Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pensiynau - cwestiynau 7 ac 8 ar ffurflenni IHT205 ac C5

Mae'r canllaw hwn yn ateb cwestiynau cyffredin am bensiynau ar ffurflenni IHT205 ac C5 'Datganiad Gwybodaeth am yr Ystad' mewn perthynas â Threth Etifeddiant.

Pensiynau - cwestiynau 7 ac 8

Os nad oedd yr unigolyn a fu farw yn cael pensiwn ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth, gallwch ateb 'na' i gwestiwn 7 a symud ymlaen.

Os oedd yn cael pensiwn ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi ateb cwestiwn 8.

Dylai darparwr pensiwn yr unigolyn a fu farw allu ateb unrhyw gwestiynau cychwynnol a all fod gennych. Caiff y manylion cyswllt eu cadw ar unrhyw bapurau sy'n ymwneud â'r pensiwn. Bydd ganddynt yr holl fanylion sydd eu hangen arnoch am y math o bensiwn yr oedd yr unigolyn a fu farw yn ei gael a pha fath o fuddiannau marwolaeth a oedd ganddo.

Ni all Llinell Gymorth Treth Profiant ac Etifeddiant Cyllid a Thollau EM (CThEM) ddweud unrhyw beth wrthych am drefniadau pensiwn yr unigolyn a fu farw.

Gallwch ateb 'na' i'r tair rhan o gwestiwn 8 os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol o ran yr unigolyn a fu farw:

  • nid oedd yn 75 oed cyn 22 Mehefin 2010 (mae hyn yn golygu ei fod wedi'i eni ar 22 Mehefin 1935 neu ar ôl hynny)
  • nid oedd yn cael unrhyw fath o bensiwn dibynnydd
  • nid oedd wedi newid ei drefniadau pensiwn yn ystod y ddwy flynedd cyn iddo farw ac eithrio i bensiynau a dalwyd i'w briod neu bartner sifil

Cwestiwn 8 - Pensiynau a Ddiogelir mewn ffordd Amgen

Mae Pensiynau a Ddiogelir mewn ffordd Amgen yn gymharol anghyffredin am nad oeddent yn bodoli cyn 6 Ebrill 2006 a daethant i ben ar 6 Ebrill 2011. Roeddent ar gael i bobl a oedd yn cyrraedd 75 oed ac nad oeddent am brynu blwydd-dal gyda'u cronfa bensiwn. Cododd yr oedran i 77 o 22 Mehefin 2010. Os yw un o'r canlynol yn berthnasol i'r unigolyn a fu farw, mae'n debygol nad oedd ganddo Bensiwn a Ddiogelir mewn Ffordd Amgen:

  • bu farw cyn 6 Ebrill 2006
  • roedd yn iau na 75 oed pan fu farw
  • os oedd dros 75 oed pan fu farw, defnyddiodd ei holl gronfeydd pensiwn i brynu blwydd-dal

Cwestiwn 8 - Pensiwn Dibynnydd

Mae pensiwn nas diogelir yn galluogi rhywun i gael incwm o'i gronfa bensiwn tra bydd ei gronfeydd wedi'u buddsoddi o hyd. Mae'n ddewis amgen i brynu blwydd-dal.

Os mai'r unigolyn a fu farw oedd dibynnydd perthnasol rhywun a fu farw gyda Phensiwn a Ddiogelir mewn ffordd Amgen neu bensiwn nas diogelir, atebwch 'ie' i'r cwestiwn hwn.

Mae'r dibynnydd perthnasol:

  • yn briod neu'n bartner sifil i berchennog gwreiddiol y Pensiwn a Ddiogelir mewn ffordd Amgen neu bensiwn nas diogelir
  • yn blentyn sy'n iau na 23 oed i berchennog gwreiddiol y Pensiwn a Ddiogelir mewn ffordd Amgen neu bensiwn nas diogelir
  • yn blentyn o unrhyw oed i unrhyw unigolyn arall a oedd yn ddibynnol yn ariannol ar berchennog gwreiddiol y Pensiwn a Ddiogelir mewn ffordd Amgen neu bensiwn nas diogelir - neu'n ddibynnol oherwydd nam corfforol neu feddyliol

Os ydych wedi ateb 'ie' i'r cwestiwn hwn, ni fydd ystad yr unigolyn a fu farw yn ystad a gaiff ei eithrio. Bydd yn rhaid i chi ffeilio cyfrif Treth Etifeddiant llawn - ffurflen IHT400.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU