Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Llog ar Dreth Etifeddu – pryd a sut y codir llog

Os ydych chi’n ysgutor neu’n gynrychiolydd personol ar gyfer ystad rhywun sydd wedi marw, mae gennych chwe mis o ddiwedd y mis pan fu’r person farw i dalu unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus. Ar ôl hynny, codir llog ar y dreth sydd ar ôl i’w thalu.

Pryd y dechreuir codi llog?

Rhaid i chi dalu llog o’r diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dyledus’, sydd union chwe mis o ddiwedd y mis pan fu’r person farw. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth pryd yn y mis y bu farw – cyfrifir y dyddiad dyledus o ddiwedd y mis hwnnw.

Mae’r tabl hwn yn dangos i chi sut mae canfod pryd mae’r dyddiad dyledus, a phryd y dechreuir codi llog.

Mis y farwolaeth Y dyddiad dyledus Dechrau codi llog
Ionawr 31 Gorffennaf 1 Awst
Chwefror 31 Awst 1 Medi
Mawrth 30 Medi 1 Hydref
Ebrill 31 Hydref 1 Tachwedd
Mai 30 Tachwedd 1 Rhagfyr
Mehefin 31 Rhagfyr 1 Ionawr
Gorffennaf 31 Ionawr 1 Chwefror
Awst 28/29 Chwefror 1 Mawrth
Medi 31 Mawrth 1 Ebrill
Hydref 30 Ebrill 1 Mai
Tachwedd 31 Mai 1 Mehefin
Rhagfyr 30 Mehefin 1 Gorffennaf

Beth yw’r gyfradd llog?

Bydd cyfraddau llog yn newid o dro i dro. Cliciwch ar y ddolen isod i weld y cyfraddau llog o fis Hydref 1988 hyd heddiw.

Cyfrifo faint o log sy’n ddyledus

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflenni a dechrau paratoi i dalu’r dreth, dilynwch y camau isod i gyfrifo faint o log sy’n ddyledus.

Cam 1 – cyfrifo faint o ddiwrnodau sydd rhwng dyddiad dechrau’r llog a’r dyddiad rydych chi’n bwriadu talu’r dreth. Wrth gyfrifo, mae’n rhaid i chi gynnwys y diwrnod y dechreuwyd codi llog a'r diwrnod rydych chi’n bwriadu talu (gweler yr enghraifft isod).

Cam 2 – canfod beth yw’r gyfradd llog ar gyfer y cyfnod pan ydych wedi methu talu’r Dreth Etifeddu yn llawn.

Cam 3 – lluosi’r dreth sy’n ddyledus gyda’r gyfradd llog ac yna gyda nifer y diwrnodau, a rhannu’r ateb gyda 366 (y dreth sy’n ddyledus x y gyfradd llog x nifer y diwrnodau ÷ 366 = y llog sy’n ddyledus).

Enghraifft

Bu’r person farw ar 10 Rhagfyr 2006, felly 30 Mehefin 2007 yw’r dyddiad dyledus. Telir £5,000 o dreth i Gyllid a Thollau EM ar 10 Tachwedd 2007.

Dechreuir codi llog ar 1 Gorffennaf tan 10 Tachwedd 2007, gyda chynnydd yn y gyfradd llog ar 6 Awst.

Dyma sut mae cyfrifo’r llog:

1 Gorffennaf–5 Awst 2007

Cam 1 – nifer y diwrnodau: 36 (31 ym mis Gorffennaf, 5 ym mis Awst)

Cam 2 – y gyfradd llog: 4 y cant

Cam 3 – y llog sy’n ddyledus: £5,000 x 4 y cant x 36 ÷ 366 = £19.67

6 Awst–10 Tachwedd 2007

Cam 1 – nifer y diwrnodau: 97 (26 ym mis Awst, 30 ym mis Medi, 31 ym mis Hydref, 10 ym mis Tachwedd)

Cam 2 – y gyfradd llog: 5 y cant

Cam 3 – y llog sy’n ddyledus: £5,000 x 5 y cant x 97 ÷ 366 = £66.26

Felly, cyfanswm y llog sy’n ddyledus yw £19.67 + £66.26 = £85.93

Gall cyfrifo’r swm cywir o log fod yn waith cymhleth. Os oes angen help arnoch chi, rhowch gynnig ar y cyfrifiannell llog neu ffoniwch y Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu.

Llog wrth dalu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau

Os byddwch chi’n talu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau blynyddol, bydd y llog yn cael ei gyfrifo mewn ffordd wahanol.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant, budd-daliadau a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl amdano ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU