Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch wneud taliad ar gyfrif gyda Chyllid a Thollau EM ar unrhyw adeg – hyd yn oed os nad ydych chi eto’n gwybod faint o Dreth Etifeddu sy’n ddyledus nac yn barod i wneud cais am grant profiant (neu gadarnhad yn yr Alban). Mae’n bosib y bydd hyn yn ennill llog i chi hefyd.
Os yw materion ariannol yr ystad yn gymhleth, mae’n bosib y byddwch yn ei chael yn anodd cyfrifo faint o Dreth Etifeddu sy’n ddyledus erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu, sef chwe mis ar ôl y farwolaeth. Mae talu’r Dreth Etifeddu ar ôl y dyddiad mae’r dreth yn ddyledus yn golygu y bydd rhaid i chi dalu llog ar y swm sy'n ddyledus, o bosib.
Os byddwch yn talu cyfandaliad ymlaen llaw, ni fydd Cyllid a Thollau EM yn codi llog ar y swm rydych chi wedi’i dalu. Os bydd y swm hwnnw’n llai na’r swm a fydd yn ddyledus yn y pen draw, dim ond llog ar y swm sy’n dal i fod yn ddyledus y bydd rhaid i chi ei dalu.
Os byddwch yn amcangyfrif mai £50,000 fydd y Dreth Etifeddu ar ystad, ond yn credu na fyddwch yn gallu cyfrifo yn union faint sy’n daladwy erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu, gallech wneud taliad o £50,000 ar gyfrif.
Os mai dim ond £45,000 oedd y Dreth Etifeddu ar yr ystad, byddech yn cael ad-daliad o £5,000, gyda llog yn ychwanegol, ar ôl i brofiant (neu gadarnhad) gael ei roi.
Os mai £55,000 fydd y Dreth Etifeddu ar yr ystad, dim ond ar £5,000 y byddwch yn talu llog, yn hytrach nag ar y £55,000 llawn.
I wneud taliad ar gyfrif, rhaid i chi gael slip talu a chyfeirnod Treth Etifeddu yn gyntaf.
Os byddwch yn talu gormod o arian ar gyfrif, bydd Cyllid a Thollau EM yn ad-dalu unrhyw arian ychwanegol i chi ar ôl i chi gael y grant profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).
Bydd Cyllid a Thollau EM hefyd yn talu llog ar y swm rydych chi wedi’i ordalu ar 1 y cant dan gyfradd sylfaenol Banc Lloegr, er y bydd cyfradd ad-dalu o 0.5 y cant o leiaf yn berthnasol.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs