Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r enghraifft isod yn dangos sut mae Treth Etifeddiant sy'n ddyledus o ystad rhywun a fu farw yn cael ei gweithio allan.
Bu farw Robert ar 10 Ebrill 2011, gan adael £1,000 i elusen 'gymwys' a gweddill ei ystad i'w ferch. £325,000 yw trothwy'r Dreth Etifeddu ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13.
Mae Treth Etifeddu yn daladwy ar gyfradd o naill ai:
Yn yr enghraifft hon, does dim o’r ystâd yn cael ei adael i elusen.
Cyfanswm y gwerth = £359,000
Cyfanswm y didyniadau = £1,000
Gwerth net ystad Robert = £358,000
Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus gan fod gwerth net yr ystad yn fwy na throthwy'r Dreth Etifeddiant o £325,000. Mae Treth Etifeddiant yn daladwy ar 40 y cant ar y swm sy'n fwy na'r trothwy:
Treth Etifeddiant sy'n daladwy = £13,200 (£33,000 x 0.4 (40 y cant))
Codir llog ar unrhyw dreth na gaiff ei thalu erbyn y dyddiad penodedig, waeth beth achosodd yr oedi cyn talu.
Mae cyfraddau llog yn newid o bryd i'w gilydd, gallwch ddilyn y ddolen isod i weld y cyfraddau llog o fis Hydref 1988 hyd yma.
Mynnwch wybod mwy am Dreth Etifeddiant a phroses profiant a'r ffurflenni sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn y dolenni isod.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs