Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ers mis Hydref 2007, gallwch drosglwyddo unrhyw drothwy Treth Etifeddu nas defnyddiwyd oddi wrth gymar neu bartner sifil a fu farw i’r ail gymar neu bartner sifil pan fydd yn marw. Yn 2012-13, gall hyn gynyddu trothwy Treth Etifeddu’r ail bartner o £325,000 i gymaint â £650,000, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Mae ystad pawb wedi’i heithrio rhag y Dreth Etifeddu hyd at drothwy penodol: £325,000 yn 2012-13. Caiff y trothwy hwn ei alw’n 'fand dim treth' hefyd.
Mae parau priod a phartneriaid sifil cofrestredig hefyd yn cael trosglwyddo asedau i’w gilydd yn ystod eu bywyd, neu pan fyddant yn marw, heb orfod talu’r Dreth Etifeddu. Nid oes gwahaniaeth faint y byddant yn ei drosglwyddo – ar yr amod mai yn y DU y mae cartref parhaol y sawl sy’n derbyn yr asedau. Gelwir hyn yn ‘eithriad ar gyfer cymar neu bartner sifil’.
Os bydd rhywun yn gadael popeth sy’n eiddo iddo i’w gymar neu bartner sifil gweddw fel hyn, bydd wedi’i eithrio rhag y Dreth Etifeddu. Golyga hyn hefyd ni fyddant ychwaith wedi defnyddio dim ar eu trothwy Treth Etifeddu na'u band dim treth eu hunain. Gellir defnyddio hyn i gynyddu trothwy Treth Etifeddu’r ail gymar neu’r partner sifil pan fydd yn marw – hyd yn oed os yw’r ail gymar wedi ailbriodi. Yn 2012-13, gall yr ystad fod werth hyd at £650,000 cyn bod angen talu Treth Etifeddu.
Er mwyn trosglwyddo’r trothwy nas defnyddiwyd, mae angen i ysgutorion neu gynrychiolwyr personol yr ail gymar neu bartner sifil a fu farw anfon ffurflenni penodol a dogfennau ategol i Gyllid a Thollau EM. Mae Cyllid a Thollau EM yn galw hyn yn 'trosglwyddo'r band dim treth' o'r naill bartner i'r llall.
Dim ond ar ôl i’r ail gymar neu bartner sifil farw y gellir trosglwyddo’r trothwy, a rhaid ei fod wedi marw ar 9 Hydref 2007, pan newidiodd y rheolau, neu ar ôl hynny. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth pryd y bu farw’r cymar neu’r partner sifil cyntaf. Fodd bynnag, os bu farw cyn 1975, efallai na fydd yn bosib trosglwyddo’r band dim treth yn llawn, gan fod yr eithriad ar gyfer cymar yn gyfyngedig bryd hynny. Ceir rhai sefyllfaoedd lle na ellir trosglwyddo’r trothwy, ond prin iawn yw'r sefyllfaoedd hyn. Gweler yr adran ar ddiwedd y canllaw hwn.
Pan fydd yr ail gymar neu bartner sifil yn marw, dylai ysgutorion neu gynrychiolwyr personol yr ystad ddilyn y camau canlynol.
Does dim ots beth oedd maint yr ystad gyntaf. Os gadawyd y cyfan i’r cymar neu’r partner sifil gweddw, roedd 100 y cant o’r trothwy heb ei ddefnyddio. Gallwch drosglwyddo’r ganran lawn pan fydd yr ail gymar neu bartner sifil yn marw, hyd yn oed os byddant yn marw’r un pryd.
Nid faint o fand dim treth y cymar neu’r partner sifil cyntaf nas defnyddiwyd sy’n pennu beth y gallwch ei drosglwyddo, ond yn hytrach y ganran nas defnyddiwyd.
Os rhoddodd y sawl a fu farw roddion nad oeddent wedi’u heithrio i bobl yn ystod ei fywyd, yn gyntaf bydd yn rhaid didynnu gwerth y rhoddion hyn o'r trothwy. Yna gallwch gyfrifo'r ganran sydd ar gael i'w throsglwyddo. Efallai y bydd angen i chi ganfod hefyd a allai unrhyw un o’r asedau a adawyd gan y cymar cyntaf fod wedi bod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Treth Busnes neu Ryddhad Treth Eiddo Amaethyddol.
Dilynwch y ddolen isod i weld enghreifftiau o sut y gellir trosglwyddo’r band dim treth nas defnyddiwyd.
Bydd arnoch angen yr holl ddogfennau canlynol ynghylch y farwolaeth gyntaf:
Os bydd angen help arnoch i ddod o hyd i'r dogfennau hyn, cysylltwch â'r gwasanaeth llys perthnasol neu swyddfa gofrestru gyffredinol y wlad lle'r ydych yn byw (gweler 'Mwy o ddolenni defnyddiol' isod). Efallai y gall y gwasanaeth llys ddarparu copïau o ewyllysiau neu grantiau, neu efallai y gall y swyddfeydd cofrestru cyffredinol ddarparu copïau o’r tystysgrifau marwolaeth.
Bydd rhaid i chi hawlio o fewn 24 mis i ddiwedd y mis pan fu farw’r ail gymar neu bartner sifil.
Bydd pa ffurflenni fydd angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar y canlynol:
Mae 100 y cant o’r trothwy Treth Etifeddu nas defnyddiwyd yn cael ei drosglwyddo ac mae gwerth yr ystad yn llai na gwerth y trothwy ddwywaith
Os oes 100 y cant o’r trothwy nas defnyddiwyd yn cael ei drosglwyddo a bod gwerth yr ystad yn llai na gwerth y trothwy ddwywaith pan fydd yr ail gymar neu bartner sifil yn marw (£650,000 yn 2012-13), gellir ystyried yr ystad yn 'ystad eithriedig'.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth yw’r amodau cymhwyso eraill ar gyfer ystadau eithriedig.
Os yw’r ystad yn gymwys i fod yn ystad eithriedig, bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT217 i hawlio’r trothwy nas defnyddiwyd, a dychwelyd y ffurflen hon ynghyd â ffurflen IHT205/C5 a’r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch ar gyfer profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).
Mae 100 y cant o’r trothwy Treth Etifeddu nas defnyddiwyd yn cael ei drosglwyddo ac mae gwerth yr ystad yn fwy na gwerth y trothwy ddwywaith
Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT402 i hawlio’r trothwy nas defnyddiwyd a dychwelyd y ffurflen hon ynghyd â ffurflen IHT400 a'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch ar gyfer profiant (neu gadarnhad yn yr Alban) os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Mae llai na 100 y cant o'r trothwy Treth Etifeddu nas defnyddiwyd wedi cael ei drosglwyddo, neu nid yw’r ystad yn gymwys i fod yn ‘ystad eithriedig’
Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT402 i hawlio’r trothwy nas defnyddiwyd a dychwelyd y ffurflen hon ynghyd â ffurflen IHT400 a'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch ar gyfer profiant (neu gadarnhad yn yr Alban) os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Nid yw'r trothwy Treth Etifeddu nas defnyddiwyd yn cael ei drosglwyddo o gwbl
Os nad oes dim trothwy nas defnyddiwyd i’w drosglwyddo, dim ond ffurflen IHT400 fydd angen i chi ei llenwi a'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch ar gyfer profiant (neu gadarnhad yn yr Alban).
Yn y ddau achos canlynol, mae’r rheolau ar gyfer trosglwyddo trothwy yn wahanol:
Mae’r rheolau’n gymhleth, ac efallai y byddwch am gysylltu â’r Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu i gael cyngor.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs