Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pwy sy'n talu Treth Etifeddu?

Dim ond os yw gwerth ystâd y sawl a fu farw - neu drosglwyddiad yng nghyswllt ymddiriedolaeth - yn fwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ym mlwyddyn dreth 2012-13) y mae Treth Etifeddu yn ddyledus. Fel arfer, yr ysgutor neu’r cynrychiolydd personol fydd yn talu’r dreth gydag arian o ystad y sawl a fu farw. Fel arfer, bydd yr ymddiriedolwyr yn talu’r dreth ar asedau’r ymddiriedolaeth.

Pan fydd yr ysgutor yn talu Treth Etifeddu

Fel arfer, yr ysgutor, y cynrychiolydd personol neu’r gweinyddwr (ar gyfer ystadau lle nad oes ewyllys) fydd yn talu Treth Etifeddu ar unrhyw asedau yn ystad y sawl a fu farw nad ydynt yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth.

Yn gyffredinol, bydd yr arian yn dod o ystâd y sawl a fu farw.

Fodd bynnag, gan fod yn rhaid i’r dreth gael ei thalu o fewn chwe mis ar ôl y farwolaeth, a chyn y gellir rhoi’r grant profiant (neu’r grant cadarnhad yn yr Alban), weithiau bydd rhaid i’r ysgutor fenthyg yr arian neu dalu’r dreth â’i arian ei hun. Gall hyn ddigwydd os nad yw wedi bod yn bosib cael yr arian gan yr ystad mewn amser gan ei fod yn rhwym wrth asedau y mae’n rhaid eu gwerthu.

Yn yr achosion hyn, gellir ad-dalu’r ysgutor neu’r bobl sydd wedi rhoi’r arian gan ddefnyddio arian yr ystâd cyn iddo gael ei ddosbarthu rhwng y buddiolwyr (gweler yr adran isod ar ‘Adennill eich arian os gwnaethoch dalu Treth Etifeddu ar ran rhywun arall’).

Pan fydd ymddiriedolwr yn talu Treth Etifeddu

Dim ond os yw cyfanswm y swm sydd i’w drosglwyddo yn uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu y bydd angen talu Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau i ymddiriedolaeth. Fel arfer, bydd yn daladwy gan y sawl sy’n gwneud y trosglwyddo – a elwir yn ‘setlwr’ – nid gan yr ymddiriedolwyr.

Rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus ar dir neu asedau sydd eisoes yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth. Mae’r achlysuron ar gyfer hyn yn cynnwys y canlynol:

  • trosglwyddo allan o ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘daliad gadael’)
  • bob deng mlynedd ar ôl trosglwyddo i’r ymddiriedolaeth am y tro cyntaf (a elwir yn ‘daliad am gyfnodau o ddeng mlynedd')
  • buddiolwr yr ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘denant am oes’) yn marw - ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant yn unig

Pan fydd rhaid i fuddiolwr neu 'roddai' dalu Treth Etifeddu

Os na fydd yr ysgutor na’r ymddiriedolwyr yn gallu talu’r Dreth Etifeddu, mae’n bosib y bydd rhaid i'r buddiolwyr neu'r rhoddai (y sawl sy'n cael rhoddion a wneir yn ystod bywyd person) ei thalu. Yn yr achos hwn, dim ond os yw’r canlynol yn wir y bydd rhaid i fuddiolwr neu roddai dalu Treth Etifeddu:

  • mae’n cael cyfran o ystad ar ôl marwolaeth
  • mae’n cael rhodd gan rywun sy’n marw cyn pen saith mlynedd ar ôl gwneud y rhodd
  • mae’n elwa o asedau mewn ymddiriedolaeth ar adeg y farwolaeth neu’n cael incwm o’r asedau hynny
  • mae’n berchen ar eiddo ar y cyd – ond nid yw’n bartner priod na’n bartner sifil i’r sawl a fu farw

Dyma rai enghreifftiau o pryd byddai’n rhaid i fuddiolwr neu roddai dalu Treth Etifeddu, o bosib.

Enghraifft un

Os bydd rhywun yn rhoi rhodd i chi a’i fod yn marw cyn pen saith mlynedd ar ôl rhoi'r rhodd, dim ond os yw gwerth yr ystad – gan gynnwys y rhodd – dros drothwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ym mlwyddyn dreth 2012-13) ac nid oes digon o arian yn yr ystad i dalu'r Dreth Etifeddu, y byddai’n rhaid talu Treth Etifeddu ar y rhodd hwnnw.

Fodd bynnag, os bydd yr holl roddion a wnaed gan yr unigolyn hwnnw yn ystod y saith mlynedd cyn iddo farw yn gwneud cyfanswm sydd yn fwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ym mlwyddyn dreth 2012-13) – dim ond y rhoddion eu hunain, ac nid gweddill yr ystad – bydd Treth Etifeddu yn ddyledus ar yr holl roddion a ddaeth â’r cyfanswm dros y trothwy. Yn yr achos hwn, bydd rhaid i chi, fel y rhoddai, dalu’r dreth sy’n ddyledus ar eich rhodd, fel rheol.

Enghraifft dau

Mae rhywun yn marw ac mae’n berchen ar eiddo fel ‘cyd-denant’ gyda chi, ond nid ydych chi'n bartner priod na'n bartner sifil iddo. Mae’n bosib y bydd angen talu Treth Etifeddu ar ei gyfran ef o’r eiddo ar y cyd, os yw cyfanswm gwerth ei ystad yn fwy na’r trothwy (£325,000 ym mlwyddyn dreth 2012-13). Fel y cydberchennog sy’n dal yn fyw, chi fyddai’n gyfrifol am dalu’r Dreth Etifeddu.

Os dywedodd y sawl a fu farw yn ei ewyllys y dylai eiddo ar y cyd sy’n cael ei ddal fel ‘tenantiaid ar y cyd’ gael ei roi yn ‘ddi-dreth’, bydd y Dreth Etifeddu yn dod o weddill ei ystad (os oes digon o arian yn yr ystad i dalu’r dreth). Os nad oes digon o arian, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.

Adennill eich arian os gwnaethoch dalu Treth Etifeddu ar ran rhywun arall

Os ydych chi wedi talu’r Dreth Etifeddu sy’n ddyledus ar ran rhywun arall, cewch hawlio’r arian yn ôl gan yr ystad neu gan bwy bynnag a ddylai fod wedi talu’r Dreth Etifeddu. Gallwch wneud hyn ar ôl i brofiant (neu gadarnhad) gael ei roi a chyn i’r ystad gael ei ddosbarthu rhwng y buddiolwyr.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU