Beth sy’n gymwys fel ‘ystad eithriedig’ ar gyfer y Dreth Etifeddu?
Mae pa ffurflenni Treth Etifeddu dylech eu llenwi fel rhan o'r broses profiant yn dibynnu ar a yw ystad yn ystad eithriedig ai peidio. Mae’r rhan fwyaf o ystadau yn ystadau eithriedig, a golyga hyn nad oes ganddynt Dreth Etifeddu i’w thalu. Fodd bynnag, mae amodau eraill y mae’n rhaid i ystadau eu bodloni er mwyn bod yn gymwys.
Pan fydd ystad yn ystad eithriedig
Fel arfer, os nad oes Treth Etifeddu i’w thalu ar ystad, bydd yn ystad eithriedig. Ond nid yw hyn yn wir bob tro. Nid ystad eithriedig yw pob ystad nad oes Treth Etifeddu yn ddyledus ganddi, a bydd angen i chi lenwi cyfrif Treth Etifeddu llawn (ffurflen IHT400) ar gyfer y rhain.
Ar gyfer marwolaethau ar ôl 1 Medi 2006, bydd yr ystad fel arfer yn ystad eithriedig os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’n ystad o werth isel – mae’i gwerth o dan drothwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 yn y flwyddyn dreth 2012-13), ond gweler rhagor o wybodaeth am drothwyon yn yr adran isod
- mae’n ystad eithriedig – mae’r sawl a fu farw wedi gadael popeth (neu bopeth dros ac uwchben trothwy’r Dreth Etifeddu) i gymar neu bartner sifil yn byw yn y DU neu i elusen ‘gymwys’ (a bod yr ystad yn werth llai na £1 miliwn)
- roedd y sawl a fu farw yn preswylio dramor - roedd yn byw dramor yn barhaol, a bu farw dramor, ac mae gwerth ei asedau yn y DU yn llai na £150,000
Ar gyfer marwolaethau ar 6 Ebrill neu ar ôl hynny bydd ystad hefyd yn un eithriedig os yw'r ddau o'r canlynol yn berthnasol:
- mae’r ystâd yn werth llai na ddwywaith trothwy’r Dreth Etifeddu (£650,000 yn y flwyddyn dreth 2012-13)
- gellir trosglwyddo 100 y cant o drothwy’r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd oddi wrth gymar neu bartner sifil a fu farw i’r ymadawedig – cael gwybod mwy drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod
Yn fwy na thebyg, bydd hyn yn golygu y bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT205 Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad (neu ffurflen C5 yn yr Alban) fel rhan o’r broses profiant. Bydd hefyd angen i chi lenwi ffurflen IHT217 os ydych chi’n trosglwyddo trothwy’r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd oddi wrth gymar neu bartner sifil a fu farw i’r ymadawedig.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi sicrhau yn gyntaf nad yw’r ystâd yn cwrdd ag amodau sy’n ei hanghymwyso rhag bod yn eithriedig (gweler yr adran isod ynglŷn â phan fydd ystâd ddim yn ystâd eithriedig).
Pan fydd ystad ddim yn ystad eithriedig
Ni fydd ystad yn ystad eithriedig os yw unrhyw rai o’r canlynol yn wir am y sawl a fu farw:
- gadawodd ystad sy’n werth mwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 yn y flwyddyn dreth 2012-13) neu ystad sy’n werth mwy na £1 miliwn i gymar, partner sifil neu elusen ‘gymwys’
- gellir trosglwyddo 100 y cant o drothwy’r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd oddi wrth gymar neu bartner sifil a fu farw i’r ymadawedig ond mae’r ystâd yn werth mwy na ddwywaith trothwy’r Dreth Etifeddu (£650,000 yn y flwyddyn dreth 2012-13)
- bydd angen i ystâd yr ymadawedig drosglwyddo trothwy’r Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd oddi wrth gymar neu bartner sifil a fu farw i osgoi talu Treth Etifeddu ac mae llai na 100 y cant ar gael i drosglwyddo - hyd yn oed os nad oes angen y 100 y cant i gyd
- roedd ganddo gartref parhaol y tu allan i’r DU pan fu farw, ond roedd ganddo gartref parhaol yn y DU ar un adeg
- roedd ganddo asedau mewn ymddiriedolaeth yn werth mwy na £150,000, neu roedd yn dal mwy nag un ymddiriedolaeth
- roedd ganddo asedau yn werth mwy na £100,000 y tu allan i’r DU
- gwnaeth roddion yn y saith mlynedd cyn iddo farw, ac roedd gwerth y rhoddion yn fwy na £150,000 ar ôl didynnu unrhyw eithriadau Treth Etifeddu
- gwnaeth roddion i ymddiriedolaethau
- parhaodd i gael budd o rodd a wnaeth i rywun arall, megis ei dŷ neu ei gar (a elwir yn ‘rhodd gyda budd amodol’ - ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn y ddolen isod)
- roedd ganddo bolisi yswiriant bywyd a dalwyd i rywun arall – ond nid ei gymar neu’i bartner sifil – ac roedd hefyd wedi prynu blwydd-dal (gweler rhagor o wybodaeth am bolisïau yswiriant yn y ddolen isod)
- roedd ganddo bensiwn personol ac nid oedd wedi cymryd ei fudd-daliadau ymddeol llawn ohono, a phan oedd yn angheuol wael neu â’i iechyd yn wael, newidiodd y budd-daliadau marwolaeth a oedd yn daladwy arno er mwyn cynyddu gwerth y taliad un-swm
- roedd ganddo ‘Bensiwn wedi’i Sicrhau mewn Ffordd Arall’ neu bensiwn heb ei sicrhau, neu ef oedd y buddiolwr
- gwnaeth ddewis y dylai eiddo yr oedd wedi ei roi i rywun arall fod yn rhan o’i ystad ar gyfer y Dreth Etifeddu, yn hytrach na thalu ffi ‘ased cyn-berchnogaeth’
- ystyrir ei bod yn dybiedig iddo breswylio yn y DU - mae hyn fel arfer yn berthnasol os na chafodd y sawl a fu farw ei eni yn y DU, ond ei fod wedi byw yma am yr 17 mlynedd diwethaf, neu os cafodd ei eni yn y DU ond bu farw o fewn tair blynedd ar ôl ymfudo
Mewn unrhyw rai o’r achosion hyn, nid yw’r ystad yn ystad eithriedig a bydd yn rhaid i chi lenwi cyfrif Treth Etifeddu llawn (ffurflen IHT400).
Pa un o drothwyon y Dreth Etifeddu y dylech ei ddefnyddio
Pan fyddwch yn penderfynu a yw’r ystad yn ‘ystad o werth isel’, byddwch fel arfer yn defnyddio trothwy'r Dreth Etifeddu a oedd yn berthnasol ar y dyddiad y bu’r unigolyn farw.
Fodd bynnag, os bu farw ar ôl 5 Ebrill a chyn 6 Awst yn yr un flwyddyn, a’ch bod yn gwneud cais am grant profiant (neu ‘gadarnhad’ yn yr Alban) cyn 6 Awst yr un flwyddyn, byddai’n rhaid i chi ddefnyddio trothwy'r flwyddyn flaenorol.
Os bu farw cyn 1 Medi 2006
Er 1 Ebrill 1981, mae’r rheolau ar gyfer penderfynu pa ystadau sy’n ystadau eithriedig wedi newid sawl gwaith.
I gael gwybod y rheolau a oedd yn berthnasol ar gyfer marwolaethau cyn 1 Medi 2006, dilynwch y dolenni isod.
Ar gyfer marwolaethau cyn 1 Ebrill 1981, nid oedd dim ystadau eithriedig, felly byddai angen cyfrif Treth Etifeddu llawn ar gyfer bob achos.