Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael arian, asedau neu eiddo i chi, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Etifeddu fel arfer. Y rheswm am hyn yw y bydd y Dreth Etifeddu fel arfer yn cael ei thalu allan o’r ystad cyn i chi gael eich etifeddiaeth. Fodd bynnag, mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi eraill.
Ceir tri math o dreth y bydd efallai’n rhaid i chi ei thalu yng nghyswllt etifeddiaeth.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm os bydd yr hyn a etifeddwch chi yn cynhyrchu incwm i chi. Er enghraifft:
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch chi’n gwerthu, yn cyfnewid neu’n rhoi ased i ffwrdd ar ôl i chi ei etifeddu a bod ei werth wedi cynyddu ers dyddiad y farwolaeth. Y term cyfreithiol am y nifer o ffyrdd y gallwch chi beidio â bod yn berchen ar ased yw ‘cael gwared ar’ asedau. (Mewn rhai achosion, efallai y cewch chi’ch trin fel petaech chi wedi cael gwared ar ased sy’n dal yn eiddo i chi – er enghraifft, os cewch chi iawndal am hen grair sydd wedi’i ddifrodi.)
Os bydd gwerth yr ased a etifeddoch chi yn cynyddu rhwng dyddiad marwolaeth yr ymadawedig a’r dyddiad y cewch chi wared arno, bydd y cynnydd yn ‘enillion cyfalaf’. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran isod, ac yn y canllawiau ar Dreth Enillion Cyfalaf.
Fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Etifeddu ar arian, asedau nac eiddo y byddwch chi'n ei etifeddu. Bydd y Dreth Etifeddu fel arfer yn cael ei thynnu o ystad yr ymadawedig cyn i’r etifeddiaeth gael ei throsglwyddo i chi. Fel arfer, dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y bydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Etifeddu ar etifeddiaeth:
Os byddwch chi’n etifeddu eiddo gan eich priod neu’ch partner sifil, byddwch chi’n 'fuddiolwr
eithriedig’ ac, fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Etifeddu tra'r ydych chi'n byw yn y DU.
Os oeddech chi’n berchen ar eiddo ar y cyd â’r ymadawedig ond doeddech chi ddim yn briod ag ef/hi neu’n bartner sifil iddo/iddi, bydd rhaid i chi dalu Treth Etifeddu ar yr eiddo pan fyddwch yn ei etifeddu.
Os oeddech chi’n berchen ar eiddo ar y cyd â’r ymadawedig ond doeddech chi ddim yn briod ag ef/hi neu'n bartner sifil iddo/iddi, ond wedi etifeddu ei gyfran nhw yn yr ewyllys, rhaid i ysgutor neu gynrychiolydd personol yr ymadawedig dalu unrhyw Dreth Etifeddu neu ddyledion cyn dosbarthu’r ystad rhwng y buddiolwyr.
Byddan nhw fel arfer yn ceisio gwneud hyn gan ddefnyddio arian o rannau eraill o’r ystad. Fodd bynnag, os bydd diffyg, chi, sef y perchennog sydd ar ôl, fydd yn gyfrifol am y diffyg hwnnw a bydd gan Gyllid a Thollau EM a chredydwyr eraill hawl i gysylltu â chi.
Os na fydd digon o arian yng ngweddill yr ystad i dalu’r dreth neu’r dyledion eraill sy’n weddill, efallai y bydd angen i chi werthu’r eiddo.
Os yw’r ased a etifeddwch chi yn eiddo rydych chi’n byw ynddo ac yn brif gartref i chi rhwng adeg etifeddu’r eiddo a’r amser y byddwch chi’n cael gwared arno, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch chi’n cael gwared arno. Y rheswm am hyn yw y cewch chi eich eithrio rhag talu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw enillion a wnewch chi wrth gael gwared ar eich prif gartref drwy'r 'Gostyngiad Preswylfan Breifat', ond chewch chi ddim eich eithrio am enillion ar unrhyw gartref arall.
Chewch chi ddim gostyngiad Treth Enillion Cyfalaf am fwy nag un eiddo ar yr un pryd, felly os byddwch chi’n etifeddu ail eiddo ac yn byw ynddo, dylech chi enwebu un o’ch cartrefi yn brif gartref i chi. Dylech chi wneud hyn cyn pen dwy flynedd ar ôl gwneud un ohonynt yn brif gartref i chi, a rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM.
Os na fyddwch chi’n enwebu un o’ch cartrefi yn brif gartref ac wedyn yn gwerthu neu’n cael gwared ar un ohonynt, bydd y penderfyniad ynghylch pa gartref oedd eich prif gartref yn cael ei wneud ar sail y ffeithiau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os bydd gwerth y cartref nad yw’n brif gartref i chi yn cynyddu.
Os byddwch chi'n penderfynu gosod yr eiddo ar rent, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar unrhyw elw y byddwch chi’n ei wneud o’r incwm rhent. Bydd yn rhaid i chi hefyd gydymffurfio â'r cyfreithiau perthnasol ar ddiogelwch yr eiddo a rhywfaint o'r cynnwys.
Mae ymddiriedolaeth yn ffordd o ddal a rheoli arian, asedau neu eiddo er budd unigolyn neu grŵp o bobl. Os byddwch chi’n etifeddu rhywbeth mewn ymddiriedolaeth, chi fydd y buddiolwr, ond yr ymddiriedolwr fydd perchennog cyfreithiol yr hyn a ddelir yn yr ymddiriedolaeth, a bydd wedi’i rwymo’n gyfreithiol i ddelio ag ef fel y nodwyd gan yr ymadawedig yn ei ewyllys. Bydd yr ymddiriedolwr yn delio â materion treth yr ymddiriedolaeth, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar unrhyw incwm a gewch chi o'r ymddiriedolaeth.
Fodd bynnag, os yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth hawl absoliwt, chi fydd y perchennog cyfreithiol yn ogystal â'r buddiolwr. Byddwch yn gyfrifol am dalu unrhyw dreth ar incwm y bydd yr ymddiriedolaeth yn ennill.
Gall etifeddu eiddo fod yn gymhleth, ac felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol gan dwrnai. Gallwch chi hefyd gael cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim gan nifer o sefydliadau megis Cyngor Ar Bopeth (CAB).
Isod ceir dolenni i sefydliadau proffesiynol - ond ni fydd pob gweithiwr proffesiynol wedi’i gofrestru â nhw.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs