gyfer pob cydran.

Cam 6 - rhannu swm y llinell sylfaen â 10.

Cam 7 - gweithio allan a yw'r rhodd elusennol yn fwy na'r swm ar ddiwedd cam 6.

Enghreifftiau ymarferol

Er mwyn gweld enghreifftiau ymarferol o gyfrifo rhoddion elusennol sy'n dangos sut y gall ystadau dalu Treth Etifeddiant ar 36 y cant, dilynwch y ddolen isod.

Llunio eich ewyllys er mwyn gadael asedau i elusen

Er mwyn osgoi'r angen i adolygu swm rhoddion elusennol a luniwyd mewn ewyllysiau yn barhaus, mae canllawiau technegol CThEM yn cynnwys enghraifft o eiriad cymal y gellir ei gynnwys mewn ewyllys i sicrhau y bydd bob amser yn bodloni'r prawf 10 y cant. Mae'r geiriad i'w weld yn IHTM45008 o'r PDF yn y ddolen isod.

Eithrio rhag talu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol

O bryd i'w gilydd, gall cynrychiolydd personol gytuno â'r buddiolwyr y byddant yn eithrio rhag talu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol ac yn dewis talu treth ar 40 y cant. Mae hyn er mwyn gwneud y gwaith o ymdrin â'r ystad yn symlach.

Er enghraifft, os byddwch yn gadael eich tŷ i elusen pan fyddwch farw, ni fydd yn rhaid iddo gael ei brisio am ei fod wedi'i eithrio rhag treth ac ni fydd yn rhan o'ch ystad ar gyfer Treth Etifeddiant.

Fodd bynnag, er mwyn gweithio allan a fyddai'r ystad yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol, yna byddai angen i'r tŷ gael ei brisio'n broffesiynol a gallai'r gost o wneud hynny fod yn drech na'r manteision.

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU