Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch roi eich cartref i’ch plant – neu i rywun arall – unrhyw adeg, hyd yn oed tra’r ydych yn dal yn byw ynddo. Fodd bynnag, os yw eich ystad (gan gynnwys eich cartref) yn werth mwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 yn 2012-13), efallai y bydd goblygiadau treth.
At ddibenion Treth Etifeddu, caiff trosglwyddo eich cartref ei ystyried fel rhoi rhodd. Mae’r rheolau ynghylch trosglwyddo eiddo’n gymhleth, felly mae’n syniad da ceisio cyngor cyfreithiol.
Ceir dau beth ynghylch rhoddion y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth drosglwyddo eiddo.
Y rheol saith mlynedd
Gallwch wneud rhodd lawn o’ch cartref i rywun, beth bynnag fo’i werth, a chaiff ei eithrio o’r Dreth Etifeddu os byddwch yn byw saith mlynedd ar ôl rhoi’r rhodd. Gelwir hyn yn drosglwyddiad y gellid ei eithrio.
Rhoddion rydych yn parhau i gael budd ohonynt
Os byddwch yn rhoi eich cartref i’ch plant ynghlwm wrth amodau, neu os byddwch yn parhau i gael budd o’r cartref eich hun, gelwir hyn yn ‘rhodd gyda budd amodol’ ac ni chaiff y rhodd ei heithrio o’r Dreth Etifeddu, hyd yn oed os byddwch yn byw am saith mlynedd ar ôl hynny.
Cewch fynd ar ymweliadau cymdeithasol ac aros am gyfnodau byr yn y cartref rydych yn ei roi, ond ceir canllawiau o ran pa mor aml y cewch ymweld heb i’r cartref fod yn ‘rhodd gyda budd amodol’.
Cewch barhau i fyw yn eich cartref fel eich prif gartref ar ôl ei roi yn rhodd, ar yr amod eich bod yn talu rhent marchnad i’r perchennog newydd. Cofiwch efallai fod yn rhaid i’r perchennog newydd dalu Treth Incwm ar y rhent rydych yn ei dalu iddynt.
Oni fyddwch yn talu rhent marchnad, caiff y rhodd ei ystyried yn ‘rhodd gyda budd amodol’ ac efallai y bydd y tŷ’n ddarostyngedig i Dreth Incwm.
Os byddwch yn gwerthu eich cartref ac yn rhoi’r arian i’ch plant, ni chaiff y rhodd ei gynnwys yn eich ystad ar gyfer dibenion Treth Etifeddu, ar yr amod eich bod yn byw am saith mlynedd ar ôl i chi roi’r rhodd.
Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu eich cartref, yn rhoi’r arian i’ch plant ac yna’n symud i’w cartref – p’un ai a yw hyn yn ychwanegiad pwrpasol maent wedi’i godi ar eich cyfer gyda’r arian neu’n ystafell mewn tŷ maent wedi’i brynu – efallai y bydd goblygiadau Treth Incwm. Efallai y cewch eich ystyried fel eich bod yn byw mewn ased cyn-berchnogaeth oni wnewch dalu rhent y farchnad.
Os ydych chi a’ch plant yn gwerthu eich cartrefi, yn rhoi eich arian at ei gilydd ac yn prynu cartref newydd i gyd-fyw ynddo fel cydberchnogion, caiff y rhan rydych chi’n berchen arno ei ystyried fel rhan o’ch ystad at ddibenion Treth Etifeddu.
Os na fyddwch yn rhoi’r un cyfraniadau at brynu’r tŷ, neu os na fyddwch yn defnyddio’r un gyfran o’r eiddo â’r hyn wnaethoch ei brynu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm gan y gellir ystyried eich cyfran fel ased cyn-berchnogaeth. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o fanylion am asedau cyn-berchnogaeth.
Os byddwch yn rhoi eich cartref i’ch plant a’u bod nhw’n symud i mewn atoch chi, caiff y rhodd ei drin fel ‘rhodd gyda budd amodol’ a bydd y cartref yn dal yn ddarostyngedig i Dreth Etifeddu.
Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi hanner y cartref i’ch plant, a’u bod yn symud i fyw atoch chi a’ch bod yn rhannu’r biliau ar y cyd, ni chaiff yr hanner rydych wedi’i roi iddynt ei ystyried fel rhan o’ch ystad at ddibenion Treth Etifeddu ar yr amod eich bod yn byw am saith mlynedd ar ôl rhoi’r rhodd.
Ar yr amod mai’r cartref rydych yn ei roi yn rhodd yw eich prif gartref, ni fydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi ail dŷ yn rhodd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os yw’r eiddo wedi cynyddu yn ei werth rhwng y cyfnod y gwnaethoch ei brynu i ddechrau a’r cyfnod y gwnaethoch ei roi yn rhodd.
Efallai y bydd yn rhaid i’r sawl rydych chi’n rhoi’r cartref iddo dalu Treth Enillion Cyfalaf hefyd os byddant yn gwneud elw pan fyddant yn gwerthu, yn rhoi neu’n cyfnewid – ‘cael gwared’ – ar y cartref, oni bai mai dyma eu prif gartref.
Ceir ffyrdd cyfreithiol gwahanol y gallwch fod yn berchen ar eich cartref yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:
Mae’r gyfraith yn wahanol yn yr Alban.
Os ydych chi a’ch gŵr/gwraig neu bartner sifil yn berchen ar eich cartref fel cyd-denantiaid, bydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu’r cartref yn awtomatig ac ni fydd Treth Etifeddu i’w thalu ar yr eiddo pan fydd y partner cyntaf yn marw.
Os ydych yn berchen ar eiddo fel tenantiaid ar y cyd gydag unigolyn arall, mae’r ddau/ddwy ohonoch yn berchen ar gyfran o’r eiddo. Cewch drosglwyddo eich cyfran i’ch plant pan fyddwch yn marw. Mae rhannu eich eiddo rhwng eich partner a’ch plant hŷn fel hyn yn lleihau maint yr ystad sy’n drethadwy yn y dyfodol pan fydd eich partner sydd ar ôl yn marw.
Mae’n syniad da trafod goblygiadau newid y ffordd rydych yn berchen ar eich cartref(i) gyda thwrnai os yw eich ystad yn werth mwy na trothwy’r Dreth Etifeddu. Ceir dolenni i sefydliadau proffesiynol isod, ond ni fydd pob cyfreithiwr wedi’i gofrestru.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs