Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yw pawb yn talu Treth Etifeddu. Nid yw ond yn ddyledus os yw’ch ystad - gan gynnwys unrhyw asedau mewn ymddiriedolaethau a rhoddion a roddwyd o fewn saith mlynedd i’r farwolaeth - wedi’i phrisio’n uwch na throthwy cyfredol y Dreth Etifeddu (£325,000 yn 2012-13).
Fel rheol, mae Treth Etifeddu yn cael ei thalu ar ystad ar ôl i rywun farw. Weithiau, mae hefyd yn daladwy ar ymddiriedolaethau neu roddion a wnaed yn ystod bywyd unigolyn. Does dim rhaid i’r rhan fwyaf o ystadau dalu Treth Etifeddu oherwydd maent wedi’u prisio’n is na’r trothwy (£325,000 yn 2012-13). Mae’r dreth yn daladwy ar 40 y cant ar y swm dros y trothwy hwn neu 36 y cant os yw’r ystad yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol fel canlyniad o rodd elusennol.
Cynyddu’r trothwy ar gyfer parau priod a phartneriaid sifil
Ers mis Hydref 2007, gall parau priod a phartneriaid sifil cofrestredig gynyddu trothwy eu hystad pan fydd yr ail bartner yn marw - hyd at £650,000 yn 2012-13. Rhaid i’w hysgutorion neu eu cynrychiolwyr personol drosglwyddo ‘band dim treth’ neu drothwy Treth Etifeddu nas defnyddiwyd y cymar neu’r partner sifil cyntaf i’r ail gymar neu bartner sifil pan fyddant yn marw.
Mae’r Dreth Etifeddu yn daladwy gan wahanol bobl mewn gwahanol amgylchiadau. Fel arfer, yr ysgutor neu’r cynrychiolydd personol fydd yn ei thalu gan ddefnyddio arian o ystad yr ymadawedig.
Fel arfer, yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu’r Dreth Etifeddu ar asedau sy’n rhan o ymddiriedolaeth neu a drosglwyddir i ymddiriedolaeth. Weithiau, bydd yn rhaid i bobl sydd wedi cael rhoddion, neu sy’n etifeddu gan yr ymadawedig, dalu’r Dreth Etifeddu – ond nid yw hyn yn digwydd yn aml.
Cewch fwy o wybodaeth yn y canllawiau isod ynghylch pwy sy’n talu’r Dreth Etifeddu mewn gwahanol amgylchiadau.
Er mwyn canfod a oes Treth Etifeddu yn ddyledus ar ystad, bydd yn rhaid i chi brisio’r ystad yn gyntaf. Mae hyn yn golygu adio gwerth holl asedau’r ystad - megis tŷ, eiddo personol, arian a buddsoddiadau - a didynnu unrhyw ddyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymadawedig, gan gynnwys biliau tŷ a chostau’r angladd.
Mae ystad hefyd yn cynnwys cyfran yr ymadawedig mewn unrhyw asedau cyfunol a gwerth unrhyw asedau a ddelir mewn ymddiriedolaethau.
Dylech hefyd brisio unrhyw roddion a roddwyd gan yr ymadawedig yn ystod ei fywyd i weld a ydynt wedi’u heithrio. Os nad ydynt wedi’u heithrio, rhaid eu cynnwys yng nghyfanswm gwerth yr ystad (ceir mwy o wybodaeth isod).
Weithiau, hyd yn oed os yw’ch ystad yn uwch na’r trothwy, gallwch drosglwyddo asedau heb orfod talu Treth Etifeddu.
Eithriad ar gyfer cymar neu bartner sifil
Fel rheol, ni fydd Treth Etifeddu yn ddyledus gan eich ystad ar unrhyw beth y byddwch yn ei adael i gymar neu bartner sifil sydd â’u cartref parhaol yn y DU – nac ar roddion a roddwch iddynt yn ystod eich bywyd – hyd yn oed os yw’r swm yn uwch na’r trothwy.
Eithriad ar gyfer elusennau
Caiff unrhyw roddion a roddwch i elusen ‘gymwysedig’ – yn ystod eich bywyd neu yn eich ewyllys – eu heithrio rhag y Dreth Etifeddu. Efallai y bydd rhodd i elusen hefyd yn lleihau’r gyfradd dreth a delir.
Trosglwyddiadau y gellid eu heithrio
Os byddwch yn dal yn fyw saith mlynedd ar ôl rhoi rhodd i rywun, fel rheol caiff y rhodd ei heithrio rhag y Dreth Etifeddu, ni waeth faint oedd gwerth y rhodd.
Eithriad blynyddol
Gallwch roi hyd at £3,000 y flwyddyn, naill ai fel un rhodd neu fel sawl rhodd â’u cyfanswm yn gyfwerth â’r swm hwnnw. Gallwch hefyd ddefnyddio eich lwfans nas defnyddiwyd o’r flwyddyn flaenorol, ond bydd yn rhaid i chi ddefnyddio lwfans y flwyddyn gyfredol yn gyntaf.
Eithriad ar gyfer rhoddion bach
Gallwch roi rhoddion bach hyd at £250 i faint bynnag o unigolion ag a ddymunwch heb dalu treth.
Rhoddion priodas a phartneriaeth sifil
Mae rhoddion i rywun sy’n priodi neu’n cofrestru partneriaeth sifil wedi’u heithrio hyd at swm penodol.
Gostyngiad Fferm, Treftadaeth, Coetir a Busnes
Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar fusnes, fferm, coetir neu eiddo Treftadaeth Genedlaethol, gallwch efallai gael rhywfaint o ostyngiad ar y Dreth Etifeddu.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Etifeddu cyn pen chwe mis i ddiwedd y mis pan fu farw’r ymadawedig. Ar ôl hyn, codir llog ar y swm sy’n ddyledus.
Os yw gwerth yr ystad yn rhwym wrth eiddo, megis tŷ, gallwch dalu’r Dreth Etifeddu mewn rhandaliadau blynyddol dros ddeng mlynedd.
Os ydych yn talu Treth Etifeddu ar ymddiriedolaeth, mae’r dyddiadau talu’n wahanol.
Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen Treth Etifeddu fel rhan o’r broses profiant (neu gadarnhad yn yr Alban), hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddu’n ddyledus. Defnyddir ffurflenni gwahanol gan ddibynnu ar ble roedd yr ymadawedig yn byw, ac a oes unrhyw Dreth Etifeddu yn ddyledus. Rhaid i chi dalu rhywfaint neu’r cyfan o unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus cyn y gallwch gael grant profiant (neu gadarnhad).
Gallwch dalu’r Dreth Etifeddu sy’n ddyledus ar ystad mewn sawl ffordd, gan gynnwys talu ar gyfrif neu dalu mewn rhandaliadau.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs