Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth Etifeddu a’r broses profiant

Profiant (neu gadarnhad yn yr Alban) yw’r system rydych yn ei dilyn os ydych yn ymdrin ag ystad rhywun sydd wedi marw. Mae’n rhoi’r hawl cyfreithiol i chi ddosbarthu’r ystad yn unol â dymuniadau’r ymadawedig. Hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddu yn ddyledus gan yr ystad, mae ffurflenni Treth Etifeddu yn dal yn rhan o’r broses.

Deall terminoleg profiant

Os yw’r ymadawedig wedi gadael ewyllys, fel arfer bydd yn enwi un ‘ysgutor’ neu fwy, sy’n gallu gwneud cais am y grant profiant.
Os nad yw’r ysgutor a enwir am weithredu, gall rhywun arall a enwir yn yr ewyllys wneud cais i fod yn weinyddwr (eto, gan ddibynnu ar drefn blaenoriaeth gaeth). Mae’r person hyn yn cael ei alw’n ‘weithredwr’ a byddant yn gwneud cais am grant ‘llythyrau gweinyddu gydag ewyllys’.

Os bu farw’r ymadawedig heb adael ewyllys, gall perthynas waed wneud cais am ‘grant llythyrau gweinyddu’. Mae hyn yn seiliedig ar drefn blaenoriaeth perthynas agosaf gaeth a ddiffinnir yn y ‘rheolau diewyllysedd’. Mae’r person sy’n gwneud cais hefyd yn cael ei alw’n ‘weinyddwr’.
Y term cyffredinol ar gyfer grant profiant, llythyrau gweinyddu gydag ewyllys neu lythyrau gweinyddu yw grant ‘cynrychiolaeth’. Y term cyffredinol ar gyfer ysgutor neu weinyddwr yw ‘cynrychiolydd personol’.

Termau gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon systemau cyfreithiol, prosesau a thermau gwahanol. Mae’r derminoleg fwy neu lai yr un fath yng Ngogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, yn yr Alban gelwir y broses yn ‘cadarnhad’ a’r cynrychiolydd personol sy’n gwneud cais am ‘grant cadarnhad’.
Mae angen ffurflenni gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Y broses profiant yn fras

Dyma drosolwg o’r camau y dylid eu cymryd yng Nghymru a Lloegr, ceir rhagor o fanylion yn yr adrannau isod. Unwaith eto, mae’r broses yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon – dilynwch y dolenni uchod i gael mwy o wybodaeth.

  1. Dylech brisio’r ystad a siarad â banciau a sefydliadau ariannol eraill yr ymadawedig er mwyn sefydlu a oes angen profiant (neu gadarnhad) arnoch ai peidio
  2. Os oes angen profiant arnoch, dylech lenwi’r ffurflenni cais profiant a Threth Etifeddu perthnasol – mae’r rhain yn wahanol gan ddibynnu ar a oes Treth Etifeddu’n ddyledus ar yr ystad ai peidio
  3. Anfonwch y ffurflenni at y cyrff llywodraethol perthnasol (y Gofrestrfa Brofiant a Chyllid a Thollau EM yng Nghymru a Lloegr)
  4. Talwch pa bynnag Dreth Etifeddu sy’n ddyledus
  5. Mynd i gyfweliad yn bersonol mewn man cyfarfod ar gyfer Profiant neu mewn swyddfa unrhyw gomisiynydd llwon (fel arfer swyddfa cyfreithiwr) i dyngu llw
  6. Aros i’r grant profiant (neu gadarnhad) gyrraedd drwy’r post – bydd banciau a sefydliadau eraill yn gofyn am gael gweld hwn cyn y gwnânt roi caniatâd i chi gael mynediad at asedau’r ymadawedig
  7. Talu unrhyw ddyledion sy’n ddyledus i’r ystad ac yna dosbarthu’r ystad

Cam 1 – prisio’r ystad i weld a oes angen profiant arnoch

Pryd y mae’n bosibl na fydd angen profiant arnoch

Efallai na fydd angen profiant arnoch os yw’r ystad

  • yn ystad gwerth isel – llai na £5,000 fel arfer (er y gall y ffigur hwn amrywio) – ac nad yw’n cynnwys tir, eiddo na chyfranddaliadau
  • yn cael ei drosglwyddo i’r gŵr/gwraig/partner sifil sydd ar ôl gan ei fod dan enw’r cydberchnogion

Pan fyddwch chi’n cysylltu â banc neu sefydliadau ariannol eraill yr ymadawedig, byddant naill ai’n rhyddhau’r arian neu’n dweud wrthych am gael grant profiant (neu gadarnhad) i ddechrau. Efallai y bydd rhai banciau a sefydliadau ariannol yn mynnu cael grant cyn rhoi mynediad i chi neu hyd yn oed swm bach o arian.

Pryd y bydd angen profiant fel arfer

Bydd fwy neu lai angen grant arnoch os y mae’r ystad yn cynnwys:

  • asedau gwerth mwy na chyfanswm o £5,000 yn gyffredinol (er bod y ffigur hwn eto’n amrywio)
  • tir neu eiddo yn enw’r ymadawedig, neu dan enw’r ‘tenantiaid ar y cyd’ gyda rhywun arall
  • stociau neu gyfranddaliadau
  • rhai polisïau yswiriant


Cam 2 – gwneud cais am brofiant

Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen Treth Etifeddu yn ogystal â’r ffurflen PA1 Probate Application, hyd yn oes os nad oes Treth Etifeddu’n ddyledus ar yr ystad. Ni fydd yn rhaid i’r ystad dalu’r Dreth Etifeddu sy’n ddyledus os yw dros y trothwy (£325,000 yn 2012-13).

Mae’r ffurflenni Treth Etifeddu y mae eu hangen arnoch yn dibynnu ar y canlynol:

  • ble roedd yr ymadawedig yn byw – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, neu dramor
  • maint yr ystad
  • p’un ai a oedd yn ‘ystad eithriedig’ (hy does dim angen i chi lenwi cyfrif Treth Etifeddu llawn – ffurflen IHT400)

Fel arfer, os nad oes Treth Etifeddu i’w dalu ar ystad, bydd yn ystad eithriedig. Ond nid yw hyn yn wir bob tro. Mae’n rhaid i rai ystadau nad oes Treth Etifeddu’n ddyledus arnynt ddychwelyd cyfrif Treth Etifeddu llawn.

Os nad ydych yn siŵr a yw’r ystad yn ystad eithriedig, bydd angen i chi ddechrau llenwi ffurflen Dychwelyd Gwybodaeth am Ystad (ffurflen IHT205 yng Nghymru a Lloegr). Gan ddibynnu ar eich atebion i rai cwestiynau, bydd y ffurflen yn nodi’n glir pryd y dylech roi’r gorau i lenwi’r ffurflen honno a newid i’r ffurflen IHT400 (cyfrif Treth Etifeddu llawn) yn hytrach.

Cam 3 – anfon y ffurflenni at y cyrff llywodraethol perthnasol

Anfonwch y ffurflenni IHT20 a’r ffurflen PA1 Probate Application at eich Cofrestrfa Brofiant agosaf. Bydd hefyd angen i chi gynnwys yr ewyllys gwreiddiol (os oes un), y dystysgrif marwolaeth, a’r ffi profiant. Os ydych wedi llenwi ffurflen IHT400, dilynwch y cyfarwyddiadau ar dudalen 55 nodiadau arweiniol IHT400.

Mae’r broses yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon (dilynwch y dolenni isod).

Cam 4 – talu unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus

Os oes Treth Etifeddu’n ddyledus ar yr ystad, ni chewch y grant profiant (neu gadarnhad) oni bai eich bod yn talu rhywfaint o’r Dreth Etifeddu neu’r cyfan ohoni i ddechrau. Y ‘dyddiad dyledus’ yw chwe mis ar ôl dyddiad y farwolaeth.

Camau 5 i 7 – beth sy’n digwydd nesaf?

Unwaith y byddwch wedi talu unrhyw Dreth Etifeddu ac wedi anfon y ffurflenni at y Gofrestrfa Brofiant, bydd y broses yn cymryd tua wyth wythnos os nad oes problemau. Mae tri cham i’r broses:

  • astudio’r ffurflenni a’r dogfennau – bydd staff y Gofrestrfa Brofiant yn gwirio’r ffurflenni a’r dogfennau ac yn paratoi’r papurau profiant ar gyfer eich cyfweliad os ydych chi’n mynychu man cyfarfod ar gyfer profiant, neu byddant yn anfon y llw i chi i gymryd gyda chi i gomisiynydd llwon
  • tyngu llw – bydd angen i’r holl ysgutorion sydd wedi gwneud cais am grant profiant dyngu llw, naill ai mewn man cyfarfod ar gyfer Profiant neu mewn swyddfa unrhyw gomisiynydd llwon (fel arfer swyddfa cyfrieithiwr)
  • caiff y profiant ei ganiatáu – caiff y grant profiant ei anfon atoch drwy’r post gan Gofrestrfa Brofiant ddosbarth

Ar ôl i chi gael y grant profiant (neu gadarnhad) a’ch bod wedi talu unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus, cewch gasglu’r arian o’r ystad. Yna gallwch dalu unrhyw ddyledion sy’n ddyledus gan yr ystad ac yna dosbarthu’r ystad yn unol â’r ewyllys neu’r rheolau diewyllysedd.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU