Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth Etifeddu a chadw cofnodion

Mae’n bwysig cadw copi o'ch cofnodion i gyd pan fyddwch chi’n talu Treth Etifeddu ar ystad neu ymddiriedolaeth. Bydd hyn yn dangos eich bod wedi gwneud popeth rydych chi i fod i’w wneud os bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am gael gweld eich cyfrifiadau.

Cofnodion y mae angen i ysgutorion eu cadw

Os ydych chi’n ysgutor neu’n gynrychiolydd personol, mae’n rhaid i chi gadw:

  • copi o’r ewyllys
  • copi o bob ffurflen Treth Etifeddu â llofnod arni
  • yr holl gofnodion a’r papurau y gwnaethoch eu defnyddio i lenwi'r ffurflenni
  • y gwaith papur angenrheidiol yn dilyn marwolaeth priod neu bartner sifil cyntaf os byddwch chi'n penderfynu'n nes ymlaen eich bod am drosglwyddo trothwy'r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd (neu’r ‘band dim treth’) i’r ail bartner ar ôl eu marwolaeth (gweler y ddolen isod sy’n rhoi arweiniad ar drothwy'r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd)

Mae’n ddefnyddiol cynnwys unrhyw waith papur sy’n dangos sut cyfrifoch chi werth rhai eitemau yn ystad yr ymadawedig, megis:

  • tai a thir, gan gynnwys tir amaethyddol neu goedwigoedd
  • stociau a chyfranddaliadau
  • eiddo personol, gan gynnwys gemwaith neu hen bethau
  • gwaith celf
  • ceir neu feiciau modur
  • pensiynau
  • ymddiriedolaethau

Mae hefyd yn syniad da cadw’r pethau hyn:

  • y llythyr y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei anfon yn cadarnhau bod y Dreth Etifeddu wedi cael ei thalu’n llawn
  • derbynebau gan unrhyw gredydwyr sy’n dangos bod eu cyfrifon wedi'u talu
  • cadarnhad ysgrifenedig bod yr holl fuddiolwyr wedi cael eu rhoddion
  • derbynebau ar gyfer unrhyw gostau a wyneboch yn eich rôl fel ysgutor

Mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am gopi o’r cyfrifon terfynol ar gyfer yr ystad i’w rhoi yn ei ffeiliau. Dylech hefyd anfon copi i'r holl fuddiolwyr.

Er nad yw’r gyfraith yn mynnu hyn, mae’n syniad da cadw’r holl ddogfennau, yn enwedig os bydd arnoch angen trosglwyddo trothwy’r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd yn nes ymlaen.

Cofnodion y mae angen i ymddiriedolwyr eu cadw

Os ydych chi’n ymddiriedolwr sy’n talu Treth Etifeddu ar ymddiriedolaeth, dylech gadw'r holl gofnodion a'r papurau y gwnaethoch eu defnyddio i lenwi'r ffurflenni rhag ofn y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am eu gweld yn nes ymlaen.

Cofnodion y bydd angen i fuddiolwyr eu cadw

Os ydych chi wedi etifeddu arian neu eiddo, dylech gadw copi o unrhyw ddogfennau sy’n dangos eich bod wedi etifeddu rhywbeth.

Os yw'ch priod neu’ch partner sifil wedi marw, dylech ofyn i’r ysgutor am ddogfen sy’n dangos trothwy nas defnyddiwyd eich diweddar bartner, a chadw hon gyda’ch papurau, oherwydd bydd arnoch ei hangen i drosglwyddo’r trothwy ar ôl eich marwolaeth chi.

Cadarnhad eich bod wedi talu’r Dreth Etifeddu sy’n ddyledus

Rhaid talu Treth Etifeddu o fewn chwe mis ar ôl y farwolaeth. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallwch dalu mewn rhandaliadau os yw’r ystad yn cynnwys rhai mathau o asedau.

Os ydych chi wedi darparu’r wybodaeth angenrheidiol ar eich ffurflenni Treth Etifeddu, ac wedi talu'r dreth a'r llog sy'n ddyledus, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau nad oes angen talu dim mwy o Dreth Etifeddu.

Efallai eich bod wedi dewis talu mewn rhandaliadau ond eich bod hefyd wedi talu Treth Etifeddu sy’n ddyledus nad yw’n rhan o’r cynllun rhandaliadau. Os felly, cewch lythyr yn cadarnhau eich bod wedi talu’r Dreth Etifeddu sy’n ddyledus heblaw am y dreth sy’n ddyledus mewn rhandaliadau.

Pan fydd yr holl randaliadau wedi’u talu, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr arall i gadarnhau bod yr holl dreth sy’n ddyledus wedi cael ei thalu.

Mae’r llythyrau hyn yn golygu na all Cyllid a Thollau EM ofyn i chi dalu rhagor o Dreth Etifeddu ar yr ystad dan sylw, oni bai:

  • nad ydych wedi sôn wrth Gyllid a Thollau EM am rywbeth perthnasol
  • eich bod wedi rhoi gwybodaeth ffug
  • y gwelir yn nes ymlaen bod rhagor o eiddo wedi cael ei gynnwys, er enghraifft trosglwyddiad i ymddiriedolaeth
  • fod angen talu rhagor o dreth os yw'r ewyllys yn cael ei herio neu ei 'newid' (gweler 'Mwy o ddolenni defnyddiol’ isod)

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU