Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn gosod eiddo, gallwch ddidynnu treuliau a lwfansau treth penodol o'ch incwm rhent er mwyn gweithio allan eich elw trethadwy neu golled. Os ydych yn gosod sawl eiddo preswyl yn y DU, rydych yn cronni'r incwm a'r treuliau gyda'i gilydd. Ond rydych yn gweithio allan yr elw o osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu ac eiddo tramor ar wahân.
Mae'r treuliau y gallwch eu didynnu o incwm rhent (ac eithrio'r cynllun Rhentu Ystafell) yn cynnwys:
Os yw eich incwm blynyddol o osod eiddo ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12 yn llai na £70,000 (cyn treuliau), gallwch gynnwys cyfanswm y treuliau ar eich ffurflen dreth. Os yw'n £70,000 neu drosodd, bydd angen i chi ddarparu dadansoddiad.
Dim ond treuliau sy'n ymwneud yn llwyr â rhedeg eich busnes gosod eiddo y gallwch eu hawlio. Os yw'r draul ond yn ymwneud yn rhannol â rhedeg eich busnes (neu os ydych yn defnyddio'r eiddo eich hun), dim ond rhan ohoni y gallwch ei hawlio.
Pan fyddwch yn gweithio allan eich elw, ni allwch ddidynnu:
Ond efallai y byddwch yn gallu hawlio rhai lwfansau yn lle hynny.
Mae mathau gwahanol o lwfansau y gallwch eu hawlio o bosibl ar gyfer eich costau cyfalaf. Mae costau cyfalaf yn cynnwys gwariant ar asedau fel dodrefn a pheiriannau. Mae'r lwfansau y gallwch eu hawlio ar gyfer rhai o'ch costau cyfalaf yn amrywio yn ôl y math o eiddo rydych yn ei osod.
Gosod eiddo preswyl wedi'i ddodrefnu yn y DU a thramor
Gallwch hawlio lwfans 'traul' am ddodrefn ac offer a ddarperir wrth osod eiddo preswyl wedi'i ddodrefnu (ac eithrio gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu). Mae'r lwfans ar gyfer 10 y cant o'r 'rhent net' - sef y rhent a geir llai unrhyw gostau rydych yn eu talu y byddai tenant fel arfer yn eu talu - er enghraifft treth cyngor.
Yn lle'r lwfans traul, gallwch hawlio lwfans 'adnewyddu'. Mae hwn yn cwmpasu cost gosod dodrefn neu offer newydd yn lle'r hen rai, gan gynnwys mân eitemau fel cyllyll a ffyrc. Er mwyn ei weithio allan, tynnwch y canlynol o gost yr eitem newydd:
Unwaith y byddwch wedi dewis pa un o'r lwfansau hyn i'w hawlio ar gyfer eiddo, ni allwch newid o un i'r llall o flwyddyn i flwyddyn. Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer offer i'w ddefnyddio mewn 'tŷ annedd'. Ystyrir y rhan fwyaf o lety preswyl yn dŷ annedd - gallwch gael gwybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.
Gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu
Os ydych yn berchen ar eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu cymwys yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac yn ei osod, gallwch hawlio 'lwfansau cyfalaf' yn seiliedig ar gost y dodrefn a'r offer a ddarperir gyda'r eiddo. Neu gallwch hawlio lwfans adnewyddu (esbonnir hwn uchod). Ni allwch hawlio lwfansau traul.
Unwaith y byddwch wedi dewis y math o lwfans i'w hawlio, mae'n rhaid i chi gadw ato.
Er mwyn cael gwybod sut mae lwfansau cyfalaf yn gweithio, gweler yr adran isod: 'Faint o lwfans cyfalaf y gallwch ei hawlio?'
Pob eiddo a osodir
Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer dodrefn a ffitiadau i'w defnyddio mewn tŷ annedd os oes gennych fusnes rhentu eiddo oni bai ei fod yn gymwys fel busnes gosod eiddo gwyliau wedi'i dodrefnu.
Ni waeth pa fath o eiddo rydych yn ei osod, gallwch hawlio lwfans cyfalaf ar gost pethau sydd eu hangen arnoch i redeg eich busnes gosod eiddo, fel cyfrifiadur. Gallwch hefyd hawlio ar gyfer offer nad yw at ddibenion gosod un eiddo, fel system larwm tân newydd ar gyfer bloc o fflatiau.
Faint o lwfans cyfalaf y gallwch ei hawlio?
Mae mathau gwahanol o lwfansau. Mewn rhai achosion, gallwch hawlio cost lawn eitem fel didyniad yn y flwyddyn y byddwch yn ei phrynu. Mewn achosion eraill, gallwch hawlio eich holl wariant ar eitemau amrywiol yn y flwyddyn y byddwch yn eu prynu. Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio allan y lwfans fel canran o'r gwerth mewn cronfa wariant. Caiff y lwfans ei ddidynnu ynghyd â threuliau eraill wrth gyfrifo'r elw.
Os byddwch yn defnyddio'r eitem ar gyfer unrhyw beth arall ar wahân i'ch busnes, bydd yn rhaid i chi weithio allan y lwfans ar gyfer yr eitem honno ar wahân. Yna, gallwch ond hawlio'r swm sydd at ddefnydd busnes. Mae'r ddolen isod yn rhoi mwy o wybodaeth.
Mae'n rhaid i chi ddyrannu treuliau i'r flwyddyn y maent yn berthnasol iddi - nid oes ots pryd rydych yn eu talu. Fodd bynnag, at ddibenion lwfansau cyfalaf, mae'r flwyddyn y mae cost eitem yn daladwy yn bwysig. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddyrannu rhan o draul i un flwyddyn a rhan arall i flwyddyn llall.
Os bydd eich busnes gosod eiddo yn gwneud colled, gallwch ei gario drosodd i flwyddyn ddiweddarach a'i wrthbwyso yn erbyn elw yn y dyfodol gan yr un busnes. Os yw'n fusnes gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), gallwch wrthbwyso eich colled yn erbyn eich holl incwm, nid incwm eich eiddo yn unig.
Dim ond i flynyddoedd treth hyd at 2009-10, gan gynnwys y flwyddyn honno, y mae hyn yn gymwys. O ran blynyddoedd diweddarach, dim ond eich colledion wrth osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu y gallwch eu gwrthbwyso yn erbyn eich elw o osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu, ar gyfer naill ai eich busnes yn y DU neu'r AEE fel y bo'n briodol.