Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r enghreifftiau isod yn dangos sut y gellir trosglwyddo trothwy Treth Etifeddiant nas defnyddiwyd (neu 'fand cyfradd o ddim') diweddar briod neu ddiweddar bartner sifil i ail briod neu bartner sifil a'i ddefnyddio pan fydd yn marw.
Bu farw Mark ym mis Mai 2007. Gadawodd ystad gwerth £400,000 i'w wraig Sharon. Bu farw Sharon ym mis Awst 2008, gan adael £600,000. Pan fu farw Mark, £300,000 oedd y trothwy Treth Etifeddiant.
Pan fu farw Sharon, roedd y trothwy wedi cynyddu i £312,000, felly roedd ei hystad yn uwch na'r trothwy.
Ni ddefnyddiwyd unrhyw ran o drothwy Mark pan fu farw gan ei fod wedi gadael ei ystad cyfan i'w wraig Sharon ac nid oedd wedi gwneud unrhyw roddion oes. Felly gall cynrychiolwyr personol Sharon drosglwyddo 100 y cant o drothwy Mark i gynyddu ei throthwy hi. Ni fyddant yn trosglwyddo £300,000 - y trothwy pan fu farw Mark - ond yn hytrach ganran y band cyfradd o ddim nas defnyddiodd, hy 100 y cant. Yna byddant yn cymhwyso'r ganran hon i'r trothwy ar yr adeg y bu farw Sharon.
Felly caiff trothwy Sharon ei gynyddu i £624,000, sef dwywaith trothwy 2008-09 o £312,000, gan ddefnyddio 100 y cant o'i band cyfradd o ddim a 100 y cant o fand cyfradd o ddim Mark. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn ddyledus ar ei hystad.
Bu farw Jamila ym mis Mai 2007, gan adael ystad gwerth £300,000. Gadawodd £40,000 yr un i'w tri o blant a gweddill ei hystad (£180,000) i'w gŵr Kamil. Pan fu farw Jamila, £300,000 oedd y trothwy Treth Etifeddiant.
Bu farw Kamil ym mis Medi 2009, gan adael ystad gwerth £500,000 y mae'n ei adael mewn rhannau cyfartal i'w dri o blant. Pan fu farw Kamil, £325,000 oedd y trothwy.
Mae swm trothwy Jamila y gellir ei drosglwyddo fel a ganlyn:
Mae'r ganran y dylid cynyddu'r trothwy ar adeg yr ail farwolaeth (Kamil) fel a ganlyn:
Felly, y trothwy sydd ar gael i'w drosglwyddo i ystad Kamil yw £325,000 x 60 y cant = £195,000. Caiff hwn ei ychwanegu at drothwy Kamil ei hun, sef £325,000, gan gynyddu ei drothwy i £520,000. Gan fod ystad Kamil yn llai na hyn, nid oes Treth Etifeddiant i'w dalu.
Bu farw Raj ym mis Mai 2006, gan adael ystad gwerth £500,000. £285,000 oedd y trothwy pan fu farw.
Aeth y rhan fwyaf o ystad Raj i'w wraig Minal, ond aeth £100,000 i'w fab. Hefyd, yn 2005 gwnaeth Raj rodd i'w frawd o £10,000. Bu farw Minal ym mis Tachwedd 2008, pan oedd y trothwy yn £312,000.
Mae'r rhodd oes yn defnyddio rhan o drothwy Raj yn gyntaf, felly mae'r swm y gellir ei drosglwyddo i Minal fel a ganlyn:
Mae'r ganran y dylid cynyddu'r trothwy ar adeg yr ail farwolaeth (Minal) fel a ganlyn:
Felly, y trothwy sydd ar gael i'w drosglwyddo i ystad Minal yw £312,000 x 61.4035 y cant = £191,578.92. Caiff hwn ei ychwanegu at drothwy Minal ei hun, sef £312,000, gan greu trothwy o £503,579 (wedi'i dalgrynnu i'r bunt agosaf).
Bu farw Owen ym mis Ebrill 2007, gan adael ystad gwerth £250,000. Rhoddodd £150,000 o'r ystad hwn i'w fab Gregor a'r gweddill (£100,000) i'w wraig Maria. £300,000 oedd y trothwy pan fu farw Owen.
Mae'r etifeddiant i'w fab yn defnyddio 50 y cant o fand cyfradd o ddim Owen, gan adael 50 y cant heb ei ddefnyddio ac ar gael i'w drosglwyddo (gweler yr enghreifftiau uchod am gyfrifiadau).
Yn ddiweddarach, priododd Maria ag Aldo, a fu farw ym mis Mai 2008. Gadawodd 60 y cant o'i fand cyfradd o ddim heb ei ddefnyddio. Bu farw Maria ym mis Mehefin 2009, gan adael ystad gwerth £700,000. £325,000 oedd y trothwy Treth Etifeddiant pan fu farw.
Gall cynrychiolwyr personol Maria drosglwyddo trothwyon nas defnyddiwyd Owen ac Aldo er mwyn cynyddu ei throthwy ei hun. Mae'r rhain yn creu cyfanswm o 110 y cant (neu £357,500) ond y mwyaf y gallant ei drosglwyddo yw 100 y cant o'r trothwy pan fu farw Maria (£325,000).
Felly caiff trothwy Maria ei gynyddu i £650,000, gan ddefnyddio 100 y cant o'i band cyfradd o ddim a'r rhannau nas defnyddiwyd o drothwyon Owen ac Aldo, wedi'u cyfyngu i £325,000.
Mae ystad Maria, sef £700,000, £50,000 yn fwy na'i throthwy o £650,000 a gynyddwyd, felly mae Treth Etifeddiant yn daladwy ar £50,000.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs