Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes Treth Etifeddu yn ddyledus ar ystâd, gan amlaf bydd yn rhaid ei thalu o fewn chwe mis i'r farwolaeth. Os na wneir hynny, fe godir llog ar yr arian sy’n ddyledus. Mewn rhai achosion, gallwch dalu mewn rhandaliadau unwaith y flwyddyn dros ddeng mlynedd. Efallai y bydd y ‘dyddiad cau’ yn wahanol os oes Treth Etifeddu yn ddyledus ar ymddiriedolaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer Treth Etifeddu yw chwe mis ar ôl diwedd y mis pan fu farw'r unigolyn (gweler y tabl isod).
Rhaid i chi dalu Treth Etifeddu cyn y cewch chi'r grant profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).
Mis pan fu farw’r unigolyn |
Dyddiad cau Treth Etifeddu |
---|---|
Ionawr |
31 Gorffennaf |
Chwefror |
31 Awst |
Mawrth |
30 Medi |
Ebrill |
31 Hydref |
Mai |
30 Tachwedd |
Mehefin |
31 Rhagfyr |
Gorffennaf |
31 Ionawr |
Awst |
28/29 Chwefror |
Medi |
31 Mawrth |
Hydref |
30 Ebrill |
Tachwedd |
31 Mai |
Rhagfyr |
30 Mehefin |
Os ydych chi’n talu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau, mae’r rhandaliad cyntaf yn ddyledus chwe mis ar ôl y farwolaeth ar y dyddiad cau a ddangosir uchod (gweler y tabl). Mae’r ail randaliad yn ddyledus 12 mis ar ôl hynny.
Os bydd rhywun yn rhoi rhodd i chi ac yna'n marw o fewn saith mlynedd – ac os oes angen talu Treth Etifeddu ar y rhodd – mae’r taliad ar y rhodd yn ddyledus o fewn chwe mis i’r farwolaeth ar y dyddiad cau a ddangosir uchod (gweler y tabl).
Os yw gwerth yr asedau a drosglwyddir yn fwy na’r trothwy ar gyfer Treth Etifeddu (£325,000 ym mlwyddyn dreth 2012-13), efallai y bydd angen talu Treth Etifeddu:
Mae’r dyddiad cau yn dibynnu ar pryd y trosglwyddir yr asedau:
Os na fyddwch yn talu'r holl Dreth Etifeddu erbyn y dyddiad cau, bydd Cyllid a Thollau EM yn codi llog ar y swm sy'n weddill beth bynnag fo'ch rheswm dros beidio â thalu erbyn y dyddiad cau.
Os oes Treth Etifeddu yn ddyledus, mae gennych 12 mis o ddiwedd y mis pan fu’r unigolyn farw i gyflwyno cyfrif Treth Etifeddu llawn – mae hyn yn cynnwys ffurflen IHT400, ac unrhyw bapurau a thudalennau ategol sy’n berthnasol i’r broses profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).
Oni bai fod gennych esgus rhesymol dros beidio â chyflwyno cyfrif llawn a chywir o fewn 12 mis, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy, yn ychwanegol at unrhyw log sy'n ddyledus gennych.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs