Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Premiymau yswiriant – cwestiwn 6 ar ffurflenni IHT205 a C5

Mae’r arweiniad hwn yn ateb cwestiynau cyffredin am bolisïau yswiriant ar y ffurflenni Treth Etifeddu IHT205 a C5 'Return of Estate Information'.

Premiymau yswiriant – cwestiwn 6

Bydd polisïau yswiriant bywyd y rhan fwyaf o bobl yn talu i’w hystadau os byddant yn marw. Os mai dyma oedd yr achos ar gyfer y sawl a fu farw, gallwch ateb ‘na’ i gwestiwn 6 a symud ymlaen.

Fodd bynnag, ni fydd yr ystad yn cael ei hystyried yn ystad eithriedig os bydd un o’r canlynol yn berthnasol. Os oedd y sawl a fu farw:

  • yn rhoi polisi yswiriant mewn i ymddiriedolaeth o fewn saith mlynedd cyn y farwolaeth
  • wedi prynu blwydd-dal a thalu’r premiymau ar bolisi yswiriant a fyddai'n talu i rywun arall ac nid i'w ystad - er enghraifft, i blentyn

Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i chi lenwi cyfrif Treth Etifeddu llawn yn lle - ffurflen IHT400.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth


Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU