Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Talu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau blynyddol

Dylech dalu unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad y bu farw perchennog yr ystad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, megis pan fydd ystad yn cynnwys tŷ, gallwch dalu mewn rhandaliadau dros ddeng mlynedd.

Pryd gellir talu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau

Dim ond ar fathau penodol o asedau y cewch dalu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau – fel arfer y rheini a allai gymryd amser i’w gwerthu er mwyn codi’r arian. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • tir ac adeiladau (megis tŷ’r sawl a fu farw)
  • cyfranddaliadau a gwarantau penodol
  • gwerth net busnes sy’n cael ei redeg er elw, ond nid asedau’r busnes
  • eiddo a thir amaethyddol

Rhaid i chi dalu’r dreth yn llawn pan gaiff yr asedau eu talu.

Cyfranddaliadau a gwarantau sy’n gymwys ar gyfer talu mewn rhandaliadau

Gallwch dalu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau ar gyfranddaliadau a gwarantau os, ar adeg y farwolaeth, oedd y cyfranddaliadau neu'r gwarantau yn galluogi'r sawl a fu farw i reoli mwyafrif (mwy na 50 y cant) o bwerau pleidleisio cwmni.

Gallwch chi hefyd dalu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau ar gyfranddaliadau neu warantau heb eu rhestru (hynny yw, os na chânt eu masnachu ar gyfnewidfa stoc a gydnabyddir) yn unrhyw un o’r achosion dilynol:

  • maent yn werth mwy na £20,000 ac maent yn cynrychioli o leiaf 10 y cant o werth ‘nominal’ cyfalaf cyfranddaliadau cwmni (a elwir yn werth enwol weithiau), neu o leiaf 10 y cant o werth nominal cyfalaf cyfranddaliadau arferol y cwmni os mai cyfranddaliadau arferol ydynt
  • rhaid i o leiaf 20 y cant o'r Dreth Etifeddu sy'n ddyledus gan yr unigolyn sy'n atebol am y dreth fod yn ddyledus ar asedau sy'n gymwys ar gyfer talu mewn rhandaliadau, gan gynnwys y cyfranddaliadau neu’r gwarantau dan sylw
  • rydych yn gallu dangos nad oedd y Dreth Etifeddu ar y cyfranddaliadau na’r gwarantau’n gallu cael ei thalu mewn un cyfandaliad heb achosi caledi diangen

Talu gyda rhandaliadau ar dŷ

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis talu mewn rhandaliadau pan fydd yr ystad yn cynnwys tŷ.

Os ydych chi'n bwriadu gwerthu'r tŷ, dim ond 10 y cant o'r Dreth Etifeddu sy'n ddyledus y mae angen i chi ei gael erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu, sef chwe mis ar ôl y farwolaeth. Yna, bydd gennych chi flwyddyn cyn y bydd y rhandaliad nesaf yn ddyledus er mwyn gwerthu’r tŷ a thalu’r gweddill.

Os ydych chi’n bwriadu cadw’r tŷ a byw ynddo, efallai y byddai’n well gennych dalu mewn rhandaliadau gan mai dim ond 10 y cant o'r Dreth Etifeddu y bydd angen i chi ei gael bob blwyddyn (a'r llog yn ychwanegol), yn hytrach na gorfod talu'r Dreth gyfan mewn un cyfandaliad.

Talu mewn rhandaliadau pan fydd Treth Etifeddu yn ddyledus ar rodd

Os gwnaeth y sawl a fu farw roi asedau neu eiddo i chi – a elwir yn aml yn ‘rodd oes’ – a bod Treth Etifeddu yn ddyledus ar y rhodd, gallwch dalu mewn rhandaliadau (os yw’r asedau’n gymwys ar gyfer talu mewn rhandaliadau) cyn belled â’ch bod chi'n dal i fod yn berchen ar yr asedau adeg marwolaeth y sawl a roddodd y rhodd i chi.

Os mai cyfranddaliadau neu warantau heb eu rhestru yw’r asedau, rhaid iddynt barhau i fod heb eu rhestru o’r amser y gwneir y rhodd nes bydd y sawl sy'n gwneud y rhodd yn marw er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer yr opsiwn o dalu mewn rhandaliadau.

Talu mewn rhandaliadau – sut mae’n gweithio

Bydd y cynllun rhandaliadau’n rhedeg dros ddeng mlynedd a byddwch yn talu’r rhandaliadau unwaith y flwyddyn mewn deg rhandaliad cyfartal.

Bydd y rhandaliad cyntaf yn ddyledus ar y dyddiad y byddai’r dreth lawn wedi bod yn ddyledus petaech yn ei thalu mewn un cyfandaliad.

Bydd yn bosib i chi roi terfyn ar y cynllun rhandaliadau ar unrhyw bryd drwy dalu'r dreth sy'n weddill mewn taliad un-swm.

Llog ar randaliadau

Yn gyffredinol, codir llog ar gyfanswm y Dreth Etifeddu sy'n weddill, ac ychwanegir hyn at bob rhandaliad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd llog yn ddyledus ar y rhandaliadau oni bai eu bod yn cael eu talu ar ôl y dyddiad mae'r dreth yn ddyledus.

Er enghraifft, os bydd Treth Etifeddu yn ddyledus ar eich busnes neu ar dir amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio fel rhan o fferm weithredol. Mae hyn yn brin gan fod y rhan fwyaf o fusnesau a ffermydd yn gymwys i gael 100 y cant o ostyngiad Treth Etifeddu.

Pan fyddwch yn talu mewn rhandaliadau ac yn gwerthu'r ased

Os ydych chi’n talu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau a’ch bod yn gwerthu’r ased y mae’r dreth yn berthnasol iddo – neu os yw ased sydd wedi bod mewn ymddiriedolaeth yn cael ei dynnu o ymddiriedolaeth – rhaid i chi dalu gweddill y dreth heb ei thalu sy’n berthnasol i’r ased hwnnw ar unwaith.

Sut mae talu mewn rhandaliadau

Os ydych chi am dalu Treth Etifeddu mewn rhandaliadau blynyddol, rhaid i chi roi tic yn y blwch perthnasol ar ffurflen IHT400 – cyfrif Treth Etifeddu llawn – a defnyddio’r cyfrifiad a ddarperir i gyfrifo’r rhandaliadau.

Neu, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM wneud y cyfrifiad i chi.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU